Beth yw Troseddau Casineb?
Diffinnir trosedd casineb fel – ‘Unrhyw drosedd a ganfyddir gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall fel un a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn ar sail hil neu hil ganfyddedig person; crefydd neu grefydd ganfyddedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig; anabledd neu anabledd canfyddedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn person trawsryweddol neu a ganfyddir fel person trawsryweddol.’
Mae trosedd casineb yn cael ei chyflawni ar sail ‘pwy’ yw’r dioddefwr neu ‘sut’ mae’r dioddefwr yn ymddangos, dyma sy’n cymell y troseddwr.
Er mwyn i ddigwyddiad gael ei ystyried fel trosedd casineb mae’n rhaid i’r dioddefwr neu unrhyw berson arall, gan gynnwys tyst neu swyddog heddlu, ganfod bod y drosedd wedi’i hysgogi gan ragfarn. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.
Rhwng Mawrth 2022 a Mawrth 2023, cofnodwyd 145,214 o droseddau casineb gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio Dyfnaint a Chernyw).
Mathau o Droseddau Casineb
Mae tri phrif fath o droseddau casineb, gan gynnwys ymosodiad corfforol, cam-drin geiriol ac annog casineb.
Mae unrhyw fath o ymosodiad corfforol yn drosedd a dylid rhoi gwybod amdani. Yn dibynnu ar lefel y trais, bydd hyn yn pennu beth fydd y cyhuddiad yn erbyn y troseddwr. Y tri chategori y gall ymosodiad corfforol ddod o danynt yw ymosodiad cyffredin, gwir niwed corfforol neu niwed corfforol difrifol.
Profiad cyffredin i’r rhai mewn grwpiau lleiafrifol yw cam-drin geiriol. Gall hyn gynnwys bygwth neu alw enwau. Gall hwn fod yn brofiad brawychus ac annymunol i’r rhai sy’n dioddef o’r ymddygiad hwn. Yn aml credir nad oes llawer y gellir ei wneud am hyn ond mae deddfau yn bodoli i amddiffyn pobl rhag cam-drin geiriol. Dylid rhoi gwybod i’r heddlu am hyn hyd yn oed os na allwch enwi’r troseddwr.
Anogaeth i gasineb yw pan fydd person yn bygwth ac yn ysgogi casineb yn fwriadol. Gellir gwneud hyn mewn gwahanol ffurfiau gan gynnwys geiriau, lluniau, fideos, cerddoriaeth ac mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei rhoi ar-lein. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys negeseuon a anfonir yn gofyn am drais yn erbyn person neu grŵp penodol, unrhyw gyfrwng a bostiwyd ar-lein sy’n dangos lluniau, fideos neu’n disgrifio ymddygiad treisgar tuag at unrhyw un oherwydd unrhyw un o’r nodweddion a nodwyd.
Y Siop Wybodaeth
Yn y Siop Wybodaeth rydym yn ymroddedig i greu lle diogel i bawb, ein nod yw creu amgylchedd croesawgar sy’n hygyrch i unrhyw un heb ofni barn na rhagfarn. Mae ein gweithwyr ieuenctid yma i roi cyngor, arweiniad neu i wrando.
Credwn ei bod yn gyfrifoldeb ar bawb i wrthsefyll casineb a gwneud ein cymuned yn lle diogel i bawb. Gobeithiwn y byddwch i gyd yn ymuno â ni i dynnu sylw at gamwahaniaethu yn y gymuned, addysgu’r rhai sy’n dangos anwybodaeth lle y gallwch, cefnogi’r rhai sy’n wynebu rhagfarn a dangos beth yw bod yn gynghreiriad da gyda charedigrwydd a pharch.
Ein Gwasanaethau
Adnoddau: Mae gennym ystod eang o adnoddau a gall ein gweithwyr ieuenctid eich cefnogi i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Eiriolaeth Ail Lais: Mae ein gwasanaeth eiriolaeth ar gael i bobl ifanc sydd am gael cymorth i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u hawliau’n cael eu cynnal.
Amser i siarad:Bob dydd Iau rydym yn cynnal sesiwn galw heibio i bobl ifanc rhwng 3:00pm a 5:00pm, mae hwn yn cynnig cyfle i chi ddod i siarad â gweithiwr am unrhyw beth a allai fod yn eich poeni.
Sut i roi gwybod am drosedd gasineb
Mewn argyfwng pan fyddwch chi’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niwed neu mewn perygl uniongyrchol, dylech chi ffonio 999 bob amser.
Gallwch adrodd am drosedd casineb, gan gynnwys trosedd casineb ar-lein a gorymdeithiau neu ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio ar-lein. Sut i adrodd am drosedd casineb | Heddlu Gogledd Cymru
Fel arall, gallwch:
- ffonio 101
- mynd i orsaf heddlu
Sefydliadau eraill:
NWREN – Mae NWREN yn elusen annibynnol y gallwch chi siarad â hi yn gyfrinachol. Chi sy’n dewis a ydych am fynd â phethau ymhellach a gallwch aros yn ddienw.
Ffoniwch 01492 622233 yn rhad ac am ddim, gallwch hefyd e-bostio info@nwren.org.uk
Cymorth i Ddioddefwyr – Gallwch siarad â Chymorth i Ddioddefwyr yn lle’r Heddlu. Maent yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.
Ffoniwch 03003031982 yn rhad ac am ddim neu ewch i’w gwefan Troseddau Casineb Cymru – Mae’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd a Chymorth Troseddau Casineb yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim ac opsiynau adrodd i ddioddefwyr Troseddau Casineb ledled Cymru. (victimsupport.org.uk)