Misglwyf – Ydych chi’n cael eich effeithio yn yr ysgol?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae cynnyrch hylendid rhad ac am ddim mewn ysgolion i ferched ifanc yn rhywbeth mae llawer o bobl yn siarad amdano ar hyn o bryd ac yma yn Wrecsam, rydym yn edrych ar pa effaith gall diffyg cynnyrch hylendid ei chael ar ein merched ifanc sy’n ddisgyblion ysgol.

Rydym yn ceisio canfod maint y broblem er mwyn gwneud pethau’n well yn y dyfodol ac rydym yn cynnal dau arolwg ar hyn o bryd……………………… darllenwch ymlaen oherwydd mae hyn yn bwysig!

Rydym yn gobeithio y bydd disgyblion ysgol uwchradd yn cymryd rhan a hefyd athrawon a staff ysgol, felly anfonwch hwn at unrhyw un a allai gymryd rhan.

Credir fod diffyg mynediad at gynnyrch hylendid mewn ysgolion nid yn unig yn achosi embaras i ddisgyblion, ond gallai effeithio arnynt i’r graddau lle maen nhw’n methu diwrnodau o ysgol.

Oeddech chi’n ymwybodol o hyn? Ydi hyn yn effeithio arnoch chi neu rywun rydych yn eu hadnabod?

A fyddech cystal â threulio amser wrth lenwi’r arolwg hwn er mwyn i ni gael syniad o’r broblem a gallu ymateb i’r angen yn effeithiol. Maent ar gael yma:

Arolwg disgyblion

Chaiff y canfyddiadau eu cyflwyno i Grŵp Tasg a Gorffen a fydd yn adrodd i’r Pwyllgor Craffu Dysgu Gydol Oes yn yr hydref 2018. Bydd yr adroddiad ar gael i’r cyhoedd.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham