14 – 17? Dweud eich dweud!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r ymchwil hwn yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o ddysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb. Mae’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn helpu ysgolion, grwpiau ieuenctid a sefydliadau eraill i ddeall barn a phrofiadau pobl ifanc o ddysgu a cheisio cefnogaeth am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb, a sut y gellir gwella hyn.  

Yn rhan gyntaf ein hymchwil, fe wnaethom wrando ar bobl ifanc mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru, Lloegr a’r Alban a ddywedodd wrthym:  

– Sut a ble maen nhw’n dysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb  

– Beth hoffen nhw wybod mwy amdano  

– Sut maen nhw’n cael help a chyngor am y materion hyn  

Wrth i ni wrando ar bobl ifanc yn siarad am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb, roedden nhw’n trafod pynciau fel hunaniaeth; cyfeillgarwch; atyniad a pherthnasoedd rhamantus neu rywiol; y glasoed; delwedd corff; iechyd a lles rhywiol; bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a thrais; hawliau, cydraddoldeb a diogelwch.  

Beth yw pwrpas yr arolwg hwn?  

Yr arolwg hwn yw ail ran y prosiect ‘Addysg Rhywioldeb +’. Yn rhan gyntaf yr ymchwil, fe wnaethon ni wrando ar bobl ifanc. Ar ôl edrych ar yr hyn maen nhw wedi’i rannu â ni, rydyn ni wedi datblygu’r arolwg byr hwn ar-lein. Nod yr arolwg yw canfod beth mae ystod ehangach o bobl ifanc yn ei feddwl am y pethau hyn.

Bydd yr arolwg yn dangos 11 datganiad i ti. Galli ddweud i ba raddau rwyt ti’n cytuno neu’n anghytuno â phob un ohonynt. Mae’r datganiadau’n gofyn ble a sut rwyt ti’n dysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb, a beth fyddet ti’n hoffi ei newid a pham. Dyma dy gyfle di i ddweud wrthym beth rwyt ti’n ei feddwl. Does dim atebion cywir neu anghywir.   

Dim ond ticio blychau y gofynnir i ti ei wneud, felly dim ond tua 5 munud y dylai gymryd i ti i gwblhau’r arolwg. Dim ond gofyn i ti ymateb i’r 11 datganiad, rhoi dy oedran a pha ran o’r Deyrnas Unedig rwyt ti’n byw ynddi y byddwn ni. Fyddwn ni ddim yn gofyn i ti am unrhyw wybodaeth bersonol arall amdanat ti. 

Pwy gaiff lenwi’r arolwg hwn?  

Pobl ifanc 14-17 oed sy’n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel.   

A fydd unrhyw un yn gwybod fy mod wedi cymryd rhan?  

Na, ni fyddwn yn gofyn am dy enw nac am unrhyw wybodaeth a fydd yn datgelu pwy wyt ti ac ni fyddwn yn gallu olrhain yr arolwg yn ôl i ti.  

Oes rhaid i mi gymryd rhan?  

Nac oes. Ti sydd i benderfynu a wyt ti am gymryd rhan ai peidio. Galli ddechrau a stopio unrhyw bryd. Os byddi’n stopio, byddwn yn cofnodi dy atebion, ond ni fyddwn yn eu defnyddio yn ein hymchwil. Does dim rhaid i ti ateb y cwestiynau i gyd – galli glicio ‘Dydw i ddim eisiau ateb’ neu adael y cwestiwn yn wag, ar gyfer cynifer o gwestiynau ag yr wyt ti’n dymuno.  

Oes angen i mi ddweud wrth fy rhieni/gofalwyr fy mod yn cymryd rhan?  

Ddim oni bai dy fod ti’n dymuno gwneud hynny; ti sy’n penderfynu a wyt ti’n cymryd rhan ai peidio. Os hoffet ti drafod cymryd rhan yn yr arolwg gyda’th rieni/gofalwyr, a’i bod yn ddiogel i ti wneud hynny, galli ddangos y dudalen wybodaeth hon iddynt. Bydd hyn yn mynd â nhw i dudalen we sydd â mwy o wybodaeth am yr arolwg.   

Beth fyddwch chi’n ei wneud â’m hatebion?  

Ar ôl i ti gyrraedd diwedd yr arolwg, galli glicio cyflwyno. Bydd hyn yn anfon dy atebion at y tîm ymchwil ac yn rhoi gwybod i ni dy fod wedi gorffen ateb y cwestiynau. Os byddi di’n gadael yr arolwg ran o’r ffordd drwodd, byddwn yn dal i weld dy atebion, ond ni fyddwn yn eu defnyddio yn yr ymchwil. Gan nad ydym yn gwybod pwy wyt ti, ni fyddwn yn gallu tynnu dy atebion o’r astudiaeth os byddi di’n newid dy feddwl yn nes ymlaen.  

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau help neu gyngor am rai o’r pethau y gofynnir i mi amdanynt?  

Os hoffet ti gael help, cyngor neu gefnogaeth gydag unrhyw fater, cysyllta â Childline ar 0800 11 11 neu dos i https://www.childline.org.uk/.    

Mae Childline ar agor 24 awr y dydd, bob dydd, ac mae’n rhad ac am ddim i’w ffonio neu i sgwrsio ar-lein.   

   

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham