LHDT+

Ysgrifennwyd y dudalen hon gan ein Golygydd gwadd, Adam Kaps, y dyn ifanc o Gaerdydd a sefydlodd Queerdiff.  Mae ganddo flynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda phobl ifanc yn y maes hwn.

  • Canllaw Sylfaenol
  • Dolenni defnyddiol a sefydliadau
  • Canllaw Uwch

Nodyn gan Adam: Mae gwaith ar y gweill ar gyfer yr adran hon ac o bosib y bydd yn newid yn y dyfodol i adlewyrchu’r gwaith a wneir yn y maes hwn ac unrhyw drafodaeth ar y pwnc hwn.

Canllaw Sylfaenol

Ystyr LGBT yw Lesbiad, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (byddwch yn dysgu mwy am y termau hyn isod). Erbyn heddiw mae amryw o bobl yn defnyddio ‘LGBT+’ gan fod y ‘+’ yn cyfeirio at sawl atyniad a hunaniaeth arall sy’n bod (mae hyn yn osgoi gorfod ychwanegu mwy o lythrennau at LGBT!).

Isod, fe welwch wybodaeth fanwl ac y diweddaraf am yr enwau hyn, yn ogystal â dolenni defnyddiol a sefydliadau i geisio cymorth a rhagor o wybodaeth.

Graffig Defnyddiol

Source:Ffynhonnell: It’s Pronounced Metrosexual

Its Pronounced Metrosexual also have some amazing resources callYou Soup to help you understand diversity and identity and theto help you understand sexuality.Mae gan Its Pronounced Mertrosexual hefyd adnoddau gwych o’r enw You Soup a fydd o gymorth i chi ddeall amrywiaeth a hunaniaeth a’r Sexualitree a fydd o gymorth i chi ddeall rhywioldeb.

Dolenni defnyddiol a sefydliadau

Canllaw Uwch

Atyniad

Mathau

Mae Asexual Visibility and Education Network (AVEN), drwy edrych ar aelodau’r rhwydwaith, wedi gwneud gwaith ymchwil i’r ystod o ffyrdd gwahanol y mae unigolion yn cael eu denu at ei gilydd, tu hwnt i’r math mwyaf cyffredin, sef atyniad rhywiol.

Y prif fathau maent wedi’u nodi yw:

Rhywiol: Yr awydd i gael rhyw â rhywun.

Rhamantaidd: Yr awydd i ddatblygu cysylltiad rhamantaidd â rhywun (mwy o erthyglau i ddilyn ar y pwnc hwn).

Synhwyraidd:Yr awydd i gofleidio, gafael yn nwylo, tylino ysgwyddau, cefn, pen rhywun arall ac ati.

Esthetig: Mae hyn fel arfer yn ymateb emosiynol ar ôl gweld rhywbeth yr ydych chi’n ei ystyried yn brydferth neu’n ddeniadol i’r llygad.

Mae’r atyniadau hyn yn ffurfio cyfeiriadedd sydd yn rhan o’ch hunaniaeth a gellir defnyddio hyn i egluro sut yr ydych yn profi atyniad at eraill.  Nid yw’r hunaniaethau hyn i gyd yn gorfod cyd-fynd â’i gilydd, er bod hyn yn wir  i lawer o bobl, mae’n hollol gyffredin os nad yw hyn yn digwydd i chi.

Screen shot 2016-05-25 at 13.40.19

Ffynhonnell y ddelwedd yma.

Cyfeiriadedd Rhywiol

Mae cyfeiriadedd rhywiol yn ffordd o egluro eich atyniad rhywiol at eraill ac mae amrywiaeth o hunaniaethau gwahanol i egluro hynny. Here are some of the common ones:Dyma rai o’r rhai mwyaf cyffredin:

  • Heterorywiol/Strêt: Atyniad rhywiol at bobl sydd â rhyw wahanol i chi
  • Cyfunrhywiol/ hoyw/ lesbiad: Atyniad rhywiol at bobl sydd â’r un rhyw â chi.
  • Deurywiol: Atyniad rhywiol at bobl o’r ddau ryw (gellir darllen mwy am hyn yn Hunaniaeth Rywiol a Hunaniaeth o ran Rhywedd) .
  • Anrhywiol:Dim atyniad rhywiol at bobl.

Dyma rai llai cyffredin ond yr un mor ddilys:

  • Androrywiol: Atyniad at ddynion.
  • Gynorywiol: Atyniad at ferched.
  • Skoliorywiol: Atyniad at unigolion nad ydynt yn cydymffurfio â rhyw (h.y. unigolyn nad yw’n diffinio ei hun fel gwrywaidd neu fenywaidd, dyn neu ddynes – gweler Hunaniaeth Rywiol a Hunaniaeth o ran Rhywedd isod).
  • Demirywiol: .Atyniad at unigolion yn seiliedig ar gysylltiad emosiynol (bydd erthygl yn cael ei chyhoeddi’n fuan).

Cyfeiriadedd Rhamantaidd

Mae cyfeiriadedd rhamantaidd yn debyg i gyfeiriadedd rhywiol o ran ei fod yn egluro sut yr ydych yn profi atyniad rhamantaidd at eraill. Maent yn defnyddio  rhagddodiaid tebyg i ragddodiaid cyfeiriadedd rhywiol, megis hetero- a homo – ond defnyddir y gair rhamantaidd yn hytrach na rhywiol, megis:

  • Heteroramantaidd: Atyniad rhamantaidd at bobl o ryw gwahanol i chi.
  • Homoramantaidd: Atyniad rhamantaidd at bobl o’r un rhyw â chi.
  • Aromantic:Aromantaidd: Dim atyniad rhamantaidd at bobl.

Screen shot 2016-05-25 at 13.34.08

Ffynhonnell y ddelwedd yma.

Cyfeiriadedd Synhwyraidd a Chyfeiriadedd Esthetig

Fel pob cyfeiriadedd arall, maent yn defnyddio’r rhagddodiaid y soniwyd amdanynt uchod ond maent yn defnyddio’r ôl-ddodiad synhwyraidd ar gyfer atyniadau synhwyraidd a’r ôl-ddodiad esthetig ar gyfer atyniadau esthetig.

Hunaniaeth Rywiol a Hunaniaeth o ran Rhywedd

Rhyw

Mae rhyw unigolyn yn ddisgrifiad biolegol o fioleg yr unigolyn hwnnw. Sex is made up of:Mae rhyw yn cwmpasu:

  • Yr organau rhyw,  sef y pidyn a’r wain
  • Cromosomau, megis XY neu XX
  • Hormonau, megis testosteron ac estrogen

O safbwynt meddygol, cydnabyddir dau ryw yn swyddogol yn y DU: dyn a dynes, fodd bynnag, cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd dros gynnwys a chydnabod rhyw arall, sef rhyngrywiol (bydd erthygl i ddilyn yn trafod hyn yn fanylach).

Screen shot 2016-05-25 at 13.22.38

Ffynhonnell y ddelwedd yma.

Rhywedd a Hunaniaeth o ran Rhywedd

Diffinir rhyw gan Gymdeithas Seicolegol America fel, Dyma le cawn arweiniad ar beth yw gwrywaidd a benywaidd, er bod hyn yn wahanol ym mhob diwylliant a thrwy gydol hanes.

Screen shot 2016-05-25 at 13.13.14

Ffynhonnell y ddelwedd: Hairy Jacques drwy compfight cc yma.

Gender identity is one’s own self-definition of gender and how that person experiences it.Hunaniaeth o ran rhywedd yw diffiniad yr unigolyn o’i rywedd ei hun a sut mae’r unigolyn hwnnw’n ei brofi. There are many different gender identities, but some of the most recognised are:Mae sawl math gwahanol o hunaniaethau o ran rhywedd, ond dyma restr o’r rhai mwyaf cyffredin:

  • Gwrywaidd
  • Benywaidd
  • Deurywedd *http://itspronouncedmetrosexual.com/2013/01/a-comprehensive-list-of-lgbtq-term-definitions/
  • *Genderqueer *http://outandproudcardiff.co.uk/gender-queer/

Mynegiant Rhywedd

Mynegiant Rhywedd yw’r ffordd y mae unigolyn yn dewis cyflwyno ei hunaniaeth o ran rhywedd, boed hynny drwy ei ddiddordebau, dillad, iaith y corff neu unrhyw ffurf arall. Mae’n debyg mai cysyniadau cymdeithasol sydd wrth wraidd hyn, bod “merched i wisgo pinc” a “bechgyn i wisgo glas”, ond fel pob dim arall mae cysyniadau yn newid dros amser a bu unwaith yn draddodiadol i ferched wisgo glas a bechgyn wisgo pinc.

Screen shot 2016-05-25 at 13.16.34

Ffynhonnell y ddelwedd yma.

Geirfa Draws* Gyffredin

Screen shot 2016-05-25 at 13.01.16

Ffynhonnell y ddelwedd yma.

Mae Traws* yn derm cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer sawl un o’r hunaniaethau isod:

Y rhyw a nodwyd: Dyma’r rhyw (gwrywaidd neu fenywaidd) a nodwyd ar gyfer babi wedi iddo gael ei eni, fel arfer bydd hyn yn seiliedig ar ei ryw tybiedig.

Trawsryweddol: Ansoddair sy’n disgrifio’r ffaith bod unigolyn yn diffinio ei hun fel hunaniaeth o ran rhywedd sy’n wahanol i’r un a nodwyd i’r unigolyn wedi iddo gael ei eni.

Trawsrywiol:.Ansoddair sy’n disgrifio’r ffaith bod unigolyn wedi newid ei statws rhywiol yn gorfforol mewn rhyw ffordd (fel arfer drwy gymryd hormonau neu â llawdriniaeth).

Cisryweddol: Term i ddisgrifio’r ffaith bod hunaniaeth o ran rhywedd unigolyn yn cyd-fynd â’r rhyw a nodwyd iddo wedi iddo gael ei eni.

Cisrywiol: Term a ddefnyddir i egluro nad yw rhyw unigolyn wedi newid o’r un y nodwyd iddo pan gafodd ei eni.


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham