Mae Diwrnod STIQ wedi’i lansio i gael pobl i feddwl am eu hiechyd rhyw ac i annog mwy o bobl i gael gwiriadau iechyd rhyw reolaidd. Does neb eisiau meddwl eu bod wedi dal haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), one heb gael prawf ni allwch fod yn sicr.
Dewiswyd 14 Ionawr oherwydd bod llawer o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol megis Clamydia yn cymryd pythefnos i allu eu canfod. Os oedd cyfnod y Nadolig yn cynnwys rhyw heb ddiogelwch i chi yna dylech ystyried cael prawf yn awr!
Mae ein gweithwyr ieuenctid yn cynnig prawf STI cyfrinachol yn y Siop Wybodaeth, mae’r prawf yn broses cyflym a syml, a fydd yn tawelu eich meddwl ond gall ddiogelu eich ffrwythlondeb.