Mwy o wybodaeth a termau allweddol

Cliciwch ar y lluniau i gael mwy o wybodaeth

Adnodd gwych a ddatblygwyd gan The Democracy Box

Ffynhonnell ddiduedd y gellir ymddiried ynddi i gael gwybodaeth ar gyfer popeth sy’n ymwneud ag etholiadau a democratiaeth

Canllaw am yr Etholiad Cyffredinol a gynhelir yn fuan (ar gael yn Saesneg yn unig)

TERMAU ALLWEDDOL

Cliciwch ar y term allweddol i ddysgu ei ystyr:

Adduned

yr hyn y mae ymgeisydd neu blaid yn ei addo.

Aelod o’r Senedd

Mae Aelod o’r Senedd yn unigolyn sydd wedi’i ethol i Senedd Cymru.

Aelod Seneddol

Mae Aelod Seneddol yn unigolyn sydd wedi’i ethol i Senedd y DU.

Blaenoriaethau

Blaenoriaethau:  Mae blaenoriaeth wleidyddol yn faes neu fater y mae ymgeisydd neu blaid yn credu ei fod yn bwysig ac eisiau gweithio i’w wella.

Blwch Pleidleisio

dyma lle byddwch chi’n rhoi eich papur pleidleisio wedi’i blygu ar ôl i chi nodi’ch pleidlais arno.

Cofrestru i bleidleisio

mae bod wedi cofrestru i bleidleisio yn golygu eich bod ar y Gofrestr Etholiadol a’ch bod yn cael pleidleisio mewn etholiadau cymwys.

Cynghorydd

Mae Cynghorwyr Lleol yn cael eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai’r Cyngor gynnal ei weithgareddau amrywiol.

Datganiad

Sylwadau am faterion gwleidyddol a wneir gan ymgeisydd, er mwyn i chi gael gwybod mwy am eu blaenoriaethau a’u gwerthoedd.

Democratiaeth

democratiaeth yw llywodraeth sy’n cael ei rhedeg gan bobl y mae’r cyhoedd wedi pleidleisio drostyn nhw.

Diduedd

mae rhywbeth yn ddiduedd pan nad yw’n cymryd safbwynt gwleidyddol.

Etholaeth

lleoliad y mae Aelod o’r Senedd neu Aelod Seneddol yn gyfrifol am ei gynrychioli. Mae gan Gymru 32 o etholaethau.

Etholiad Cyffredinol

Etholiad y DU ar gyfer Aelodau Seneddol.

Etholiad Lleol

Etholiad sy’n cael ei gynnal yn eich ardal leol i bleidleisio dros gynghorwyr.

Etholiad y Senedd

Etholiad yng Nghymru ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

Etholiad

pan mae pleidlais yn cael ei chynnal ac mae’r cyhoedd yn cael pleidleisio dros ymgeisydd.

Gorsaf Bleidleisio

lleoliad y gallwch chi fynd iddo i fwrw’ch pleidlais. Ysgol neu neuadd bentref fydd hwn fel arfer.

Gwlad Ddatganoledig

Mae Cymru’n wlad ddatganoledig. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU wedi rhoi rhywfaint o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru allu gwneud penderfyniadau ar ran pobl, cymunedau a busnesau Cymru y maen nhw’n effeithio arnyn nhw.

Gwleidyddiaeth

y gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rhedeg y wlad, gan gynnwys y ddadl ynglŷn â grym rhwng y pleidiau gwleidyddol.

Llywodraeth

: Y Llywodraeth sy’n penderfynu sut mae pethau’n cael eu rhedeg ac yn rheoli’r materion dydd i ddydd. Maen nhw’n defnyddio’r arian y maen nhw’n ei gael o drethi i dalu a gwneud penderfyniadau am bethau fel ysgolion, ysbytai, y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a’r system gyfreithiol. Mae Senedd y DU yn craffu ar y Llywodraeth.

Llywodraeth Glymblaid

gall hyn ddigwydd pan na fydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif llwyr o’r pleidleisiau mewn etholiad. Bydd mwy nag un blaid wleidyddol yn llunio cytundeb rhannu grym i redeg y wlad gyda’i gilydd.

Maniffesto

Datganiad yw maniffesto y mae plaid wleidyddol yn ei gyhoeddi, fel arfer wrth baratoi ar gyfer etholiad, yn amlinellu eu blaenoriaethau a’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud pe bydden nhw’n ennill yr etholiad.

Pleidleisio

bwrw pleidlais dros unigolyn neu grŵp o bobl er mwyn iddyn nhw wneud swydd, fel bod yn gynghorydd.

Prif Weinidog

Prif Weinidog Cymru yw arweinydd y blaid a enillodd y mwyaf o seddi yn Etholiad y Senedd.

Prif Weinidog y DU

Prif Weinidog y DU yw arweinydd y blaid a enillodd y mwyaf o seddi yn Etholiad Cyffredinol y DU.

Rhagfarn

mae rhywbethsy’n dangos rhagfarn yn cefnogi neu’n gwrthwynebu ymgeisydd neu blaid wleidyddol yn annheg.

Rhif Yswiriant Gwladol

defnyddir hwn i gael gwybodaeth am eich cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol, a gofynnir i chi amdano pan fyddwch chi’n cofrestru i bleidleisio. Rydych chi fel arfer yn cael hwn mewn llythyr yn y post cyn eich pen-blwydd yn 16 oed, ond os na allwch chi ddod o hyd i’r llythyr, mae’r rhif i’w weld ar unrhyw slipiau cyflog neu ffurflenni P60 neu P45 rydych chi wedi’u cael. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi un, fe allwch chi gofrestru hebddo.

Seddi

os bydd ymgeisydd yn ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth, yna fe fyddan nhw’n ennill y ‘sedd’ honno. Y blaid â’r mwyaf o ‘seddi’ sy’n ennill yr etholiad ac yn ffurfio’r llywodraeth.

Senedd

dyma’r teitl a ddefnyddir yn y Gymraeg a’r Saesneg am ein Senedd ni yng Nghymru. Nhw sy’n gwneud cyfreithiau, yn pennu trethi ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru.

Senedd y DU

Yn y DU, mae’r Senedd yn cynnwys y Brenin, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Maen nhw’n codi pynciau i’w trafod, yn gwneud ac yn pasio cyfreithiau newydd ac yn craffu ar y Llywodraeth.

Tŷ’r Arglwyddi

mae’n cynnwys pobl nad ydyn nhw wedi’u hethol. Maen nhw’n annibynnol ar Dŷ’r Cyffredin, ond yn ategu ei waith.

Tŷ’r Cyffredin

mae’n cynnwys yr Aelodau Seneddol y mae’r cyhoedd wedi’u hethol.

Ymgeiswyr

ymgeisydd yw’r person y gallwch chi bleidleisio drosto mewn etholiad.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham