Senedd yr Ifanc, Wrecsam
Mae Senedd yr Ifanc yn ymgynghori â phobl ifanc eraill 11-25 oed yna’n yn hyrwyddo newid cadarnhaol yn Wrecsam.
AR Y DUDALEN HON...
Beth yw Senedd yr Ifanc?
Ein Prosiectau a Blaenoriaethau Presennol
Newyddion Senedd yr Ifanc
Ein Prosiectau a Blaenoriaethau Blaenorol
Sut i Gymryd Rhan
BETH YW SENEDD YR IFANC?
Senedd ieuenctid yw Senedd yr Ifanc, sydd wedi’i ffurfio o wirfoddolwyr rhwng 11 a 25 oed sydd â chysylltiad â Wrecsam.
Mae Senedd yr Ifanc yn cwrdd ar ddydd Llun olaf bob mis ac eithrio gwyliau banc a Seibiant y Gaeaf. Cynhelir cyfarfodydd yn Neuadd y Dref, Wrecsam, ac mae rhannau ffurfiol ac anffurfiol i’r cyfarfodydd.
Gallai cyfarfod arferol gynnwys gweithgaredd torri’r iâ i ddechrau’r sesiwn yna trafodaethau, gweithdai seiliedig ar faterion, gwaith grŵp, rhannu syniadau, gwaith prosiect ac ymweliadau gan weithwyr proffesiynol a hoffai gael mewnbwn pobl ifanc am brosiect. Darperir cyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli i aelodau Senedd yr Ifanc hefyd a rhoddir cydnabyddiaeth fel tystysgrifau ac achrediad am hyn.
Mae’r aelodau’n gweithio ar gasglu safbwyntiau a barn pobl ifanc am faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Yna maen nhw’n gweithio ar y cyd â sefydliadau a gweithwyr proffesiynol i geisio sicrhau newid cadarnhaol.
Ein Prosiectau a Blaenoriaethau Presennol
Dyma rai o’r prosiectau a mae aelodau Senedd yr Ifanc yn cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd.
Prosiect Atal Troseddau â Chyllyll
Dechreuodd gwaith ar brosiect Atal Troseddau â Chyllyll Senedd yr Ifanc yn 2019, pan amlygodd pobl ifanc Wrecsam y mater. Ers hynny, mae’r bobl ifanc wedi creu a chynnal dau ymgynghoriad i gasglu barn pobl ifanc. Ar ôl yr ymgynghoriad, creodd aelodau grŵp Atal Troseddau â Chyllyll Senedd yr Ifanc eu hymgyrch ‘Dechrau #SgwrsAmGyllyll’. Nod yr ymgyrch hon yw atal ac amlygu peryglon cario cyllell. I gael gwybodaeth am yr ymgynghoriad, cysylltwch â youngvoices@wrexham.gov.uk.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Aelodau Senedd yr Ifanc sydd wedi bod yn cefnogi gwaith gyda BIPBC wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau. Mae’r rhain yn cynnwys: Cefnogi datblygiad Siarter y Plant a Llyfr Ryseitiau – addewid i barchu lles, llais a hawliau plant a phobl ifanc o sefydliadau yng Nghymru; Cynnig datblygiad ‘Byrddau Arweinyddiaeth’ (fforymau ieuenctid) yn BIPBC yn llwyddiannus i’r Prif Weithredwr, gan amlinellu pwysigrwydd hawliau plant a llais ieuenctid; a Cyfrannu’n rheolaidd at broses gyfweld unigolion sy’n gwneud cais am rôl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc neu sy’n berthnasol iddynt.
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
Dechreuodd Senedd yr Ifanc weithio ar y cyd â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) ar y prosiect hwn yn 2018 pan wnaeth pobl ifanc sy’n defnyddio eu gwasanaeth ddweud wrthym fod amgylchedd ystafelloedd apwyntiadau yn rhy glinigol iddynt deimlo’n gyfforddus ynddynt. Yn 2020, gwnaethom lansio ymgynghoriad lle dywedodd 947 o bobl ifanc wrthym sut hoffent weld amgylchedd CAMHS a’r wefan yn cael eu gwella. Rhannwyd y wybodaeth a gasglwyd â CAMHS ac rydym yn cydweithio ar hyn o bryd i wneud addasiadau ar sail yr ymatebion i’r ymgynghoriad.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae nifer o aelodau Senedd yr Ifanc ar raglen Llysgenhadon Ifanc Iechyd Cyhoeddus Cymru. Grŵp cenedlaethol o bobl ifanc 12-21 oed yw’r rhaglen, a grëwyd â’r nod o baratoi a grymuso pobl ifanc i ddylanwadu ar broses gwneud penderfyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ffordd ystyrlon a chymryd rhan ynddi. Mae’r gwaith yn cael ei wneud yn ystod cyfnodau preswyl yng Nghaerdydd, deirgwaith y flwyddyn. Mae’r gwaith diweddar mae’r aelodau wedi’i gefnogi yn cynnwys: creu deunydd cyfathrebu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgysylltu â phobl ifanc, cymryd rhan ym Mwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhyw a pherthnasoedd, camddefnyddio sylweddau a fêpio ac urddas mislif.
Senedd Ieuenctid y DU
Senedd Ieuenctid y DU yw corff o bobl ifanc rhwng 11-18 oed sydd wedi’u hethol o ledled y DU. Mae Senedd Ieuenctid y DU yn defnyddio eu llais etholedig i gyflwyno newid cymdeithasol trwy gynrychiolaeth ystyrlon ac ymgyrchu, gan alluogi pobl ifanc i ddefnyddio eu hegni a’u hangerdd i newid y byd er gwell. Yn Wrecsam, mae aelodau Senedd yr Ifanc yn ethol unigolyn i gynrychioli barn pobl ifanc Wrecsam a’i rhannu â Senedd Ieuenctid y DU. Ar hyn o bryd, aelod presennol Senedd Ieuenctid y DU o Wrecsam yw Katie, ac Alex yw’r dirprwy aelod.
Diwrnod Byd-eang y Plant
Caiff Diwrnod Byd-eang y Plant ei ddathlu ar draws y byd ar 20 Tachwedd. Bob blwyddyn, bydd timau yng Nghyngor Wrecsam yn cynnal digwyddiad blynyddol ar y diwrnod hwnnw neu’n agos ato, i ddathlu hawliau plant a’u lle mewn cymdeithas. Mae’r digwyddiad am ddim ac wedi’i dargedu ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Fel arfer, bydd talebau bwyd am ddim, gwybodaeth, stondinau marchnad, gweithgareddau ac adloniant yn y digwyddiadau. Mae Senedd yr Ifanc yn cyfrannu at gynllunio’r digwyddiad gan gynnal eu stondin eu hunain a darparu gweithgaredd difyr.
Wythnos Gwaith Ieuenctid
Caiff Wythnos Gwaith Ieuenctid ei ddathlu ym mis Mehefin bob blwyddyn yng Nghymru. Eleni (2023), daeth sefydliadau ieuenctid a phobl ifanc ar draws Wrecsam at ei gilydd i ddathlu effaith gadarnhaol gwaith ieuenctid a hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael. Ymunodd aelodau Senedd yr Ifanc â’r dathliadau gyda stondin yn hyrwyddo’r gwaith rydym yn ei wneud, ac ymuno â’r orymdaith trwy’r ddinas.
Diwrnod Chwarae
Ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst bob blwyddyn, mae Tîm Chwarae Wrecsam yn cynnal ‘Diwrnod Chwarae’ yng nghanol y ddinas. Caiff Diwrnod Chwarae ei ddathlu’n genedlaethol i bwysleisio pwysigrwydd chwarae. Bob blwyddyn, mae’r diwrnod yn llawn gweithgareddau difyr am ddim, a bydd miloedd o blant yn eu mwynhau. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladu cuddfannau, adeiladu go-cart, pwll tywod mawr, sleidiau dŵr a thân. Mae Senedd yr Ifanc yn cefnogi’r digwyddiad gwych hwn bob blwyddyn gyda stondin a gweithgaredd eu hunain, fel blociau dŵr, peintio wynebau a gemau syrcas.
Teithiau Gwobrwyo
Mae’r bobl ifanc sy’n gwirfoddoli eu hamser i Senedd yr Ifanc yn gweithio’n arbennig o galed trwy gydol y flwyddyn. Fel diolch am eu hymroddiad, cynigir gweithgareddau a theithiau iddynt fel gwobrau. Yn ddiweddar, mae rhai o’r gweithgareddau maen nhw wedi’u dewis yn cynnwys bowlio, ystafelloedd dianc, sŵ, amgueddfeydd, cestyll a bwytai.
Blaenoriaethau
Bydd pobl ifanc Wrecsam yn pleidleisio dros flaenoriaethau’r grŵp o ran newid yn ystod eu Pleidlais (pleidlais fawr a gynhelir bob dwy flynedd). Blaenoriaeth bresennol y grŵp yw ‘Iechyd Meddwl a Lles’. Fe gynhelir ymgynghoriad newydd yn ystod yr hydref 2023 a chaiff blaenoriaeth newydd ei dyrannu ym mis Ionawr 2024 ar sail lleisiau pobl ifanc yn Wrecsam. Ar ôl i’r prif faterion gael eu dewis, bydd Senedd yr Ifanc yn gweithio arnynt am y ddwy flynedd nesaf er mwyn gwneud newid cadarnhaol i bobl ifanc Wrecsam.
NEWYDDION SENEDD YR IFANC
Ar y dudalen hon, mae ein newyddion mwyaf diweddar sy’n nodi cyflawniadau a gwaith Senedd yr Ifanc.
EIN PROSIECTAU A BLAENORIAETHAU BLAENOROL
Prosiectau Blaenorol
Mae’r prosiectau rydym ni’n gweithio arnynt yn newid yn barhaus. Rydym ni’n ymgysylltu â rhai prosiectau’n rheolaidd (fel Diwrnod Chwarae, Diwrnod Byd-eang y Plant a gwaith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru) ond mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o brosiectau ddod i ben. Gweler isod i gael syniad o rywfaint o’r gwaith rydym wedi cymryd rhan ynddo yn y gorffennol.
Prosiectau Lleol
Ers ei greu yn 2010, mae Senedd yr Ifanc wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect, gweithgaredd a digwyddiad a’u datblygu. Dyma rai enghreifftiau o’n gwaith blaenorol yn lleol:
Digwyddiadau
Digwyddiadau fel ‘Wrexpression’ (dathlu mynegiant creadigol) a ‘Dathlu 30 Mlynedd o Hawliau Plant’.
Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Cyfle i ferched gysgodi menywod dylanwadol a llwyddiannus ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.
Amser Gwneud Gwahaniaeth
Prosiect Iechyd Meddwl a oedd yn darparu hyfforddiant i athrawon a hysbysfyrddau addysgol mewn ysgolion.
Fideos
Fideos addysgol/hyrwyddo ar feysydd gan gynnwys Disgybl-lywodraethwyr Cyswllt, Senedd yr Ifanc a lleihau sbwriel.
16 oed i Bleidleisio
Ymgyrchu dros hawl pobl ifanc 16 oed i Bleidleisio.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam i lunio ‘Ein Hymgynghoriad Lles’. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.
Mewnbwn Cenedlaethol
Cymru Ifanc
Cymru Ifanc (a gaiff ei redeg gan Plant yng Nghymru): Platfform cenedlaethol yw Cymru Ifanc sy’n bwydo i Lywodraeth Cymru. Trwy’r prosiect hwn, mae pobl ifanc o Wrecsam wedi cyfrannu at bolisïau a strategaethau cenedlaethol a chwrdd â rhai sy’n gwneud penderfyniadau gan gynnwys Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Cyngor Ieuenctid y Gymanwlad
Mynychodd aelod o Senedd yr Ifanc Gyngor Ieuenctid y Gymanwlad yn 2017 i gynrychioli pobl ifanc Cymru.
Gwobr Gwaith Ieuenctid Genedlaethol
Gwahoddwyd aelodau Senedd yr Ifanc gan Lywodraeth Cymru i feirniadu categori Gwobr Gwaith Ieuenctid Genedlaethol. Cawsant gyflwyno’r wobr i’r enillydd yng Nghaerdydd hefyd.
Pleidlais Gwneud Eich Marc
Yn debyg i’n Pleidlais ein hunain, mae Pleidlais Gwneud Eich Marc yn rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi barn am y materion mwyaf sy’n wynebu pobl ifanc, ond ar lefel genedlaethol.
Blaenoriaethau Blaenorol
Mae blaenoriaethau’n dal i fod ar waith am dymor llawn (dwy flynedd) cyn iddynt fod yn destun pleidlais arall. Yn ystod y tymor blaenorol (2020 – 2022), dywedodd pobl ifanc yn Wrecsam wrthym mai ‘Ein Hamgylchedd’ a ‘Deall Troseddau â Chyllyll’ oedd y ddau brif fater iddyn nhw. Yn ystod tymor 2018 – 2020, pleidleisiodd pobl ifanc dros ‘Atal a Stopio Bwlio’ a ‘Fy Llais i’ fel y ddau brif fater.
Ein Hamgylchedd:
Ceisio lleihau plastigau untro a lleihau ein hôl-troed carbon yn Wrecsam.
Deall Troseddau â Chyllyll:
Edrych a oes problem eisoes a gobeithio lleihau troseddau â chyllyll yn y dyfodol yn Wrecsam.
Atal a Stopio Bwlio:
Codi ymwybyddiaeth o fwlio a’r stigma sy’n ymwneud ag ef. Gofyn – ‘Bwlio neu Bryfocio?’ ac edrych ar y gwahaniaeth.
Fy Llais i:
Pobl yn gwrando mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n effeithio arnaf i a deall sut y byddant yn effeithio arnaf.
SUT I GYMRYD RHAN
- Wyt ti’n byw, astudio neu weithio yn Wrecsam?
- Hoffet ti gael rhagor o wybodaeth am beth mae Senedd yr Ifanc yn ei wneud?
- Hoffet ti fod yn aelod o Senedd yr Ifanc?
- Os felly, gallwch gysylltu â’r Tîm Cyfranogiad dros y ffôn (01978 298374), e-bost, neu’r cyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y pwnc hwn os gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad dros y ffôn (01978 398374), e-bost, neu’r cyfryngau cymdeithasol.