Pam ddylwn i bleidleisio?
Peidiwch â gadael y pleidleisio i’r cenedlaethau hŷn! Mae gan bobl hŷn a phobl iau syniadau a blaenoriaethau gwahanol yn aml o ran gwleidyddiaeth. Os na fyddwch chi fel pobl ifanc yn pleidleisio, rydych chi’n gadael i’r cenedlaethau hŷn wneud penderfyniadau drosoch chi (ac efallai na fyddwch chi’n hoffi’r canlyniad!)
Dyma eich cyfle chi i bleidleisio dros rywun sy’n credu yn yr un pethau â chi. Er enghraifft, os ydych chi’n meddwl fod cefnogaeth i iechyd meddwl yn bwysig, fe allech chi bleidleisio dros ymgeisydd sydd wedi addo gweithio ar y mater hwn.
Dydi pobl ifanc ddim wastad wedi bod â’r hawl i bleidleisio. Ym 1918, roedd rhaid i ddynion fod yn 21 oed i bleidleisio, a doedd merched ddim yn cael pleidleisio tan eu bod dros 30 oed, a hynny ond os oedden nhw neu eu gŵr yn berchen ar eiddo. 10 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1928, newidiwyd yr oedran pleidleisio i fod yn 21 oed i bawb. Chafodd yr oedran pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol mo’i ostwng i 18 oed i ddynion a merched tan 1969. Ers 2021, gall pobl ifanc yng Nghymru bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd ac mewn Etholiadau Lleol yn 16 oed. Fe gymerodd gryn dipyn o amser a llawer iawn o waith i chi gael yr hawl i bleidleisio, felly peidiwch â’i wastraffu!
Fe ddylech chi gael llais wrth benderfynu pwy fydd yn eich cynrychioli chi, yn gwneud penderfyniadau ac yn creu cyfreithiau ar eich rhan chi.
Gall y bleidlais fod yn agos iawn yn aml, yn enwedig mewn Etholiadau Lleol. Pe byddai pob person sy’n meddwl fod pleidleisio’n wastraff amser yn mynd ati i bleidleisio, gallai canlyniadau’r etholiad fod yn wahanol iawn!
TERMAU ALLWEDDOL
- Adduned: yr hyn y mae ymgeisydd neu blaid yn ei addo.
- Etholiad Cyffredinol: Etholiad y DU ar gyfer Aelodau Seneddol.
- Etholiad y Senedd: Etholiad yng Nghymru ar gyfer Aelodau o’r Senedd.
- Etholiad Lleol: Etholiad sy’n cael ei gynnal yn eich ardal leol i bleidleisio dros gynghorwyr.