Oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech ei ddweud wrthym ni?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae gennym ddull newydd i sicrhau bod barn plant yn Wrecsam yn cael ei glywed trwy lansio gweithdrefn sylwadau, canmoliaethau a chwynion yn arbennig iddyn nhw.

Mae’r cyfan yn rhan o ymgymryd ag agwedd hawliau plant sydd yn cydnabod, parchu a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc. Mae’n cydnabod pwysigrwydd awdurdodi plant a phobl ifanc a’u cefnogi i sicrhau bod eu barn yn ganolbwynt i bolisi ac ymarfer.

Fel rhan o hyn, fe wnaethom ystyried pa mor effeithiol ydym ni’n derbyn ac ymateb i gwynion gan blant a phobl ifanc. Yn aml gall cwynion arwain at newidiadau mewn sefydliadau. Ond gall y prosesau fod yn anodd neu’n ddryslyd i’w llywio, felly rydym wedi newid y broses i bobl ifanc a gobeithio y bydd yn annog mwy ohonynt i ddweud eu dweud wrthym.

 

Bydd y ffurflen Sylwadau, Cwynion a Chanmoliaethau ar gael yn Galw Wrecsam a’r Siop Wybodaeth neu i’w lawr lwytho o wrecsam.gov.uk/scc

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham