Sut ydw i’n gwybod dros bwy i bleidleisio?

Yn dibynnu ar y math o etholiad, fe fydd gennych chi wahanol ymgeiswyr:

Yn Wrecsam, Etholiad Lleol (Etholiad y Cyngor) yw’ch cyfle chi i bleidleisio dros gynghorwyr lleol. Nhw fydd yn gyfrifol am bethau fel y biniau, y strydoedd, adeiladau cyhoeddus (fel llyfrgelloedd), mannau agored (fel parciau), ysgolion, gwasanaethau ieuenctid a gofal cymdeithasol.

Gan fod Cymru’n wlad ddatganoledig, mae gennym ni hefyd Etholiadau’r Senedd (Etholiadau Senedd Cymru), pan fyddwn ni’n pleidleisio dros Aelodau o’r Senedd. Arweinydd y blaid sy’n ennill y mwyaf o seddi sy’n dod yn Brif Weinidog. Y Senedd sy’n gyfrifol am bethau sy’n effeithio Cymru’n uniongyrchol, fel tai, addysg, iechyd, yr amgylchedd, cludiant, amaethyddiaeth (ffermio) a mwy.

Yn Etholiadau’r DU, rydych chi’n pleidleisio dros Aelod Seneddol i’ch cynrychioli chi yn Nhŷ’r Cyffredin. Arweinydd y blaid sy’n ennill y mwyaf o seddi seneddol sy’n dod yn Brif Weinidog y DU. Yna, bydd Prif Weinidog y DU yn ffurfio eu llywodraeth ac yn dewis y cabinet. Senedd a Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bethau sy’n effeithio ar bawb yn y DU, fel amddiffyniad (y lluoedd arfog), mewnfudo, polisi economaidd a mwy.

Sut alla’ i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy?

Wrth chwilio am wybodaeth ar lein, fe allwch chi ddod o hyd i wybodaeth ddiduedd ar wefan neu gyfryngau cymdeithasol yr ymgeisydd neu’r blaid ei hun, neu ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Fe allwch chi ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy mewn mannau eraill hefyd, ond cofiwch wirio’r ffynhonnell, yr awdur a’r noddwr am unrhyw gysylltiad gwleidyddol (fe all y wybodaeth gynnwys rhagfarn os ydyn nhw’n cefnogi plaid benodol). Fe allwch chi hefyd wirio’r ffeithiau drwy eu cymharu â ffynonellau eraill, neu drwy ddefnyddio gwiriwr ffeithiau.

Ar y cyfan, rhaid i newyddiadurwyr ar y teledu a’r radio fod yn ddiduedd am eu bod yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom. Dysgwch fwy yma.

Byddwch yn ofalus wrth gael gafael ar wybodaeth sydd wedi’i chreu gan gyfryngau fel papurau newydd. Does dim rhaid i bapurau newydd fod yn ddiduedd, ac maen nhw’n aml yn cymryd ochr neu’n dangos gwrthwynebiad amlwg at blaid wleidyddol benodol, ac mae rhai’n ceisio dylanwadu ar eu darllenwyr.

Does dim rheolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol na’r rhyngrwyd, sy’n golygu y gall unrhyw un bostio unrhyw beth. Os yw’ch cymydog yn postio ar Facebook bod plaid wleidyddol eisiau ei gwneud hi’n anghyfreithlon i chi ddowcio’ch bisgeden yn eich paned, mae’n debyg y dylech chi wirio’r wybodaeth honno!

Fe allwch chi siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu am wleidyddiaeth, democratiaeth a phleidleisio, ond fe all y sgyrsiau hyn droi’n ddadl danbaid os nad ydych chi’n cytuno ar rywbeth rydych chi’n teimlo’n frwd drosto. Mae’n bwysig ceisio parchu barn pobl eraill. Bydd gadael iddyn nhw fynegi eu safbwynt yn eich helpu chi i ddeall eu neges yn well.

Felly sut ydw i’n penderfynu ar ymgeisydd?

Wrth geisio penderfynu dros bwy i bleidleisio, bydd angen i chi ystyried y datganiad y mae’ch ymgeiswyr wedi’i wneud a maniffestos eu plaid.

I ganfod pwy yw’ch ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau sydd i ddod ac i ddarllen eu datganiadau, ewch i They Work For You neu Who Can I Vote For?

Fe welwch chi faniffesto pob plaid ar eu gwefannau pan fyddan nhw wedi’u rhyddhau, neu drwy ffynonellau newyddion diduedd fel y teledu neu’r radio. Cofiwch, dydi pob ffynhonnell newyddion ddim yn ddiduedd ac maen nhw’n aml yn ceisio dylanwadu ar eu darllenwyr.

Cofiwch, eich llais CHI yw hwn! Ddylai pobl eraill ddim bod yn ceisio dylanwadu ar eich penderfyniad, a does dim angen i chi ddweud wrth unrhyw un dros bwy rydych chi’n bwriadu pleidleisio. Ddylech chi ddim pleidleisio dros ymgeisydd am fod eich ffrindiau/teulu yn gwneud hynny, fe ddylech chi bleidleisio dros yr ymgeisydd fydd yn eich cynrychioli chi a’r hyn rydych chi’n credu ynddo orau.

TERMAU ALLWEDDOL

  • Etholiad: pan mae pleidlais yn cael ei chynnal ac mae’r cyhoedd yn cael pleidleisio dros ymgeisydd.
  • Ymgeiswyr: ymgeisydd yw’r person y gallwch chi bleidleisio drosto mewn etholiad.
  • Etholiad Lleol: Etholiad sy’n cael ei gynnal yn eich ardal leol i bleidleisio dros gynghorwyr.
  • Cynghorydd: Mae Cynghorwyr Lleol yn cael eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai’r Cyngor gynnal ei weithgareddau amrywiol.
  • Gwlad Ddatganoledig: Mae Cymru’n wlad ddatganoledig. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU wedi rhoi rhywfaint o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru allu gwneud penderfyniadau ar ran pobl, cymunedau a busnesau Cymru y maen nhw’n effeithio arnyn nhw.
  • Etholiad y Senedd: Etholiad yng Nghymru ar gyfer Aelodau o’r Senedd.
  • Senedd y DU: Yn y DU, mae’r Senedd yn cynnwys y Brenin, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Maen nhw’n codi pynciau i’w trafod, yn gwneud ac yn pasio cyfreithiau newydd ac yn craffu ar y Llywodraeth.
  • Aelod o’r Senedd: Mae Aelod o’r Senedd yn unigolyn sydd wedi’i ethol i Senedd Cymru.
  • Seddi: os bydd ymgeisydd yn ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth, yna fe fyddan nhw’n ennill y ‘sedd’ honno. Y blaid â’r mwyaf o ‘seddi’ sy’n ennill yr etholiad ac yn ffurfio’r llywodraeth.
  • Prif Weinidog: Prif Weinidog Cymru yw arweinydd y blaid a enillodd y mwyaf o seddi yn Etholiad y Senedd.
  • Etholiad Cyffredinol: Etholiad y DU ar gyfer Aelodau Seneddol.
  • Prif Weinidog y DU: Prif Weinidog y DU yw arweinydd y blaid a enillodd y mwyaf o seddi yn Etholiad Cyffredinol y DU.
  • Llywodraeth: Y Llywodraeth sy’n penderfynu sut mae pethau’n cael eu rhedeg ac yn rheoli’r materion dydd i ddydd. Maen nhw’n defnyddio’r arian y maen nhw’n ei gael o drethi i dalu a gwneud penderfyniadau am bethau fel ysgolion, ysbytai, y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a’r system gyfreithiol. Mae Senedd y DU yn craffu ar y Llywodraeth.
  • Rhagfarn: mae rhywbethsy’n dangos rhagfarn yn cefnogi neu’n gwrthwynebu ymgeisydd neu blaid wleidyddol yn annheg.
  • Diduedd:  mae rhywbeth yn ddiduedd pan nad yw’n cymryd safbwynt gwleidyddol.
  • Datganiad: Sylwadau am faterion gwleidyddol a wneir gan ymgeisydd, er mwyn i chi gael gwybod mwy am eu blaenoriaethau a’u gwerthoedd.
  • Maniffesto: Datganiad yw maniffesto y mae plaid wleidyddol yn ei gyhoeddi, fel arfer wrth baratoi ar gyfer etholiad, yn amlinellu eu blaenoriaethau a’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud pe bydden nhw’n ennill yr etholiad.
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham