DATGANIAD I’R WASG A RHYBUDDION YNGHYLCH CYNNYRCH

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Diogelwch Calan Gaeaf

Wrth i’r cyffro i blant gynyddu pan ddaw Calan Gaeaf bob blwyddyn, dyma ychydig o awgrymiadau diogelwch y mae’r gwasanaeth Safonau Masnach wedi’u datblygu i ddiogelu ein plant sy’n bwriadu mynd o ddrws i ddrws y Calan Gaeaf hwn.

Gwisgoedd Gwrthfflam

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych am label CE, cyfarwyddiadau a gwybodaeth am ddiogelwch ar wisgoedd bob amser. Er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â chanhwyllau neu bethau eraill a allai gynnau tân, byddwch yn fwy gofalus a gwyliadwrus gyda gwisgoedd a wnaed o ddeunyddiau tenau a gwisgoedd gyda llewys llac, mawr neu sgertiau hir, llawn.

Dyluniadau Gwisgoedd

Prynwch wisgoedd sy’n ysgafn ac yn ddigon llachar i fodurwyr eu gweld yn glir.
• Ar gyfer mwy o amlygrwydd yn ystod y cyfnos a thywyllwch, addurnwch wisgoedd lle y bo’n briodol gyda thâp adlewyrchol a fydd yn tywynnu ym mhelydrau goleuadau ceir;
•I gael eu gweld yn hawdd a lle y bo’n briodol, dylai plant gario tortshis trydan,
•Dylai gwisgoedd fod yn ddigon byr i atal plant rhag baglu a syrthio,
•Dylai plant wisgo esgidiau cryfion sy’n ffitio’n dda. Nid yw esgidiau sodlau uchel oedolion yn syniad da ar gyfer cerdded yn ddiogel,
•Dylai hetiau a sgarffiau gael eu clymu’n ddiogel er mwyn eu hatal rhag llithro dros lygaid plant,
•Os caiff mwgwd ei wisgo, sicrhewch ei fod yn ffitio’n iawn a bod tyllau llygaid digon mawr er mwyn i’r plentyn weld yn glir,
•Dylai cleddyfau, cyllyll ac ategolion tebyg fod wedi’u gwneud o ddeunydd meddal a hyblyg

Diogelwch Cerddwyr

Dylai plant ifanc bob amser fod yng nghwmni oedolyn neu blentyn hŷn cyfrifol. Dylai pob plentyn gael eu hannog i gerdded, nid rhedeg o dŷ i dŷ, a defnyddio’r palmant os yw ar gael, yn hytrach na cherdded ar y ffordd.

Poster Diogelwch

Fel rhan o ymgyrch diogelwch cenedlaethol, mae’r gwasanaeth Safonau Masnach wedi datblygu poster diogelwch sy’n ceisio tynnu sylw at rai peryglon posibl adeg Calan Gaeaf. Caiff y poster hwn ei ddosbarthu o amgylch amrywiol leoliadau yn y dref.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham