Bywydau Ifanc Wrecsam
Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno â myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam. Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn arddangos eu herthyglau, sy’n cynnwys ‘Bywyd adolygwr pêl-droed’, ‘Barn am Brexit ar gyfer pobl ifanc’, ‘Taith i’r lleuad’, ‘Sut i adeiladu cyfrifiadur’, ‘Fy hoff albwm’, ‘Fy hoff gig’, ‘Pethau y buaswn yn newid yn Wrecsam’, ‘Pethau dw i’n eu hoffi am Wrecsam’.
Mae’r prosiect yn gyfle i chi siarad am lawer o bethau (dim byd anweddus) a gallwch wneud hynny drwy gyfrwng fideo, erthygl neu animeiddiad. Os hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect ‘Bywydau Wrecsam Ifanc’ yna cysylltwch â ni.
Yn anffodus, dim ond yn Saesneg y mae’r stori newyddion yma ar gael.
Brexit
Ar ddiwedd mis Mawrth 2017 fe wnaethon ni ddechrau newid llwybr ein gwlad. Gyda mwyafrif o 51.9% fe wnaethon ni ddewis gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE); fe wnaeth y penderfyniad ysgwyd y wlad a’r byd fel ei gilydd. Roedd llawer yn credu, ynghyd â’r rhagolygon cynnar, y bydden ni’n pleidleisio i aros yn yr UE.
Yn fy marn i, mae’n bwysig edrych ar yr hinsawdd roedden ni’n byw ynddi ar y pryd. Ar 20fed Ionawr roedd Donald Trump wedi dechrau yn ei swydd. Roedd llawer o bobl ar draws y byd yn teimlo effaith hyn. Ers hynny, mae llawer o wledydd wedi mynd yn fwy cenedlaetholgar, e.e. Gwlad Pwyl, Ffrainc, America, y Deyrnas Unedig a De Affrica. Mae llawer o bobl yn credu bod y byd yn fwy rhanedig nag erioed.
Bellach, mae’n ymddangos bod tri dewis yn wynebu ein gwlad;
Gadael – heb gytundeb
Os na fyddwn yn cytuno ar gytundeb cyn 29ain Mawrth, neu chyn hynny, byddwn yn cael ein gorfodi i adael yr UE heb gytundeb. Bydd gadael heb gytundeb yn ein torri i ffwrdd o weddill y byd (nid yr UE yn unig), bydd yn rhaid ciwio am filltiroedd wrth ein ffiniau, bydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i gael bwyd sy’n cael ei fewnforio’n bennaf i’r wlad. Rydyn ni’n ceisio lleihau’r effaith drwy storio rhai nwyddau ond does dim ffordd o atal hyn rhag cael effaith enfawr ar ein heconomi. Er na wnaeth yr ymgyrch dros adael yr UE bleidleisio o blaid hyn, dyma’r peth agosaf maen nhw’n mynd i’w gael at Brexit go iawn.
Aros – Refferendwm newydd
Mae’r ymgyrch o blaid Aros yn gefnogol iawn i’r dewis hwn; mae’r ymgyrchwyr dros Aros yn credu bod yr ymgyrch Gadael wedi dweud celwydd wrth y wlad ac nad dyma beth wnaeth pobl bleidleisio drosto. Mae’n debygol byddai refferendwm newydd yn pleidleisio o blaid aros gan y byddai mwy o bleidleiswyr ifanc yn cael cymryd rhan. Mae’r dewis hwn yn annhebygol o ddigwydd gan fod y Prif Weinidog wedi dweud na fydd hi’n cynnig refferendwm newydd. Er bod llawer o bobl yn erbyn refferendwm arall, dydyn nhw ddim yn gallu penderfynu beth ddylai gael ei ysgrifennu ar y papur pleidleisio. Gadael neu aros, dim cytundeb neu gytundeb gwael, ac oherwydd nad oes dim dealltwriaeth glir ar hyn, mae hyn yn annhebygol o ddigwydd.
Gadael – Cytundeb Gwael
Mae ein Prif Weinidog presennol, Theresa May, wedi treulio’r misoedd diwethaf yn creu cytundeb a fydd yn ein galluogi i adael yr UE. Gallwch weld fanylion y cytundeb yma: Cytundeb Drafft. Mae’n ymddangos bod y cytundeb wedi cael ei lunio i fodloni’r rhai sydd o blaid aros a’r rhai sydd o blaid gadael, ac oherwydd hyn mae’n ymddangos ei fod wedi gwylltio’r ddwy garfan. Er mwyn i’r cytundeb hwn weithio bydd yn rhaid i fwyafrif bleidleisio o’i blaid yn y senedd. Mae’n debygol bydd y bleidlais hon yn fethiant i May.