Sut ydw i’n pleidleisio?
Er mwyn gallu pleidleisio mewn unrhyw fath o etholiad, rhaid i chi fod wedi cofrestru. Yng Nghymru, er bod rhaid i chi fod yn 16 neu’n 18 oed i bleidleisio (yn dibynnu ar yr etholiad), fe allwch chi gofrestru i bleidleisio yn 14 oed. Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio os nad ydych chi erioed wedi cofrestru o’r blaen, os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar neu os ydych chi wedi newid eich enw cyfreithiol. Gofynnir i chi am eich rhif Yswiriant Gwladol, ond fe gewch chi gofrestru hyd yn oed os nad oes gennych chi un.
Fe allwch chi gofrestru i bleidleisio yma:

Cyn Diwrnod yr Etholiad (Diwrnod y Bleidlais), fe gewch chi gerdyn pleidleisio. Bydd pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn eich aelwyd yn cael eu cerdyn pleidleisio eu hunain. Bydd eich cerdyn pleidleisio’n cyrraedd eich cyfeiriad cofrestredig yn y post ychydig wythnosau cyn diwrnod yr etholiad. Bydd yn dweud wrthych chi i ba orsaf bleidleisio y mae angen i chi fynd i fwrw’ch pleidlais.
Os na allwch chi fynd i’r orsaf bleidleisio ar Ddiwrnod yr Etholiad, mae yna ffyrdd eraill o bleidleisio. Fe allwch chi bleidleisio drwy’r post neu ofyn i rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw bleidleisio ar eich rhan (drwy ddirprwy). Bydd rhaid i chi wneud cais i wneud hyn ychydig wythnosau cyn Diwrnod yr Etholiad.
Os byddwch chi’n dewis mynd i’r orsaf bleidleisio i fwrw’ch pleidlais mewn Etholiad Cyffredinol neu Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, bydd angen i chi gofio mynd â phrawf adnabod â llun gyda chi. Mae rhestr o’r mathau o brawf adnabod â llun sy’n dderbyniol i’w gweld yma. Peidiwch â phoeni os yw dyddiad eich prawf adnabod â llun wedi dod i ben, fe allwch chi ei ddefnyddio cyn belled â’ch bod chi’n dal i edrych yr un fath ag yn y llun. Os nad oes gennych chi brawf adnabod â llun addas, fe allwch chi wneud cais am brawf adnabod i bleidleisio am ddim yma, neu gysylltu â’ch cyngor lleol.
TERMAU ALLWEDDOL
- Etholiad: pan mae pleidlais yn cael ei chynnal ac mae’r cyhoedd yn cael pleidleisio dros ymgeisydd.
- Cofrestru i bleidleisio: mae bod wedi cofrestru i bleidleisio yn golygu eich bod ar y Gofrestr Etholiadol a’ch bod yn cael pleidleisio mewn etholiadau cymwys.
- Rhif Yswiriant Gwladol: defnyddir hwn i gael gwybodaeth am eich cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol, a gofynnir i chi amdano pan fyddwch chi’n cofrestru i bleidleisio. Rydych chi fel arfer yn cael hwn mewn llythyr yn y post cyn eich pen-blwydd yn 16 oed, ond os na allwch chi ddod o hyd i’r llythyr, mae’r rhif i’w weld ar unrhyw slipiau cyflog neu ffurflenni P60 neu P45 rydych chi wedi’u cael. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi un, fe allwch chi gofrestru hebddo.
- Etholiad Cyffredinol: Etholiad y DU ar gyfer Aelodau Seneddol.

Partneriaid Ariannu


