TEULOD HAPUS!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ydych chi’n rhiant newydd (o dan 25 oed) o Wrecsam?

Mae gennym brosiect newydd a allai fod o ddiddordeb i chi er mwyn:

• Gwella eich hyder, cael cymorth gan rieni ifanc tebyg i chi a gwneud ffrindiau

• Gwella eich sgiliau neu ddysgu rhai newydd fel coginio, pobi a DIY (bydd cyfle i ennill cymwysterau achrededig yn gysylltiedig â gwaith hefyd!)

• Eich helpu i ddarganfod gweithgareddau hwyliog rhad neu am ddim a allai fod o fudd i’r teulu cyfan.

• Derbyn cyngor ac arweiniad ar bob math o bynciau i’ch helpu yn y cartref, o gymorth ymarferol i arweiniad ar reoli arian / cyllidebu neu gyngor ar ynni ac ati

Hyd: Prosiect 12 wythnos – 1 sesiwn yr wythnos

Lleoliad: Dyfroedd Alun (ochr Gwersyllt) – Byddwn yn defnyddio’r ystafell gynadledda a’r tiroedd prydferth (parc, coetir, afon)

Amser: Dydd Iau 10.00 tan 2.00pm (gallwn newid yr amseroedd i’ch siwtio) – yn dechrau dydd Iau 12fed Mai

Manylion ychwanegol ….

• Darperir lluniaeth (te, coffi a chacen)

• Byddwch yn dewis gweithgaredd grŵp/diwrnod allan AM DDIM i’w fwynhau gyda’ch gilydd ar ddiwedd y 12 sesiwn (e.e. Fferm Park Hall, Fferm Hufen Iâ, Glan y môr?)

• Byddwn yn talu costau teithio ……. Peidiwch â gadael i broblemau teithio eich rhwystro. Siaradwch gyda ni os yw hyn yn broblem!

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Aaron neu Lisa ar 01978 757524 neu e-bostiwch aaron.jones@groundworknorthwales.org.uk neu lisa.jones@groundworknorthwales.org.uk

Rhaglen newydd i rieni ifanc

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham