Be sy’n bod ar….. Sylweddau Seicoweithredol Newydd (neu anterthau cyfreithlon)

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ar 26 Ebrill 2016 daeth Sylweddau Seicoweithredol Newydd (neu anterthau cyfreithlon) yn anghyfreithlon. Yn In2Change rydym ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl ifanc lleol sy’n cymryd Sylweddau Seicoweithredol Newydd, neu Anterthau Cyfreithlon neu Mamba, ac mae llawer o weithwyr ieuenctid yn poeni am ddefnydd y sylweddau yma mewn cymunedau lleol.

Dydi’r cyffuriau yma, fel pob cyffur anghyfreithlon arall, ddim wedi eu profi, maen nhw’n beryglus a does wybod pa effaith y cawn nhw arnoch chi. Mae gweithwyr cyffuriau ac alcohol In2change wedi gweld effaith defnyddio’r sylweddau yma. Mae’r symptomau wedi cynnwys chwydu, cwympo, ffitiau, gwaedu (o’r trwyn/stumog), paranoia ac ymddygiad cynhyrfus neu ymosodol. Hefyd, mae cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i’r uned damweiniau ac achosion brys o ganlyniad i gymryd sylweddau o’r fath.

Wrth gwrs, rydym ni’n annog pobl ifanc a phawb arall i beidio â chymryd cyffuriau ond, os ydych chi’n cymryd cyffuriau, cofiwch y cyngor yma:

  • Cymrwch nhw mewn lle diogel ac efo pobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw – peidiwch byth â chymryd cyffuriau pan rydych chi ar eich pen eich hun!
  • Byddwch yn ofalus efo’r dos.
  • Rhowch amser i’r cyffur weithio cyn cymryd mwy.
  • Peidiwch â chymysgu’r cyffur gydag alcohol neu unrhyw gyffur arall.
  • Peidiwch â rhannu unrhyw offer, hyd yn oed os ydych chi’n sniffian.

 

Os ydych chi’n camddefnyddio sylweddau ac arnoch chi angen cymorth i ddefnyddio llai neu i roi’r gorau iddi’n gyfan gwbl, neu os ydych chi’n adnabod rhywun sydd angen gwybodaeth a chefnogaeth, yna ffoniwch ni ar (01978) 295629 neu anfonwch e-bost i in2change@wrexham.gov.uk.

Mae In2Change yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy’n gweithio efo pobl ifanc 11-18 oed (hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed).  Mae’r gwasanaeth yn un gwirfoddol ac felly os ydych chi’n atgyfeirio person ifanc at y gwasanaeth mae’n rhaid i chi ddweud wrthyn nhw cyn i chi wneud.

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth yn www.dan247.org.uk neu fe allwch chi fynd i wefan Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru () neu eu ffonio ar 0808 808 2234.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham