Dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Eleni, rydym ni’n dathlu Diwrnod Plant y Byd drwy gynnal digwyddiad rhad ac am ddim yn Tŷ Pawb ddydd Iau 17 Tachwedd 2022 i ddathlu hawliau plant a’u lle nhw mewn cymdeithas.

Mae wedi’i anelu at blant, pobl ifanc a theuluoedd a bydd ar agor o 4:30pm tan 7pm.

Bydd popeth yn y digwyddiad yn rhad ac am ddim yn cynnwys bwyd am ddim (yn amodol ar faint sydd ar gael), stondinau gwybodaeth ac adloniant yn cynnwys helfa drysor, sgiliau syrcas, chwaraeon, bwth tynnu lluniau, wynebau glityr, arddangosfa trychfilod byw, cerddoriaeth fyw, gweithgareddau chwarae a llawer iawn mwy.

Troi’n Las ar Ddiwrnod Plant y Byd

Rydym ni’n gofyn i bawb wisgo rhywbeth glas ar y diwrnod (y lliw a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer Diwrnod Plant y Byd), i helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd hawliau plant.

Byddwn ni hefyd yn troi adeilad Tŷ Pawb yn las i nodi a dathlu Diwrnod Plant y Byd.

Mae pob ysgol yn Wrecsam wedi cael gwahoddiad a gofynnir i staff a phlant wisgo rhywbeth glas.

Cafodd Diwrnod Plant y Byd ei sefydlu yn gyntaf ym 1954 fel Diwrnod Byd-eang y Plant ac mae’n cael ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hyrwyddo cydberthynas rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymysg plant yn fyd-eang a gwella lles plant.

Mae 20 Tachwedd yn ddyddiad pwysig oherwydd mai dyma’r dyddiad ym 1959 y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad o Hawliau’r Plentyn. Dyma’r dyddiad hefyd ym 1989 y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn.

Ers 1990 mae Diwrnod Plant y Byd hefyd yn cofnodi pen-blwydd y dyddiad pryd mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad a’r Confensiwn ar hawliau plant.

Related
News

Heb eu Hagor

Dydd y Cofio

by | 10/11/2022 at 5:04pm

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham