DYDDIAD I’W NODI YN EICH DYDDIADUR – DIWRNOD CHWARAE 2019!!!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r trefnwyr yn paratoi eu hunain ar gyfer y Diwrnod Chwarae eleni sy’n cael ei gynnal ddydd Mercher, 7 Awst yng nghanol y dref rhwng hanner dydd a 4pm.

Bydd y rhai hynny sy’n gyfarwydd â’r Diwrnod Chwarae yn gwybod fod hwn yn ddiwrnod pan fod plant yn meddiannu canol y dref a bod yn rhaid i rieni a gofalwyr wylio wrth i bawb fynd yn wlyb iawn ac yn llanast i gyd 🙂

Bydd yr holl weithgareddau arferol ar gael gan gynnwys adeiladu ffau, drysfa fawr, llithren ddŵr boblogaidd, y pwll tywod enfawr a digon o weithgareddau ar gyfer y plant ieuengaf.

 

Chwarae yw byd plant a’r Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod pan all pawb gamu o’r neilltu a rhoi digonedd o le iddynt wneud hynny’n union.

Ymwelodd oddeutu 4,000 o bobl â’r digwyddiad y llynedd ac rydym eisio gweld mwy fyth eleni. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod mewn hwyliau chwareus a dillad nad ydych yn poeni eu gwlychu a’u baeddu.

Byddem hefyd wrth ein boddau os byddech yn dod â phicnic ac yn aros am y dydd neu’n manteisio ar yr hyn sydd ar gael yng nghanol y dref.

Rydym wrth ein boddau ac yn edrych ymlaen at groesawu plant o bob oed unwaith eto i feddiannu canol y dref.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar 7 Awst yng nghanol y dref rhwng hanner dydd a 4pm.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham