Ym mis Tachwedd 2021, roedd Llywodraeth Cymru wedi datgelu Gwarant i Bobl Ifanc – ymrwymiad y byddai pawb dan 25 oed yng Nghymru yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.
Cafodd yr ymrwymiad ei wneud mewn ymateb i’r pandemig, er mwyn lleihau effeithiau COVID a rhoi cymorth i bobl ifanc i ddilyn eu nodau gyrfa.
Cymru’n Gweithio yw’r porth i’r Warant i Bobl Ifanc a’r ffordd y bydd pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael. Bydd yn adeiladu ar ei fodel cryf a llwyddiannus sydd eisoes ar waith o ddarparu cyfarwyddyd gyrfa a chymorth cyfeirio.
Ydych chi o dan 25 oed? Ddim yn siŵr beth yw eich opsiynau neu beth yw eich camau nesaf? Peidiwch poeni, mae cyfleoedd o bob math ar gael ichi.
Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i bawb rhwng 16 a 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu ar brentisiaeth, neu i ddod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig.
Mae’r warant yn darparu cymorth gyda:
- Dewis y cwrs iawn
- Dod o hyd i brentisiaeth
- Chwilio am swydd a chymorth drwy’r broses ymgeisio
- Dechrau eich busnes eich hun
Ystyriwch eich opsiynau isod, felly, neu cysylltwch ag un o’n cynghorwyr hyfforddedig a dechrau adeiladu’r dyfodol rydych chi ei eisiau heddiw!
Opisynau
Addysg bellach – coleg a’r 6ed dosbarth
Bydd bod â hyder yn eich cwrs yn eich cymell i gwblhau eich astudiaethau a gwneud yn dda. Mynnwch gymorth gyda’ch opsiynau a mwy.
Mae dewis y cwrs iawn a’r brifysgol iawn yn bwysig a gallwn eich helpu gyda hyn. Gallwn hefyd gynnig cymorth ar bethau fel dod o hyd i gymorth ariannol a’r broses Glirio.
P’un ai ydych chi’n dod o hyd i’ch ffordd ym myd gwaith, neu’n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.
Gwybodaeth am ble i chwilio am swyddi, cofrestru ar gyfer ein bwletin swyddi, cael help gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau.
Cychwyn busnes – Syniadau Mawr Cymru
Os ydych chi’n ystyried dechrau eich busnes eich hun a’ch bod yn 25 oed neu’n iau, yna mynnwch yr help sydd ei angen arnoch drwy Syniadau Mawr Cymru.
Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i’ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
Cefnogaeth cyflogaeth arbenigol i bobl sydd mewn, neu mewn perygl o dlodi, ac sydd heb fod yn gymwys i ymuno â rhaglenni rhanbarthol eraill.
Am fwy o wybodaeth a’r erthygl lawn, cliciwch ar y ddolen isod!