Polisi defnydd derbyniol

Polisi defnydd derbyniol

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn nodi’r telerau rhyngoch chi a ni ar gyfer eich defnydd o’n gwefan www.wrecsamifanc.co.uk (ein safle). Mae’r polisi defnydd derbyniol yn berthnasol i holl ddefnyddwyr, ac ymwelwyr, ein safle.

Mae eich defnydd o’n safle yn golygu eich bod yn derbyn, ac yn cytuno i gydymffurfio â’r holl bolisïau yn y polisi defnydd derbyniol hwn, sy’n ategu at ein telerau ar gyfer y defnydd o’r wefan

Mae www.wrecsamifanc.co.uk yn safle a weithredir gan ProMo-Cymru. Rydym wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rhif cwmni 1816889 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Uned 12 Gweithdai Royal Stuart, Adelaide Place, Caerdydd CF10 5BR. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Uned 13 Gweithdai Royal Stuart, Adelaide Place, Caerdydd CF10 5BR. Ein rhif TAW yw 909414718. Rydym wedi’n rheoleiddio gan Dŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau (Rhif Elusen 1094652).

Defnydd gwaharddedig

Gallwch ddefnyddio ein safle ar gyfer ei ddibenion cyfreithlon yn unig. Ni ellir defnyddio ein safle:

  • Mewn unrhyw fodd sy’n torri cyfraith neu reoliad perthnasol lleol, cenedlaethol neu ryngwladol.
  • Mewn unrhyw fodd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus, neu sydd â diben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
  • At ddibenion niweidio neu geisio niweidio pobl ifanc dan oed mewn unrhyw fodd.
  • I anfon, derbyn yn fwriadol, uwchlwytho, lawrlwytho, defnyddio neu ail-ddefnyddio unrhyw ddeunydd nad yw’n cydymffurfio â’n safonau cynnwys.
  • Trosglwyddo, neu gaffael anfon, unrhyw hysbysebion neu ddeunydd hyrwyddo digymell neu ddiawdurdod neu unrhyw fath arall o ddeisyfiad tebyg (sbam).
  • I drosglwyddo unrhyw ddata yn fwriadol, anfon neu uwchlwytho unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys firysau, ceffylau Trojan, mwydon, bomiau amser, cofnodwyr trawiad, ysbiwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg sydd wedi’i ddylunio i gael effaith andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol.

Rydych hefyd yn cytuno:

  • I beidio ag ailgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ailwerthu unrhyw ran o’n safle yn groes i ddarpariaethau ein telerau ar gyfer defnydd o’r wefan.
  • I beidio â chael mynediad heb awdurdod, amharu, difrodi neu aflonyddu: unrhyw ran o’n safle;
  • Unrhyw offer neu rwydwaith lle y cedwir ein safle;
  • Unrhyw feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu ein safle; neu
  • Unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i neu a ddefnyddir gan drydydd parti.

Gwasanaethau Rhyngweithiol

Efallai y byddwn o bryd i’w gilydd yn darparu gwasanaethau rhyngweithiol ar ein safle, gan gynnwys, heb gyfyngiad:

      • Cyflwyniadau newyddion (gan gynnwys lluniau / fideos YouTube)
      • Cyflwyniadau digwyddiad (gan gynnwys lluniau)
      • Cyflwyniadau thema (gan gynnwys lluniau)
      • Swyddogaeth sylwadau

Pan fyddwn yn darparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol, byddwn yn darparu gwybodaeth glir i chi ynglŷn â’r math o wasanaeth sy’n cael ei gynnig, os yw’n cael ei gymedroli a pha fath o gymedroli a ddefnyddir (dynol neu dechnegol).

Byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau posibl ar gyfer defnyddwyr (ac yn benodol, ar gyfer plant) gan drydydd partïon pan fyddant yn defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarperir ar ein safle, a byddwn yn penderfynu ym mhob achos a yw’n briodol defnyddio cymedroldeb ar gyfer y gwasanaeth perthnasol (gan gynnwys pa fath o gymedroldeb) yn sgil y risgiau hynny, Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw ymrwymiad i oruchwylio, monitro na chymedroli unrhyw wasanaethau rhyngweithiol yr ydym yn eu darparu ar ein safle, ac rydym yn eithrio ein hatebolrwydd ar gyfer unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol gan ddefnyddiwr sy’n groes i’n safonau cynnwys, boed y gwasanaeth wedi’i gymedroli ai peidio.

Mae’r defnydd o unrhyw wasanaethau rhyngweithiol gan berson ifanc dan oed yn destun caniatâd eu rhiant neu warcheidwad. Rydym yn cynghori rhieni sy’n caniatáu i’w plant ddefnyddio gwasanaeth rhyngweithiol ei bod yn bwysig iddynt gyfathrebu gyda’u plant ynglŷn â diogelwch ar-lein, gan nad yw cymedroli yn gwbl ddiogel. Dylid hysbysu pobl ifanc dan oed sy’n defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol ynglŷn â’r risgiau posibl iddynt.

Pan fyddwn yn cymedroli gwasanaeth rhyngweithiol, fel arfer byddwn yn darparu dull o gysylltu â chymedrolwr, pe bai pryder neu anhawster yn codi.

Safonau Cynnwys

Mae’r safonau cynnwys hyn yn berthnasol i unrhyw a’r holl ddeunydd yr ydych yn ei gyfrannu i’n safle (cyfraniadau), ac unrhyw wasanaethau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig â’r deunydd.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag ysbryd y safonau canlynol ynghyd â’u hystyr llythrennol. Mae’r safonau yn berthnasol i bob rhan o unrhyw gyfraniad ynghyd â’i gyfanrwydd.

Mae’n rhaid i gyfraniadau:

      • Fod yn gywir (pan fyddant yn nodi ffeithiau).
      • Gael eu credu’n wirioneddol (pan fyddant yn nodi safbwyntiau).
      • Cydymffurfio â’r gyfraith berthnasol yn y DU ac mewn unrhyw wlad y maent yn cael eu postio ohonynt.

Ni ddylai cyfraniadau:

      • Gynnwys unrhyw ddeunydd sy’n ddifenwol o unrhyw unigolyn.
      • Cynnwys unrhyw ddeunydd sy’n aflan, ymosodol, cas neu llidiol.
      • Hyrwyddo deunydd rhywiol.
      • Hyrwyddo trais.
      • Hyrwyddo gwahaniaethu yn seiliedig ar hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, tueddfryd rhywiol neu oedran.
      • Amharu ar unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach unrhyw unigolyn arall.
      • Fod yn debygol o dwyllo unrhyw unigolyn.
      • Fod yn cael ei wneud yn groes i unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy’n ddyledus i unrhyw drydydd parti, megis dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd cyfrinachedd.
      • Hyrwyddo unrhyw weithgarwch anghyfreithlon.
      • Fod yn fygythiol, cam-drin neu amharu ar breifatrwydd rhywun arall, neu achosi aflonyddwch, anghyfleustra neu bryder diangen.
      • Fod yn debygol o aflonyddu, poeni, dychryn neu flino unrhyw berson arall.
      • Gael ei ddefnyddio i ddynwared unrhyw unigolyn, i gam-gyfleu eich hunaniaeth neu eich cysylltiad ag unrhyw unigolyn.
      • Roi’r argraff eu bod yn deillio gennym ni, os nad dyna’r achos.
      • Eirioli, hyrwyddo neu gynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon megis (drwy esiampl yn unig) torri hawlfraint neu gamddefnydd cyfrifiadurol.
        Gwahardd a therfynu
      • Byddwn yn penderfynu, yn ôl ein disgresiwn, a dorrwyd y polisi defnydd derbyniol hwn drwy eich defnydd o’n safle. Pan fydd y polisi hwn wedi’i dorri, gallwn gymryd camau fel y gwelwn yn briodol.
      • Bydd methu â chydymffurfio a’r polisi defnydd derbyniol hwn yn torri telerau’r defnydd lle y caniateir i chi ddefnyddio ein safle, a gall arwain at gymryd yr holl gamau canlynol neu unrhyw un ohonynt:
      • Tynnu’n ôl eich hawl i ddefnyddio ein safle ar unwaith, dros dro neu’n barhaol.
      • Tynnu unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd gennych chi ar ein safle ar unwaith, dros dro neu’n barhaol.
      • Cyflwyno rhybudd i chi.
      • Achosion cyfreithiol yn eich erbyn i dderbyn ad-daliad o’r holl gostau ar sail indemniad (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gostau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol) sy’n deillio o’r toriad hwn.
      • Camau cyfreithiol eraill yn eich erbyn.
      • Datgelu gwybodaeth o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith fel y bo’n rhesymol ofynnol yn ein tyb ni.
      • Nid ydym yn cynnwys cyfrifoldeb am y camau a gymerir mewn ymateb i dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r ymatebion a ddisgrifiwyd yn y polisi hwn yn gyfyngedig, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill sy’n briodol yn ein tyb ni.

Newidiadau i’r polisi defnydd derbyniol

Gallwn ddiwygio’r polisi defnydd derbyniol ar unrhyw adeg drwy addasu’r dudalen hon. Mae disgwyl i chi wirio’r dudalen hon o dro i dro, er mwyn sylwi ar unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud, gan eu bod yn eich rhwymo mewn cyfraith. Efallai y bydd rhai darpariaethau yn y polisi defnydd derbyniol hwn yn cael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn man arall ar ein safle.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham