Llais y Rhanbarth

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Llais y Rhanbarth
Thomas Blackwell
67fed Pwyllgor Rhanbarthol Sefydliad Iechyd Y Byd
Bwdapest – Hwngari
Medi 2017

Daeth Cymru Ifanc i adnabod gŵr ifanc o’r enw Tom trwy weithio gyda Senedd yr Ifanc yn Wrecsam.

Roedd Tom yn rhan o grŵp a fynychodd gwrs preswyl Iechyd Cyhoeddus Cymru i fwydo i mewn i fersiwn pobl ifanc o’u Datganiad Ansawdd Blynyddol.

Yn fuan ar ôl y darn hwn o waith, cafodd Cymru Ifanc wybod fod Sefydliad Iechyd Y Byd (WHO) yn chwilio am bobl i fod yn ‘Llais y Rhanbarth’ yn seiliedig ar y thema ‘gadael neb ar ôl’ sy’n llywio agenda 2030.

Ar ôl clywed stori Tom tra’r oeddem yn gweithio gyda’n gilydd, fe wnaethom gysylltu ag ef trwy Senedd yr Ifanc i weld a fyddai ganddo ddiddordeb mewn rhannu ei stori, cytunodd y byddai’n rhywbeth yr hoffai ei wneud.

Daeth Faith, David a Lasse o dîm cyfathrebu WHO i ymweld â Tom i greu ei ffilm a’i wahodd i fynychu’r 67fed Pwyllgor Rhanbarthol ym Mwdapest.

Dyma ddolen i stori Tom:

Yn y Pwyllgor Rhanbarthol cymerodd Tom ran mewn cyfarfod brecwast dan y teitl ‘Cryfhau Cymunedau a Gwytnwch Systemau’.

Yn ddiweddarach y bore hwnnw dangoswyd stori Tom i’r pwyllgor ac amser cinio safodd ar y podiwm yn y Cinio Gweinidogol i ymhelaethu ar bwysigrwydd ‘gadael neb ar ôl’.

Mae’r profiad wedi bod yn un positif iawn i Tom, siaradodd am ei brofiadau a throsglwyddodd y neges na ddylai ef fod yn eithriad, mae pawb yn haeddu cyfle cyfartal i ffynnu a gwneud yn dda waeth pa galedi y maent yn ei wynebu. Roedd hyn yn gwneud ei rôl yn ddiriaethol ac yn gyfannol i’r negeseuon a oedd yn cael eu cyflwyno dan y thema ‘gadael neb ar ôl’.
Mae Tom ar fin dechrau ym mhrifysgol Durham i astudio gwleidyddiaeth ac mae wedi cael ei dderbyn i’r Llynges Frenhinol Wrth Gefn – bydd ei gymhelliant a’i benderfyniad yn rhinweddau buddiol iddo.
Dymunwn bob llwyddiant iddo.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham