Beth sy’n digwydd ar ôl i’r pleidleisio ddod i ben?

Caiff y blwch pleidleisio ei selio i atal unrhyw ymyrraeth, a naill ai’r un noson neu’r bore wedyn, neu yn ystod yr wythnos ddilynol, caiff ei gludo o’r orsaf bleidleisio i’r lleoliad y mae’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif ynddo (h.y. Neuadd Chwaraeon Prifysgol Wrecsam).

Yn gyntaf, bydd proses wirio’n cael ei dilyn i sicrhau cywirdeb. Caiff nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio eu cyfrif i wneud yn siŵr bod yr un nifer o bleidleisiau yn y blwch ag sydd wedi’i nodi yn y gwaith papur a ddaeth o’r orsaf bleidleisio.

Wedi hynny, bydd y broses o gyfrif pleidleisiau’r ymgeiswyr yn cychwyn. Mae sut mae’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif yn dibynnu ar y system bleidleisio sy’n cael ei defnyddio ar gyfer yr etholiad. Yng Nghymru, rydym yn defnyddio’r System Aelodau Ychwanegol i ethol Aelodau o’r Senedd, System y Cyntaf i’r Felin i ethol Aelodau Seneddol a Chynghorwyr Lleol, a’r System Pleidlais Atodol i ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd. Er bod Wrecsam yn defnyddio system y Cyntaf i’r Felin, mae rhai o ardaloedd eraill Cymru hefyd yn defnyddio’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy i bleidleisio dros Gynghorwyr Lleol. Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am bob System Bleidleisio:

Ar ôl i’r pleidleisiau gael eu cyfrif, bydd enwau’r ymgeiswyr buddugol yn cael eu cyhoeddi.

Yn Etholiad Cyngor Sir Wrecsam (Etholiad Lleol), mae 56 o gynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli’r 49 o ranbarthau etholiadol (ardaloedd yn Wrecsam). Maen nhw’n llunio’r Cyngor Llawn ac yn cynrychioli sawl grŵp gwleidyddol.

Yn Etholiad y Senedd, yr ymgeisydd sydd â’r mwyaf o bleidleisiau yn eich etholaeth chi fydd yn ennill y sedd (ac yn dod yn Aelod o’r Senedd ar gyfer eich etholaeth chi). Bydd y pedwar ymgeisydd â’r mwyaf o bleidleisiau yng Ngogledd Cymru yn dod yn Aelodau Rhanbarthol o’r Senedd, a bydd arweinydd y blaid wleidyddol sy’n ennill y mwyafrif o Aelodau o’r Senedd yn dod yn Brif Weinidog, yn ffurfio llywodraeth ac yn dewis y cabinet.

Mewn Etholiad Cyffredinol, yr ymgeisydd sydd â’r mwyaf o bleidleisiau yn eich etholaeth chi fydd yn ennill y sedd (ac yn dod yn Aelod Seneddol ar eich cyfer chi). Bydd arweinydd y blaid wleidyddol sy’n ennill y mwyafrif o Aelodau Seneddol yn dod yn Brif Weinidog y DU, yn ffurfio llywodraeth ac yn dewis y cabinet. Pa blaid (neu bleidiau) bynnag sy’n dod yn ail fydd yn llunio’r Wrthblaid, ond os nad oes yna enillydd amlwg, fe ellir ffurfio Llywodraeth Glymblaid.
TERMAU ALLWEDDOL
- Gorsaf Bleidleisio: lleoliad y gallwch chi fynd iddo i fwrw’ch pleidlais. Ysgol neu neuadd bentref fydd hwn fel arfer.
- Blwch Pleidleisio: dyma lle byddwch chi’n rhoi eich papur pleidleisio wedi’i blygu ar ôl i chi nodi’ch pleidlais arno.
- Ymgeiswyr: ymgeisydd yw’r person y gallwch chi bleidleisio drosto mewn etholiad.
- Etholiad: pan mae pleidlais yn cael ei chynnal ac mae’r cyhoedd yn cael pleidleisio dros ymgeisydd.
- Aelod o’r Senedd: Mae Aelod o’r Senedd yn unigolyn sydd wedi’i ethol i Senedd Cymru.
- Aelod Seneddol: Mae Aelod Seneddol yn unigolyn sydd wedi’i ethol i Senedd y DU.
- Cynghorydd: Mae Cynghorwyr Lleol yn cael eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai’r Cyngor gynnal ei weithgareddau amrywiol.
- Etholiad Lleol: Etholiad sy’n cael ei gynnal yn eich ardal leol i bleidleisio dros gynghorwyr.
- Etholiad y Senedd: Etholiad yng Nghymru ar gyfer Aelodau o’r Senedd.
- Etholaeth: lleoliad y mae Aelod o’r Senedd neu Aelod Seneddol yn gyfrifol am ei gynrychioli. Mae gan Gymru 32 o etholaethau.
- Seddi: os bydd ymgeisydd yn ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth, yna fe fyddan nhw’n ennill y ‘sedd’ honno. Y blaid â’r mwyaf o ‘seddi’ sy’n ennill yr etholiad ac yn ffurfio’r llywodraeth.
- Prif Weinidog: Prif Weinidog Cymru yw arweinydd y blaid a enillodd y mwyaf o seddi yn Etholiad y Senedd.
- Llywodraeth: Y Llywodraeth sy’n penderfynu sut mae pethau’n cael eu rhedeg ac yn rheoli’r materion dydd i ddydd. Maen nhw’n defnyddio’r arian y maen nhw’n ei gael o drethi i dalu a gwneud penderfyniadau am bethau fel ysgolion, ysbytai, y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a’r system gyfreithiol. Mae Senedd y DU yn craffu ar y Llywodraeth.
- Etholiad Cyffredinol: Etholiad y DU ar gyfer Aelodau Seneddol.
- Prif Weinidog y DU: Prif Weinidog y DU yw arweinydd y blaid a enillodd y mwyaf o seddi yn Etholiad Cyffredinol y DU.
- Llywodraeth Glymblaid: gall hyn ddigwydd pan na fydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif llwyr o’r pleidleisiau mewn etholiad. Bydd mwy nag un blaid wleidyddol yn llunio cytundeb rhannu grym i redeg y wlad gyda’i gilydd.

Partneriaid Ariannu


