Stori Newyddion Da: Pobl ifanc yn sicrhau nad yw’r bobl hŷn yn cael eu hepgor

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae pobl ifanc o Senedd yr Ifanc (Cyfranogiad Ieuenctid Wrecsam) yn sicrhau nad yw’r bobl hŷn yn y gymuned yn cael eu hepgor ac yn mynd i weld os ydynt yn cadw’n iawn yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn. 

Mae’r bobl ifanc wedi dechrau ysgrifennu i drigolion Cartref Gofal Cherry Tree yng Nghoedpoeth sydd methu gadael y cartref ar hyn o bryd, a byddent yn derbyn llythyrau (drwy e-bost i’w hargraffu yn Cherry Tree) dros y diwrnodau nesaf gan y bobl ifanc. Yn y llythyrau maent yn sôn amdanynt eu hunain a’r hyn maent yn ei wneud pan nad ydynt yn gallu gadael eu cartrefi.  Yna bydd y trigolion yn ymateb a’r gobaith yw y bydd hyn yn parhau a phan fydd yn ddiogel, bydd y bobl ifanc yn mynd i ymweld â nhw.

Dywedodd Caroline Bennet, Cydlynydd Cyfranogi yng Ngwasanaeth Ieuenctid Wrecsam bod y bobl ifanc bob amser yn meddwl am ffyrdd i godi’r ysbryd yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, ac mae llythyrau a straeon yn ffordd dda o wneud hyn. Mae Cartref Gofal Cherry Tree yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r weithgaredd a gobeithiwn y bydd perthnasau newydd rhwng y cenedlaethau yn ffurfio.  Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, mae’n bwysig gweithio gyda’n gilydd.

A hoffech chi gymryd rhan ac ysgrifennu llythyrau i rai o drigolion mwyaf diamddiffyn ein cymuned?   Gall rhain fod yn negeseuon, straeon, llythyrau, lluniau neu unrhyw beth ydych chi’n credu fydd yn rhoi gwên ar wynebau’r henoed. Cysylltwch â’r tîm Cyfranogi ar youngvoices@wrecsam.gov.uk – 07800688979. Diolch

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham