Mae’n Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel! Edrychwch ar ein hawgrymiadau gwych i aros yn ddiogel pan fyddwch ar-lein….

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r rhyngrwyd yn lle gwych i gysylltu ag eraill, bod yn greadigol a chanfod pethau newydd. Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a gaiff ei ddathlu ar draws y byd, yn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol i blant a phobl ifanc.

 

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i aros yn ddiogel ar-lein:

  • Peidiwch byth â rhoi eich gwybodaeth bersonol i bobl ar-lein
  • Peidiwch â chysylltu â phobl ar-lein ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a Snapchat os nad ydych yn siŵr pwy yw’r unigolyn
  • Mae’n well cadw ffrindiau ar-lein dim ond ar-lein, gall cyfarfod dieithriaid fod yn beryglus iawn
  • Mae’n bosibl nad yw pobl yn bod yn onest am pwy ydynt
  • Byddwch yn wyliadwrus wrth agor ffeiliau gan bobl nad ydych yn eu hadnabod, gallent gynnwys firws neu gynnwys amhriodol
  • Byddwch yn ofalus am beth rydych yn ei ysgrifennu i bawb ei weld – cwestiwn cyflym i chi eich hun cyn rhoi neges ar-lein yw “a fyddwn i’n argraffu hyn ar grys-t a cherdded i lawr y stryd yn ei wisgo?”
  • Mae gan y rhan fwyaf o wefannau rhwydweithio cymdeithasol osodiadau preifatrwydd gallwch eu newid i sicrhau mai dim ond eich ffrindiau sy’n gallu gweld eich proffilMae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cynnig cyfle i amlygu defnydd cadarnhaol o dechnoleg ac edrych ar y rôl rydym i gyd yn ei chwarae wrth helpu i greu cymuned ar-lein well a mwy diogel.

Cliciwch y ddolen I ddarllen mwy…..

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham