Prosiect Creu Newid 2016

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Drwy wir garedigrwydd ein holl gefnogwyr, roeddem wedi casglu £12,250 sy’n swm anhygoel, ac wedi gallu mynd â 5 person ifanc o ardal Wrecsam i’r Prosiect Gunjur yn Gambia, lle roeddynt yn gallu cefnogi a gweithio ar brosiectau anghenus.  Yma bu iddynt ddysgu a datblygu llawer o sgiliau byw, adeiladu eu hyder a’u hunan-barch gan weithio i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Gambia.  Roedd hwn yn brosiect newid bywyd ac yn brofiad bythgofiadwy yn ôl y bobl ifanc.

Roedd yr arian a’r cyfraniadau a gasglwyd gan y merched o’r Prosiect Creu Newid wedi darparu cryn dipyn. Darparwyd 50 rhwyd Malaria ar gyfer plant yn y lleoliadau lleol (Kajabang), 6 pêl droed a phympiau i’r Greater Tomorrow Football Academy lleol.  Cyflenwadau Cymorth Cyntaf, pecyn hylendid dwylo Glitter Bug, pecynnau rhodd benywaidd a chynnyrch benywaidd i’r Geidiaid lleol, adnoddau, offer swyddfa, hetiau a sgarffiau ar gyfer ysgol leol a llawer mwy.

Hefyd, bu i’r Prosiect Creu Newid noddi 5 unigolyn yn Gambia. Ariannwyd aelod o staff: Lamin Saho am 12 mis i weithio yn ac i ddiogelu Gwarchodfa Natur Cymunedol Bolongfenyo.  Roeddent wedi gallu cefnogi Rohey Darboe, 6 oed, Nyarra Bojang, 8 oed a Maynar Sillah 15 oed i gael addysg am 2 flynedd; hefyd rhoddwyd cefnogaeth i Mariama Sillah am flwyddyn i astudio yn y coleg i ddod yn fydwraig. Mae hon yn alwedigaeth sydd â mawr alw yn Gambia gan fod llawer o farwolaethau yn ystod genedigaethau oherwydd diffyg gofal meddygol.

Y prosiect mwyaf a gyflawnwyd oedd y gwaith yn ysgol Mariana May.  Roedd 91 disgybl yn yr ysgol hon rhwng 3 – 11 oed. Bu i’r Prosiect Creu Newid weithio am 3 diwrnod mewn tywydd poeth iawn, ac roeddynt wedi gallu prynu paent ac adnoddau i beintio 2 wal terfyn yr ysgol gyda gwyngalch i oleuo’r ysgol, peintiwyd giatiau’r ysgol gyda phaent amddiffynnol ac yna bu i’r bobl ifanc ddylunio a pheintio murlun gyda’r wyddor, rhifau, mesurydd taldra ac enw’r ysgol.

Bu i’r bobl ifanc o’r Prosiect Creu Newid dreulio amser yn yr ystafell ddosbarth a gwylio sut yr oedd y plant yn cael eu haddysgu, a chwarae gemau, a chyda swigod a phypedau gyda’r plant a gyfrannwyd iddynt hefyd.  Y rhain oedd y plant ffodus, gan fod cannoedd o blant yn Gambia ddim mewn addysg, gan mai’r prif nod yn eu bywyd yw darparu bwyd i’w teuluoedd, mae addysg yn cael ei gyfrif fel moethusrwydd.  Roedd y Prosiect Creu Newid wedi gallu rhoi rhodd fechan o’n cyfraniadau i bob un o’r 91 plentyn. Ysgrifennodd Fatuo Jenneh, y pennaeth, lythyr atom ar ran y plant yn dweud ein bod wedi gwireddu eu dymuniadau.

Bu i’r bobl ifanc yn Creu Newid ddysgu llawer iawn am ffordd o fyw pobl ifanc yn Gambia. Bu iddynt rannu addysg ymhlith ei gilydd ar ‘ein bywyd’, bu iddynt ddysgu sut i blethu gwallt yn y dull Gambiaidd, coginio Gambiaidd, dawnsio traddodiadol, gwybodaeth ynghylch addysg, cludiant, drymio Djembi, diwydiant, natur a bywyd gwyllt lleol, traddodiadau Gambiaidd, clymliwio, ochr wledig o’i gymharu â’r ochr masnachol o Gambia, dillad traddodiadol, Hanes a llawer mwy. Roedd y diolch mwyaf i’r Prosiect Gunjur a wnaeth ein helpu i gynllunio ein hamser yn Gambia a oedd yn brofiad newid bywyd.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham