AM ENNILL ARIAN 💰 BOD YN ANNIBYNNOL A CHAEL DY DROED AR YR YSGOL YRFA? 🙋‍♀️🙋‍♂️✨

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Erthygl wadd gan Twf Swyddi Cymru+

Efallai dy fod yn chwilio am y swydd iawn neu am gymryd y camau nesaf ym myd addysg ac angen rhywfaint o help llaw.

Dyna lle gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder ac yn gyfle heb ei ail i ti gael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd gen ti hefyd fynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn dy ardal.

Beth yw Twf Swyddi Cymru+?

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Os wyt ti’n byw yng Nghymru, yn 16–18 oed a ddim mewn addysg llawn amser, gwaith na hyfforddiant, gallet ti elwa o Twf Swyddi Cymru+.

Mae’n rhaglen hyblyg iawn sydd wedi’i llunio o dy gwmpas di. Felly, mae’n opsiwn da os wyt ti am gael rhywfaint o help neu ragor o gefnogaeth gydag anghenion penodol.

Sut i fanteisio ar Twf Swyddi Cymru+

Y cyfan sydd angen i ti ei wneud ydi cysylltu â Cymru’n Gweithio. Bydd un o’u staff cyfeillgar nhw’n siarad gyda thi am yr help rwyt ti ei angen a pha gefnogaeth sydd ar gael.

Os yw Twf Swyddi Cymru+ yn addas i ti, mi gei dy gyfeirio at y rhaglen. Bydd un o ddarparwyr cymeradwy Twf Swyddi Cymru+ wedyn yn datblygu ac yn darparu cynllun cefnogaeth sydd wedi’i lunio ar gyfer dy anghenion penodol di.

Os wyt ti’n dal mewn addysg ac yn meddwl gadael eleni, galli hefyd siarad gydag Ymgynghorydd Gyrfa am Twf Swyddi Cymru+.

Eisiau rhagor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+?

Mae mwy o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+ ar gael drwy fynd i Twf Swyddi Cymru+

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham