Profiad bywyd fel myfyriwr gyda salwch meddwl

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

I’r sawl â salwch meddwl, byddwch yn gallu fy neall ar ryw fath o lefel ysbrydol pan fyddaf yn dweud bod salwch meddwl fel myfyriwr yn gallu bod yn anhygoel o anodd, cywir? I’r sawl sydd ddim, rwy’n eich gwahodd i ddod gyda ni ar y siwrnai ddysgu anhygoel hon. Efallai y bydd yr erthygl hon yn eich helpu i gael dealltwriaeth o’r caledi rydym yn ei brofi.

I ddechrau, wnâi siarad am fy hun am eiliad – maddeuwch i mi. Rwy’n dioddef gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac iselder.

Mae PTSD yn fath o bryder nad yw’n cael ei ddiagnosio mewn plant yn eu harddegau lawer. Mae astudiaethau’n dangos bod tua 15% – 43% o ferched a 14% – 43% o fechgyn yn mynd drwy o leiaf un trawma. O’r plant a phobl ifanc hyn yn eu harddegau sydd wedi cael trawma, mae 3% – 15% o ferched a 1% – 6% o fechgyn yn datblygu PTSD. Mae astudiaethau hefyd yn dangos bod cyfraddau o PTSD yn uwch ar gyfer rhai mathau o oroeswyr, fel y byddech yn ei ddisgwyl.

Fel gydag iselder, mae un mewn pedair o ferched Prydeinig yn cael eu taro gan iselder yn 14 oed. Roedd astudiaeth fawr wedi canfod bod 24% o ferched 14 oed yn y DU yn dweud fod ganddynt symptomau iselder. Mae hynny’n ystadegyn amrywiol i ferched yn y DU, heb gynnwys bechgyn a’r sawl sydd ofn bod yn onest am eu lles meddwl am ba bynnag reswm. Rwy’n deall yn llwyr, credwch chi fi, dwi wedi bod yno.

Dyna ddigon o ystadegau diflas nawr, peidiwch â phoeni.

 

Mae cael salwch meddwl, heb ddiagnosis neu gyda diagnosis, tra’n astudio ar gyfer unrhyw fath o gymhwyster yn anodd iawn – ffeithiau. O bosibl, rhan gwaethaf cael salwch meddwl yw’r berthynas rhwng eich athrawon/darlithwyr. Pan maent yn gwybod am eich salwch meddwl, rydych yn cael un o dri ymateb gan athro ar ôl hynny.

  1. Y “Sut wyt ti cyw?” Ni fydd yr athro hwn yn eich gadael yn llonydd. Maent eisiau diweddariadau dyddiol ar eich cyflwr meddyliol ac mae’n braf gwybod eu bod yn meddwl amdanoch ond mae’n gallu bod yn ormod.
  2. Y “Iawn, ond…” Nid yw’r athro hwn yn credu bod hyn yn gwneud gwahaniaeth ac ni ddylai fod yn esgus i chi gwblhau unrhyw waith yn hwyr neu bresenoldeb gwael.
  3. Y “Gwna fel ti” – mae’r athro hwn yn ddiffuant a bod yn onest. Mae’n derbyn ac yn eich cefnogi pryd bynnag y byddwch angen heb fod yn boen, mae ganddo ddigon o ffydd ynot ti i adael i ti wneud beth wyt ti angen a phan wyt ti angen.

Rydym i gyd yn adnabod athro sy’n dod o fewn pob un o’r categorïau hyn. Waeth pa gategori o athro fyddwch yn ei gael, dwi ddim yn gwybod amdanoch chi ond dwi’n teimlo’n hynod euog pryd bynnag mae fy salwch meddwl yn amharu ar fy addysg. Rwy’n ddigon ffodus i gael tiwtor dosbarth sy’n “ti yw ti” ac mewn gwirionedd mae tri allan o fy mhedwar tiwtor yr un fath. Yn bersonol, dwi’n casáu bod fy iechyd meddwl angen dod yn gyntaf.

Cael PTSD a achoswyd gan unigolyn hunllefus a’u camau, rwy’n gwrthod gadael i’r unigolyn hwn a’r hyn maent wedi’i wneud i mi ddistrywio fy mywyd. Dyna pam, pryd bynnag dwi’n methu gwers neu’n ei chael hi’n anodd cyrraedd dyddiad cau, dwi’n gwneud yn siŵr fy mod yn dal i fyny ac yn gwneud gwaith pan dwi ddim yn y wers ac yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gwrdd â’r dyddiad cau gynted â phosibl.

Efallai mai fy ydy hynny.

Ond dwi’n gwybod yn iawn dwi’n siŵr bod ni gyd yn casáu defnyddio ein salwch meddwl fel esgus, er yn un dilys. Mae’n teimlo’n erchyll. Mae’n gwneud i chi deimlo … pob math o ddrwg.

Ond … ddylech chi ddim!
Dywedodd fy therapydd wrthyf unwaith bod iechyd meddwl yn dod cyn popeth arall oherwydd os nad ydych yn iach yn feddyliol, allwch chi ddim gwneud llawer o ddim byd arall. Mae yna ganfyddiad cyffredin nad yw iechyd meddwl mor bwysig â iechyd corfforol.

MAE HYN YN NONSENS!
Dywedwch gyda fi.

MAE HYN YN NONSENS!!!
Gall salwch meddwl fod yr un mor niweidiol i’ch perfformiad â bod yn sâl yn gorfforol.   Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn rhan o’r ysbyty ac ar yn un campws (yn Wrecsam o leiaf) gan ei fod yr un mor bwysig â iechyd corfforol. Mae gan CAMHS feddygon a seiciatryddion gan ei fod yr un mor bwysig â iechyd corfforol ac mae angen ei wella gymaint â phosibl yn yr un ffordd ag anafiadau corfforol.

Peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthych nad yw eich iechyd meddwl yn bwysig. Mae o’n bwysig. Peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthych nad ydych yn bwysig.

Rydych yn bwysig ac yn ddilys ac nid oes gennych unrhyw reswm dros deimlo’n euog na’n wael am gael salwch meddwl. Rwy’n addo, mae’n gwella. Rwy’n fyw, byddai’r unigolyn oeddwn i’r amser yma llynedd yn synnu clywed hynny. Gallwch wneud hyn. Rydych yn ddewr, yn gryf, yn rhyfelwr ac yn oroeswr.

Rwy’n credu ynoch chi.

Gwnaf eich gweld yn y papurau doniol!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham