Os ydych chi’n chwilio am gymorth, neu os oes angen help ar rhywun rydych chi’n ei adnabod – isod mae rhestr gynhwysfawr o wasanaethau cymorth sydd ar gael yn ardal Wrecsam/ar-lein. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano yma neu os ydych chi eisiau siarad ag aelod o’r Siop INFO am gyngor ac arweiniad, cysylltwch â 01978 295600.
Eiriolaeth
Gwasanaethau eiriolaeth gogledd-ddwyrain cymru
Yn cynnig cefnogaeth o ran sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed wrth drefnu eich gofal a’ch cefnogaeth. Byddant yn gweithio gyda chi i sicrhau y gallwch ddweud beth rydych chi am ei ddweud, sicrhau eich hawliau, cynrychioli eich buddiannau a dod o hyd i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch. Manylion cyswllt – 01352759332 neu advocacy@asnew.org.uk neu hunan-atgyfeiriwch yn: www.asnew.org.uk
Eiriolaeth ail lais
Gan eich helpu I ddod o hyd I glust I wrando, byddant yn eich helpu I ddweud eich dweud neu gywiro rhywbeth sy’n anghywir, fel gwneud cwyn neu gyfleu eich stori pan na allwch chi wneud hynny. Gallai hyn fod yn yr Ysgol, gartref neu yn y llys ac ati. I bobl 11-25 oed. Manylion cyswllt – 01978295600 secondvoice@wrexham.gov.uk neu hunan-atgyfeiriwch yn https://youngwrexham.co.uk/info/advocacy-2/advocacy
Snap Cymru
Yn cynnig cefnogaeth ddiduedd ddibynadwy I bobl ifanc, rhieni a gofalwyr ledled Cymru. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i’ch helpu I gael yr addysg gywir I bobl ifanc a phob math o anghenion addysgol arbennig/anghenion ychwanegol ac anableddau, gan gynnwys asesiadau, cynlluniau addysg unigol, bwlio a phresenoldeb ac ati. Manylion cyswllt – 08088010608. Gall rhieni wneud atgyfeiriad yn https://webforms.dizions.co.uk/snap/english
Apiau
Calm Harm
Ap sydd wedi’i gynllunio i helpu i reoli’r ysfa i hunan-niweidio. Yn cynnwys y pynciau gweithgaredd canlynol: cysuro, tynnu sylw, mynegi eich hun, rhyddhau ac ar hap. Mae’r ap hwn ar gael I’w lawrlwytho am ddim ar y siop apiau ar eich ffon.
Mindshift
Mae’r ap hwn yn defnyddio dull ThGY (Therapi Gwybyddol Ymddygiadol) I’ch helpu I ddysgu I ymlacio a bod yn ymwybodol, datblygu ffyrdd mwy effeithiol o feddwl, a defnyddio camau gweithredol I gymryd rheolaeth ar eich Gorbryder. Mae’r ap hwn ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar y siop apiau ar eich ffon.
Happify
Mae’r ap hwn yn defnyddio gweithgareddau a gemau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth I’ch helpu I oresgyn meddyliau negyddol, straen a heriau bywyd. Mae’r ap hwn yn seiliedig ar ddamcaniaethau seicoleg gadarnhaol, meddwlgarwch a ThGY. Mae’r ap hwm am ddim I’w lawrlwytho ar y siop apiau ar eich ffon.
Calm
Mae’r ap hwn wedi’I gynllunio I’ch helpu I reoli straen bywyd bob dydd, eich helpu I gysgu’n well a byw bywyd hapusach ac iachach gan ddefnyddio gwahanol dechegau myfrio ac ymlacio. Gallwch lawrlwytho’r ap hwn ar y siop apiau ar eich ffon. Nid yw’r ap hwn am ddim ond mae ‘na opsiwn o dreial 14 diwrnod a ddim.
Headspace
Mae’r ap hwn yn cynnig offer meddwlgarwch ar gyfer bywyd bob dydd, gan gynnwys myfyrdodau, cymorth cysgu, symudiad meddwlgarwch ac ymargerion ffocws. Gallwch lawrlwytho’r ap hwn ar y sio apiau ar eich ffon. Yn anffodus, nid yw’r ap hwn am ddim.
Ahead
Mae’r ap hwn wedi’i gynllunio I’ch helpu I ddeall a rheoli eich emosiynau, tracio a gwylio eich cynnydd ac archwilio 100+ o dechegau sydd wedi’u profi gan wyddoniaeth. Gallwch lawrlwytho’r ap hwn ar y siop apiau ar eich ffon. Yn anffodus nid yw am ddim, ond mae treial ar gael am ddim.
Awtistiaeth
Eich lle chi
Cymorth I blant a phobl ifanc 5-19 oed. Elusen fechan sy’n cynnig cefnogaeth I bobl ifanc ag Awtistiaeth a’u teuluoedd yn Llai, Wrecsam. Nid oes angen diagnosis o Awtistiaeth arnoch I fynychu. Mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys clybiau ieuenctid a gwasanaethau allgymorth (mae’r rhain wedi’u gohirio ar hyn o bryd, ond byddant yn ailddechrau yn y dyfodol agos gobeithio). Manylion cyswllt – 01978856859. I gofrestru eich diddordeb llenwch y ffurflen hon www.yourspacewales.co.uk
Awtistiaeth integredig gogledd cymru
Yn cynnig asesiad diagnosis Awtistiaeth I bobl 18+ oed, gallant hefyd gynnig cymorth ar ddeall eich diagnosis, mynediad at waith grwp a chymorth unigol, a chyngor a chymorth I rieni unigolion Awtistig. Manylion cyswllt – 01352702090 neu NW.IAS@Flintshire.gov.uk Gallwch hunan-atgyfeirio yn: https://neurodivergencewales.org/en/integrated-autism-service/north-wales
Profedigaeth
Cruse Bereavement
Yn cynnig cymysgedd unigryw o gefnogaeth, gan gynnwys deal eich profedigaeth, sesiynau gwybodaeth grwp neu gefnogaeth 1-i-1. Mae’r cymorth hwn fel arfer yn cael ei gynnig dros y ffon neu drwy alwad fideo neu grwpiau fel grwpiau cymorth cyfoedion. I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch a – 03001111003
Blue Cross
Gwasanaeth cymorth sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer profedigaeth, gwahanu gorfodol neu ladrata anifeiliaid anwes. Maent yn cynnig lle diogel i chi drafod sut rydych chi’n teimlo, i’ch helpu i ddod i delerau a’ch colled ar eich cyflymder eich hun. Gallwch gael mynediad at gymorth galw bob dydd o 08:30am-08:30pm ar 08000966606 neu e-bostiwch pls mail@bluecross.org.uk – byddwch yn cael ymateb o fewn 48 awr. Cymorth gwe-sgwrsio 08:30am-08:30pm bob dydd yn https://www.bluecross.org.uk/pet-bereavement-and-pet-loss
Child Bereavement UK
Yn helpu teuluoedd I ailadeliadu eu bywydau pan fydd plenty yn galaru neu pan fydd pletyn yn marw. Maent yn cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 25 oed pan fydd rhywun pwysig iddyn nhw wedi marw neu pan na fydd disgwyl iddynt fyw, a rhieni a’r teulu ehangach pan fydd babi neu blentyn o unrhyw oedran wedi marw neu yn marw. Manylion cyswllt 08000288840 neu a’r teulu ehangach pan fydd babi neu blentyn o unrhyw oedran wedi marw neu yn marw. Manylion cyswllt 08000288840 neu helpline@childbereavmentuk.org www.childbereavementuk.org
Anhwylder bwyta
BEAT
Mae BEAT yn rhedeg nifer o grwpiau cymorth ar-lein ar anhwylderau bwyta i’r rhai sy’n profi problemau gyda bwyta; nid oes angen diagnosis I gymryd rhan yn y grwpiau hyn. Mae’r grwpiau cymorth hyn yn cael eu rhedeg ar wahanol adegau a dyddiadau yn ystod yr wythnos. I gael rhagor o wybodaeth ac I gofrestru ar gyfer un o’r grwpiau cymorth hyn, ewch i: https://beateatingdisorder.org.uk/get-information-and-support/get-help-for-myself/online-support/
Cam-drin domestig/trais rhywiol
DASU
Yn cynnig cefnogaeth ac eiriolaeth i unigolion a’u plant sydd wedi cael eu cam-drin gan rywun maen nhw wedi cael perthynas agos a chariadus gyda nhw. Gall cymorth gynnwys: cymorth cam-drin domestig proffesiynol ac annibynnol, cynllunio diogelwch personol, mynediad brys 24 awr at rwydwaith o dai diogel, cyfle I archwilio eich opsiynau, cysylltu ag asiantaethau neu gymorth arall, neu gymorth I aros gartref. Manylion cyswllt – Llun-Gwener 09:30-16:30 03333600483 neu 08088010800 y tu allan i oriau, neu e-bostiwch info@dasunorthwales.co.uk
Men’s Advice Line
Mae hon yn ganolfan wybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i gysylltiadau a’ch gwasanaeth cam-drin domestig dioddefwyr gwrywaidd lleol. Gall y gwasanaethau hyn ddarparu cymorth gyda’r canlynol: mynediad i loches/tai diogel, gwasanaethau sy’n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer cam-drin domestig a meysydd eraill o angen, gan gynnwys tai, digartrefedd, mewnfudo a iechyd meddwl ac ati. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 08088010327 neu ewch i’w gwefan yn https://helpines.my.site.com/mensadviceline/s/
Stepping Stones
Gwasanaeth cwnsela i’r rhai dros 18 oed sy’n goroesi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod. Ni fydd rhaid i chi fynd yn ol a siarad am eich profiadau yn y gorffennol; eu nod yw cefnogi pobl i allu symud ymlaen a’u bywydau heb i’w trawma eu heffeithio gymaint. I gael rhagor o wybodaeth ffioniwch 01978352717 neu e-bostiwch info@steppingstonesnorthwales.co.uk Gallwch hunan-atgyfeirio yn https://www.steppingstonesnorthwales.co.uk/self-referral-form
Cyffuriau ac alcohol
In2change
Cymorth i bobl ifanc 11-25 oed gyda’u defnydd o gyffuriau ac alcohol. Gallant gynnig gwybodaeth a chyngor ar ddefnydd, cynyddu gwybodaeth am y risgiau, eich cefnogi i leihau defnydd neu stopio, darparu cymorth ynghylch yr effaith ar eich bywyd a llawer mwy. Bydd apwyntiadau’n cael eu cunnal lle rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus, fel yn yr Ysgol/coleg, yr INFO shop, gartref neu yn y gymuned. Manylion cyswllt – 01978295629 neu in2change@wrexham.gov.uk neu gallwch hunan-atgyfeirio yn – https://youngwrexham.co.uk/info/drink-drugs-smoking/in2change/
Camfa 14+
Gwasanaeth i bobl ifanc 14-25 oed sy’n poeni am eu defnydd o gyffuriau ac alcohol. Gellir cynnig cymorth hefyd i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan aelod o’r teulu yn defnyddio sylweddau. Gall y gefnogaeth hon fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffon o dydd Llun I ddydd Gwener. Gellir cynnig hyd at 12 sesiwn yn swiliedig ar gwnsela, gyfweliadau ysgogiadol ac ymyriadau byr estynedig ThGY. Manylion cyswllt – 01492523690 neu enquiries@adferiad.org I gael mynediad I’r ffurflen hunan-atgyfeirio
DAWS
Cymorth i’r rhai 18+ oed sy’n defnyddio cyffuriau a/neu alcohol, ynghyd a’u teuluoedd a’u gofalwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan eu defnydd. Maent yn cynnig cymorth galw heibio ac allgymorth ar: leihau niwed, sgrinio cyffuriau a/neu alcohol, atgyfeiriadau at wasanaethau cymorth eraill fel Alcoholics Anonymous neu raglenni triniaeth strwythuredig, a gallant archwilio cyfleoedd gwirfoddoli ac ymgysylltu a’r gymuned. Manylion cyswllt – 01978357926 neu eastdaws@thewallich.net
Cyflogaeth/gwirfoddoli
We Mind the Gap – ‘We Discover’
Rhaglen rithwir 3 mis lle gall pobl ifanc ddysgu mwy amdanyn nhw eu hunain, magu hyder a datblygu sgiliau i’w galluogi i weld llwybr clir ar gyfer eu dyfodol. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys: gweithdai rhyngweithiol rhithwir, siaradwyr gwadd a sesiynau dangos esiampl, meithrin sgiliau cyflogadwyedd, mentor pwrpasol, a chefnogaeth gydol oes. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â Kim Harasym-moss ar 07732690705 neu kim@wemindthegap.org.uk
We Mind the Gap – ‘We Grow’
Rhaglen 12 mis, gyda 6 mis mewn cyflogaeth. Yn y rhaglen hon byddwch chi’n cwblhau 5 lleoliad gwaith gwahanol, yn cymryd rhan mewn hyfforddiant bywyd ac yn datblygu sgiliau a phrofiadau newydd i’ch paratoi ar gyfer y byd gwaith. Wedi’i ddilyn gan 6 mis o gefnogaeth ymroddedig. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â Mark Rimmer ar 07999405039 neu mark@wemindthegap.org.uk
Twf Swyddi Cymru +
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed a fydd yn rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i gael swydd neu hyfforddiant pellach. O fewn y rhaglen hon, byddwch yn cael y cyfle i: roi cynnig ar swyddi newydd y gallai fod gennych chi ddiddordeb ynddynt drwy dreialon a lleoliadau gwaith, cael eich talu gyda lwfansau hyfforddi wythnosol, a chael cyflog go iawn pan fyddwch chi’n cael eich cyflogi. Cewch gyngor parhaus, arweiniad a hyfforddiant 1-i-1 wrth hyfforddi i ennill cymwysterau cydnabyddedig i roi hwb i’ch opsiynau gyrfaol. A byddwch yn cael mynediad at swyddi gyda chyflogwyr lleol. Ni allwch fod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth lawn-amser yn barod i gymryd rhan yn y rhaglen hon. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a 08000284844 neu workingwales@careerwales.llyw.cymru
Academi Adferiad
Rhaglen 12 wythnos i bobl ifanc 16-24 oed sy’n byw yng Nghymru, sydd wedi bod yn ddi-waith ers o leiaf 12 mis, ac nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw brosiectau eraill gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Yn ystod y rhaglen hon cewch gyfle i ennill cymwysterau achrededig a phrofiad gwaith mewn gwasanaeth Adferiad o’ch dewis chi. Gellir cynnig hyfforddiant ar-lein, gyda lleoliadau ar gael ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, cysylltwch a 01792816600 neu academi@adferiad.org.uk
AVOW – Dylanwadwyr
I bobl ifanc 14-25 oed a hoffai gymryd rhan yn y cynllun grant dan arweiniad pobl ifanc. Bydd yn eich galluogi i ddysgu am gyllid grant a chyfrannu’n weithredol at ddyfarnu arian i ddylanwadwyr ifanc a phrosiectau cymunedol eraill. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fynd ar daith o gwmpas gwahanol gyfleoedd gwirfoddoli ledled Wrecsam. Cewch fwynhau pizza, snacs a diodydd yn ystod y cyfarfodydd dylanwadwyr, mynediad at gyfleoedd hyfforddi, a mynediad cefn llwyfan arbennig at elusennau, digwyddiadau a phrofiadau cyffrous. Rhaid bod yn rhydd i gwrdd ar nos Fercher ddwywaith y mis, a bod yn agored i deithiau maes dewisol ledled y sir. Manylion cyswllt – 01978312556 neu info@avow.org
AVOW
Mae gan AVOW dim gwirfoddol a chymunedol a all roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus am wirfoddoli. Fel rhan o’u gwasanaeth, byddant yn eich cyfeirio at sefydlliadau sydd o ddiddordeb i chi a gallant drefnu apwyntiadau ar eich rhan. Manylion cyswllt – 01978312556 neu volunteer.centre@avow.org www.avow.org/volunteering/
Gwirfoddoli Cymru
Cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru. Os nad ydych chi’n siŵr beth hoffech chi ei wneud, dyma’r lle gorau i ddechrau chwilio yn aml iawn. Gallwch bori yn ôl cod post i helpu i gulhau eich chwiliad hyd yn oed ymhellach. I greu cyfrif am ddim i gael mynediad i’r gronfa ddata hon, dilynwch y ddolen hon – https://volunteeringwales.net/cy
MAPS Plus
Ydych chi’n 16-25 oed heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant? Os felly, dyma’r gwasanaeth i chi. Gwasanaeth sy’n seiliedig ar fentora lle byddwch chi’n cwrdd a mentor i lunio cynllun gweithredu a’ch helpu i oresgyn rhwystrau fel materion iechyd meddwl neu broblemau llety. Gallant gynnig cyrsiau fel sgiliau bywyd, llythrennedd/rhifedd, cyflogadwyedd ac ati tra hefyd yn archwilio cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon i chi gael mynediad iddynt. Manylion cyswllt – MAPS@caiapark.org
Gyrfa Cymru
Gwefan ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio’ch gyrfa ar gyfer y dyfodol ac archwilio cyrsiau, hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae ganddynt hefyd gwis i’ch helpu i nodi gyrfa bosibl yn seiliedig ar eich diddordebau. Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad i siarad â chynghorydd gyrfaoedd drwy ffonio 08000284844 neu archebu ar-lein yn https://gyrfacymru.llyw.cymru
Cymorth i Deuluoedd
CNGG – Cyflawni newid gyda’n gilydd
Sefydliad sydd wedi’i gynllunio i helpu i drefnu a chydlynu cymorth ychwanegol i blant, pobl ifanc (rhwng 0-25 oed) a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer y rhai sydd a nifer o anghenion sy’n gofyn am gymorth ataliol. Mae angen i atgyfeiriad gael ei gwblhau gan rywun sy’n gweithio gyda phlentyn, person ifanc neu eu teulu (e.e. athro ysgol, addysg, gweithiwr cymdeithasol, nyrs ysgol neu weithiwr ieuenctid ac ati) neu gall person ifanc neu riant ofyn i’r broses CNGG gael ei chychwyn. Byddwch yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda phawb sy’n ymwneud a gofal eich teulu; mae hyn yn sicrhau bod anghenion pawb yn cael eu dwiallu ac yn tynnu sylw at unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01978295385
Family Lives
Gwasanaeth y gawllch gysylltu ag ef am unrhyw broblemau teuluol neu fagu plant rydych chi’n eu profi i siarad a gweithiwr cymorth i deuluoedd proffesiynol profiadol. Byddant yn rhoi cyfle i chi rannu eich stori, a’ch cefnogi i nodi ffordd ymlaen. Manylion cyswllt – 07441444125 Llun-Gwener 9am-9pm neu askus@familylives.org.uk
Prosiect gamblo menywod – Adferiad
Prosiect cymunedol sy’n anelu at wella’r ymwybyddiaeth o driniaeth gamblo a chefnogaeth i fenywod, a’r niwed y gall gamblo ei achosi. Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer unrhyw 18+ oed sy’n datgelu ei bod yn gaeth i gamblo. I gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau atgyfeiriad, cysylltwch a 01492863000 neu e-bostiwch cheryl.williams@adferiad.org
Llwybr triniaeth gamblo Parkland Place
Cymorth i bobl 18+ oed sy’n wynebu heriau bywyd, fel problemau iechyd meddwl, problemau defnyddio sylweddau ac anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd, ar y cyd â dibyniaeth gamblo. I gael rhagor o wybodaeth neu i gwblhau atgyfeiriad, cysylltwch â 01492203421 neu cheryl.williams@adferiad.org
Cyngor cyffredinol
Info Shop
Gwasanaeth gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth cyffredinol cyfrinachol am ddim i bobl ifanc 11-25 oed ar unrhyw fater y gallai person ifanc ei wynebu. Gallant gynnig cymorth ar gael mynediad at gwnsela, tai, cymorth cyffuriau a/neu alcohol, materion yn ymwneud â pherthnasoedd teuluol, gyrfaoedd, LHDTC+, arian ac ati. Mae ganddyn nhw hefyd glinig iechyd rhywiol. Manylion cyswllt – 01978295600 neu infoshop@wrexham.gov.uk neu galwch heibio yn yr INFO Shop, Stryt y Lampint, LL11 1AR
Tai/digartrefedd
Compass Housing Advice Service
Yn cynnig cyngor ar dai a budd-daliadau i bobl 16-25 oed ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae gan y gwasanaeth hwn gysylltiadau a’r Cynllun Bond hefyd, sy’n cynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i lety addas. Manylion cyswllt – 01978317092 neu compasspartnership@barnardos.org.uk
Cyngor ar Bopeth
Mae ’na wybodaeth wych am bopeth yn ymwneud â thai, cael eich troi allan o’ch cartref, gwneud cais am dŷ cyngor a/neu gymdeithas dai ar eu gwefan yn https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Tai/
Shelter Cymru
Gwasanaeth sy’n cynnig cyngor ar dai, digartrefedd, rhent neu ddyled i’r rhai dan 25 oed. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma – https://sheltercymru.org.uk/housing-advice/advice-for-young-people/
Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ieuenctid Wrecasm
Yn cynnig cymorth i’r rhai 11-25 oed sy’n cael problemau gyda’u llety. Maent yn anelu at ddarparu cymorth cyn i chi ddod yn ddigartref, a byddant yn ceisio eich helpu i aros yng nghartref y teulu os yw’n ddiogel gwneud hynny. Manylion cyswllt – 01978295580 neu YHPS@wrexham.gov.uk neu hunan-gyfeiriwch yn https://youngwrexham.co.uk/info/wrexhams-youthhomelessness-prevention-service/
The Wallich
Cymorth i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yng Ngogledd/Dwyrain Cymru sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Maent yn cynnig gwasanaeth datrys gwrthdaro o chyfryngu am ddim. Unrhyw un sy’n profi anghydfod a allai effeithio ar eu sefyllfa dai – gallai hyn gynnwys chwalfa deuluol, anghydfodau rhwng cymdogion neu anghydfodau gyda landlord. Manylion cyswllt – 08000495495 Llun-Gwener 09:00-16:00.
Llinellau Cymorth
NHS 111+2
Cymorth argyfwng iechyd meddwl 24/7. Ffoniwch 111 a dewis opsiwn rhif 2 i gael eich cysylltu a gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol hyfforddedig. Gallant eich tywys drwy’r camau nesaf, megis hwyluso mynediad at wasanaethau amgen.
BEAT
Siaradwch a chynghorydd llinell gymorth anhwylder bwyta BEAT gan ddefnyddio gwe-sgwrsio. Mae hyn i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan anhwylder bwyta. Rhannwch eich pryderon, trafodwch eich taith adfer a manteisiwch ar gymorth lleol. Ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener 3-8pm.
Byw Heb Ofn
Os ydych chi, aelod o’r teulu, ffrind neu rywun rydych chi’n poeni amdano wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol ac yr hoffech siarad am y brwydrau rydych chi wedi’u hwynebu ffoniwch 08088010800 neu tectiwch 07860077333
DAN 24/7
Siarad a rhywun am eich problem cyffuriau neu alcohol yw’r cam cyntaf tuag at ddatrys eich problemau. Gallwch ffonio unrhyw bryd, unrhyw ddiwrnod am gefnogaeth a chyngor – 08088082234 neu e-bostiwch dan@helpline.wales
Cruse Bereavement
Llinell gymorth sy’n cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un y mae galar yn effeithio arno, gan roi lle i chi siarad am eich teimladau a sut rydych chi wedi bod yn ymdopi a’ch galar. Mae’r llinell gymorth hon ar agor ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd lau a dydd Gwener. 09:30-17:00 a dydd Mawrth 13:00-20:00. Manylion cyswllt – 08088081677
Y Samariaid
Os oes angen clust i wrando arnoch chi, bydd y Samariaid yn gwrando, ni fyddant yn eich barnu nac yn dweud wrthych beth i’w wneud. Gallwch ffonio unrhyw bryd yn ystod y dydd neu’r nos ar – 116123 neu gallwch e-bostio jo@samaritans.org (cofiwch y gall gymryd sawl diwrnod i gael ated trwy e-bost).
Papyrus Hopeline
Ar gyfer pobl ifanc hyd at 35 oed sy’n meddwl am hunanladdiad neu rywun sy’n poeni rywun arall – ffoniwch 08000648141 neu tecstiwch 88247
SHOUT
Llinell destun 24/7 – tecstiwch y gair ‘shout’ i 85258 a chewch eich cysylltu a chynghorydd a fydd yn eich tecstio chi nol. Gallwch drafod unrhyw beth sy’n eich poeni – maen nhw’n cynnig clust i wrando. Bostio help@galop.org.uk unrhyw bryd.
The DPJ Foundation
Llinell gymorth 24/7 gyfrinachol i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ffermio neu amaethyddiaeth. Clust wrando i chi drafod unrhyw beth sy’n eich poeni. Ffoniwch 08005874262 neu tecstiwch 07860048799
GALOP
Linell gymorth i unigolion LHDTC+ sy’n profi cam-drin neu drais, fel troseddau casineb, cam-drin domestig, trais rhywiol neu unrhyw fath arall o gamdriniaeth. Mae’r llinell gymorth hon i bobl 18+ oed. Mae’r llinell gymorth hon ar agor o ddydd Llun i ddydd lau 09:30-20:00, dydd Gwener 09:30-16:30
NSPCC
Cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i blant dan 18 oed i drafod unrhyw beth rydych chi’n poeni amdano. Ffoniwch 08001111 neu i gael rhagor o wybodaeth am gael mynediad at gymorth gan gwnselydd 1-i-1 ar-lein cliciwch yma – https://www.childline.org.uk/getsupport/
Men’s Advice Line
Llinell gymorth i ddynion sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig. Maent yn cynnig clust i wrando a yr hyn sy’n digwydd i chi ar y foment honno. Gallwch chi gael eich cysylltu a chynghorydd gwrywaidd neu fenywaidd. Cymorth ffon Llun-Gwener 10:00-17:00 – 08088010327
Hobiau/Diddordebau
Activ8-2-16
Cynllun sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc 5-16 oed sydd ag amhariad corfforol, anhawster dysgu, amhariad synhwyraidd neu broblemau iechyd meddwl gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol fel nofio, jiwdo, campfa iau, pel-droed a thennis. Mae angen i chi gael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol, fel meddyg teulu, athrawon ysgol neu Weithiwr Ieuenctid. Manylion cyswllt – 01978297351
Wrecsam Egniol
Sefydliad sydd wedi’i gynllunio i annog pobl o bob oed i ddal i fod yn egnïol yn Wrecsam. Chwiliwch am ‘Wrecsam Egnïol’ ar Facebook i ddod o hyd i’r holl wahanol grwpiau chwaraeon sy’n cael eu cynnig. Mae’r gweithgareddau maen nhw’n eu cynnig yn cynnwys rygbi, pêl-droed, sboncen, nofio neu focsio. Manylion cyswllt – activewrexham@Wrexham.gov.uk
Clwb Darllen Tawel
Dwlu ar ddarllen? Ddim yn hoffi siarad man? Y clwb darllen tawel hwn yw’r lle i chi. Cwrdd yn Starbucks Rhostyllen bob dydd Mawrth 5-7pm. Manylion cyswllt – thewsbc2023@hotmail.com
Gwobr Dug Caeredin
Dysgwch am yr her o gymryd rhan yng ngwobr Dug Caeredin ar lefel Aur, Arian neu Efydd. Cwrdd ar nos Lun a nos Fercher, 6-8pm yn ystod y tymor yn unig yn y Vic yng nghanol Wrecsam. Os ydych chi’n 16 oed neu hŷn, gallwch ddechrau’n syth ar y lefel Aur. Manylion cyswllt 01978317958 neu 07800689102 neu DofE@wrexham.gov.uk
Kim4Her
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhedeg gweithgareddau, cyrsiau a digwyddiadau cymdeithasol mewn amgylchedd cefnogol, diogel, anffurfiol a hamddenol. Gall unrhyw un 16+ oed ymuno a’r grwp hwn a gwneud llawer o weithgareddau gwahanol, fel coginio, ffotograffiaeth a chyrsiau am ddim fel dysgu Cymraeg gan hefyd ddatblygu sgiliau newydd i adeiladu dyfodol mwy cadarnhaol i ni’n hunain a’n teuluoedd. Manylion cyswllt – 01352872189 neu info@kim-inspire.org.uk
Kim4Him
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhedeg gweithgareddau, cyrsiau a digwyddiadau cymdeithasol mewn amgylchedd cefnogol, diogel, anffurfiol a hamddenol. Gall unrhyw un 16+ oed ymuno â’r grŵp hwn a gwneud llawer o weithgareddau gwahanol, fel ffotograffiaeth, garddio a diwrnodau allan. Gallwch hefyd gael mynediad at ‘Brew and do’, lle gallwch weithio ar brosiectau adfer gan ddefnyddio llu o sgiliau DIY, tra’n cael sgwrs dros baned. Manylion cyswllt – 01352872189 neu info@kim-inspire.org.uk
Diogelwch ar y we
CEOP
Gwybodaeth ac arweiniad i bobl ifanc hyd at 18 oed a’u rhieni ar y materion canlynol: perthnadsoedd, cymdeithasu ar-lein, diogelwch ar-lein, cyfeillgarwch iach, stelcian, aflonyddu ar-lein ac ati. Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio i amddiffyn plant a phobl ifan rhag grwmio a cham-drin rhywiol ar-lein. Gallwch wneud adroddiad i CEOP ar-lein ar bethau fel rhywun yn gofyn i chi anfon llun ohonoch chi’ch hun atynt, neu os ydych chi’n cael eich bygwth ar ol anfon llun. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma – www.ceop.police.uk/ceop-reporting/
Gadael Gofal
Gweithredu Dros Blant – Sgiliau+
Ymyriad adeiladu sgiliau seicogymdeithasol i bobl ifanc 16-24 oed sy’n gadael gofal. Maent yn anelu at gefnogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau canlynol – meddwlgarwch, rheolaeth emosiynol, trallod, goddefgarwch ac effeithiolrwydd rhyngbersonol. Byddwch chi’n cael eich ymarferydd eich hun a fydd yn cwrdd â chi ble bynnag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus, naill ai bob wythnos neu bob pythefnos. Mae ganddynt hefyd weithiwr ieuenctid pontio a all ddarparu sgiliau ymarferol i’ch cefnogi tuag at fyw’n annibynnol. Am fwy o wybodaeth ffoniwch/anfonwch neges whatsapp i 07887943743 neu e-bostiwch skillsplusnorthandmidwales@actionforchildren.org.uk
LHDTC+
VIVA
Grwpiau ieuenctid a chefnogaeth i bobl ifanc 11-25 oed sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws neu’n cwestiynu. I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth 1-i-1 y gallwch ei gael a’r Grwpiau Ieuenctid cysylltwch a 01745357941 neu info@vivalgbt.co.uk
Umbrella Cymru
Yn arbenigo mewn hunaniaeth rhywedd a rhywiol, amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant. Cynigir cymorth ledled Cymru ar hunaniaeth, hyder a dod allan, hunaniaeth rhywedd, mynediad at driniaeth, llawdriniaeth neu gymorth cymdeithasol, llenwi ceisiadau newid enw, a gwneud ceisiadau i’r panel cydnabod rhyw. Gellir darparu cymorth i deuluoedd hefyd. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 03003023670, tecstiwch 07520645700 neu e-bostiwch info@umbrellacymru.co.uk neu gallwch hunan-atgyfeirio yn www.umbrellacymru.co.uk
GALOP
Gallant gynnig ystod o wasanaethau i unigolion 13+ oed gan gynnwys cyngor a chefnogaeth i’ch helpu chi ac araill i fod un fwy diogel, cymorth emosiynol parhaus, cymorth brys gan gynnwys cymorth meddygol, gwybodaeth am ddiogelwch a thai brys ac ati. Gall y cymorth fod dros y ffon, e-bost neu wyneb yn wyneb (os oes cynghorydd wedi’i leoli yn eich ardal leol). Am ragor o wybodaeth e-bostiwch – advice@galop.org.uk neu gwnewch hunan-atgyfeiriad yn https://galop.org.uk/make-a-referral/
Iechyd Meddwl
Inspire
Gweithwyr Ieuenctid sy’n cynnig cymorth 1-i-1 i bobl ifanc 11-18 oed (hyd at 19 oed) sydd yn neu wedi hunan-niweidio neu gael syniadau ynghylch hunanladdiad. Bydd tua 8 sesiwn yn cael eu darparu yn seiliedig ar nodau rydych chi’n eu nodi fel mecanweithiau ymdopi, gorbryder, hylendid cwsg, rheoli hwyliau neu atgyfeirio at wasanaethau neu grwpiau eraill. Ni allwch ddefnyddio Inspire a CAMHS ar yr un pryd, a rhaid i’r atgyfeiriad gael ei gwblhau gan weithiwr proffesiynol, fel CAMHS, meddyg teulu neu nyrs ysgol
Silvercloud
Rhaglenni ar-lein wedi’u cynllunio i bobl ifanc 16+ oed i wella a chynnal eich lles trwy newid y ffordd rydych chi’n meddwl ac yn teimlo am bethau. Mae hon yn rhaglen am ddim y gallwch weithio drwyddi yn eich amser eich hun, ac mae’n cynnwys pynciau fel delwedd y corff, straen, meddwlgarwch, gwytnwch, cwsg, iselder ac OCD. Mae’r rhaglen yn cynnwys fideos, gweithgareddau, cwisiau, canllawiau sain a dyddlyfr. Mae gennych 12 wythnos i gwblhau pob rhaglen. Gallwch gofrestru ar gyfer y rhaglen hon yn https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/ neu am ragor o wybodaeth e-bostiwch
The Mix – Cwnsela
Os ydych chi’n chwilio am gymorth byrdymor gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles emosiynol a’ch bod rhwng 11-25 oed, gallai’r cymorth cwnsela hwn fod yn ddelfrydol i chi. Mae’r cwnsela’n cael ei gynnig dros y ffôn neu we-sgwrsio – byddant yno i wrando ar eich problemau a’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi mewn lle diogel cyfrinachol. Gallant gynnig cefnogaeth ar y pynciau canlynol – profedigaeth, diwedd perthynas, hunaniaeth rywiol, teimladau o iselder/tristwch a theimlo’n fwy hyderus. Gallwch hunan-atgyfeirio yn – https://www.themix.org.uk/get-support/speak-to-our-team/the-mix-counselling-service
MIND (Gogledd, Dwyrain Cymru)
Yn cynnig cwnsela i unigolion 12+ oed – mae’n costio £45 y sesiwn, ac maen nhw’n cael eu cynnal yn y ganolfan Ies yn yr Wyddgrug. Byddant yn eich helpu i archwilio’ch teimladau a’ch problemau, nodi pam rydych chi’n teimlo fel ydych chi, gweithio allan beth allwch chi ei wneud nesaf, a sut y gallwch chi wella pethau. Gall y gefnogaeth hon fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffon. Mynegwch ddiddordeb – 01352974430 neu https://www.newmind.org.uk/help-support/talking-therapies/counselling/
Gwasanaeth galw heibio )Gogledd-ddwyrain Cymru)
Yn cynnig gwasanaeth galw heibio ar ddydd Mawrth lle gallwch chi ddod am sgwrs am fywyd yn gyffredinol neu unrhyw broblemau sydd gennych chi – rhwng 1-3pm yng Nghanolfan Parc Caia, Ffordd y Tywysog Siarl, Wrecsam LL13 8TH. Manylion cyswllt – 01352974430
Meddwlgarwch a myfyrdod MIND (Gogledd, Dwyrain Cymru)
Dewch i ymlacio, cwrdd a phobl newydd a mwynhau saib mewn awyrgylch cadarnhaol wrth ni ddysgu i fyfyrio gyda’n gilydd. Dewch i hybu lles yn y meddwl, y corff a’r enaid – Dydd Llun 16:30-17:30ym. Mhartneriaeth Parc Caia, Fford y Tywysog Siarl, Wrecsam, LL13 8TH. Manylion cyswllt – 01352974430 neu enquiries@newmind.org.uk
Sesiwn Amser i Siarad
Bob dydd Iau yn yr INFO Shop yn Wrecsam, 15:00-17:00, dewch i siarad â Gweithwyr Ieuenctid am unrhyw beth sy’n eich poeni chi, fel iechyd a lles emosiynol, cyfleoedd cyflogaeth, gwasanaethau cymorth neu i gael sgwrs a chyngor
Cwnsela Outside In
Gofod diogel, cyfrinachol i blant 11-18 oed archwilio’u meddyliau a’u teimladau a, gyda’u cwnselydd, ddod o hyd i ffordd i symud ymlaen. Fel arfer, byddwch yn cael mynediad at tua 6 sesiwn, a all ddigwydd lle rydych chi’n teimlo’n gyfforddus, fel yn yr ysgol, yn yr INFO Shop neu yn y Vic. Manylion cyswllt – 01978295630 neu outside_in@wrexham.gov.uk neu hunan-gyfeiriwch yn https://youngwrexham.co.uk/info/mental-health/counselling-2/
Parabl – Partneriaeth Therapiau Siarad
Cwnsela am ddim i unigolion sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin neu ddigwyddiadau bywyd heriol, a allai fod yn effeithio ar eu lles emosiynol. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn y ganolfan les yn yr Wyddgrug neu dros y ffon. I fynegi eich diddordeb – 03007772257 neu ask@parabl.org.uk
CLIC
Mae Clic yn credu na ddylai unrhyw un deimlo’n unig nac yn ynysig. Trwy ey cymuned ar-lein am ddim, mae Clic yno i chi bob awr o’r dydd. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i siarad yn ddiogel ac yn agored am sut rydych chi’n teimlo, ac yn rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau. Ar wefan Clic, mae ganddyn nhw lawer o adnoddau, cyngor a gwybodaeth lechyd Meddwl, ystafell sgwrsio ar-lein 24/7, fforymau, tracwyr hwyliau a sesiynau Holi ac Ateb byw gydag arbenigwyr lechyd Meddwl. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Clic – https://clic-uk.org
The DPJ Foundation
Cwnsela am ddim i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ffermio neu amaethyddiaeth. Ar ôl i chi gysylltu, bydd cwnselydd yn cysylltu â chi o fewn 48 awr, a byddwch yn cael eich gweld o fewn wythnos. Gall cwnsela fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg. I gael mynediad at gwnsela ffoniwch neu tecstiwch 08005874262 neu e-bostiwch kate@thedpjfoundation.co.uk
CAMHS
Gwasanaeth GIG sy’n asesu ac yn trin pobl ifanc hyd at 18 oed sydd ag anawsterau emosiynol, ymddygiadol neu iechyd meddwl. I gael atgyfeiriad at CAMHS siaradwch a’ch meddyg teulu, ysgol neu. Weithiwr Ieuenctid. I gael rhagor o wybodaeth am CAMHS cliciwch yma www.youngminds.org.uk/youngperson/your-guide-to-support/guide-to-camhs/#howdoigethelpfromcamhs
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion
Gwasanaeth GIG sy’n asesu ac yn trin pobl o 18 oed sydd ag anawsterau emosiynol, ymddygiadol neu iechyd meddwl. I gael atgyfeiriad at CAMHS siaradwch a’ch meddyg teulu.
Iechyd Mislif
Pecyn Cymorth Addysgol Iechyd Mislif – Dan 18
Nod y pecyn cymorth hwn yw grymuso pobl ifanc drywy ddarparu gwybodaeth gywir am eu cyrff a’u hiechyd mislif. Maen nhw’n angerddol am wella addysg ar beth yw cylch mislif ‘normal’ a sut i gael mynediad at gymorth. Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys pynciau fel: cylchoedd mislif, cynhyrchion mislif, atal cenhedlu, cyflyrau iechyd mislif a heintiau. I Lawrlwytho’r PDF pecyn cymorth am ddim, cliciwch yma https://menstrualhealthproject.org.uk/toolkits/teenage-menstrual-health-toolkit/
Cyngor Ariannol
Money Helper
Canllaw gwybodaeth ar dalu eich ffordd a chymryd cyfrifoldeb am symud allan am y tro cyntaf. Bydd y canllaw hwn yn helpu i ddadansoddi’r costau dan sylw, gan gynnwys llety, bwyd, cyfleustodau, ffôn symudol/band eang, trwydded deledu ac ati. I gael mynediad at hyn cliciwch yma – www.moneyhelper.org.uk/en/family-andcare/student-and-graduate-money/paying-your-own-way?source=mas#
Iechyd Rhywiol
INFO Shop
Gwasanaeth iechyd rhywiol cyfrinachol am ddim i bobl ifanc hyd at 26 oed. Mae’r INFO Shop yn cynnig dulliau atal cenhedlu am ddim – galwch heibio i gofrestru yn yr INFO Shop, Wrecsam, ar agor o 11:30. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth nyrsio ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener o 15:00 i gael mynediad at y gwasanaeth mewnblaniad, pigiad depo, profion beichiogrwydd, profion STI/HIV, gwybodaeth a chefnogaeth. Manylion cyswllt – 01978529600 neu infoshop@wrexham.gov.uk
Clybiau Ieuenctid
Clwb Ieuenctid Llai
Dydd Llun 6-8pm yn y Rockery, Llai. Am ddiweddariadau rheolaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Mwynglawdd
Dydd Mawrth 6-8pm yng Nghae Pel-droed Mwynglawdd neu Gynhwysyss Neuadd y Plwyf. Am ddiweddariadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Llannerch Banna
Dydd Mawrth 6-8pm yn Neuadd Llanerch Banna. Am ddiweddariadau ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Brymbo
Dydd Llun a dydd iau 6-8pm yng Nghynhwysydd Golygfa Caer. Am ddiweddariadau rheolaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Rhiwabon
Dydd Iau 6-8pm, lleoliad i’w gadarnhau. Am ddiweddariadau reholaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Bwlchgwyn
Dydd Mercher 6-8pm, yn Neuadd Bentref Bwlchgwyn. Am ddiweddariadau reholaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Cefn Mawr
Dydd Llun a dydd Mercher 6-8pm, yn Neuadd George Edward. Am ddiweddariadau reholaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Coed-Poeth
Dydd Llun 6-8pm, yng Nghae Adwy. Am ddiweddariadau reholaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Parc Caia
Dydd Mawrth 5-7pm, yn y Ganolfan, Ffordd y Tywysog Siarl. Am ragor o wybodaeth – 01978310984 neu www.facebook.com/caiapark.youthteam
Clwb Ieuenctid Gwersyllt
Dydd Mercher 4-6pm, yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt. Am ddiweddariadau reholaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
Clwb Ieuenctid Y Vic
Dydd Iau 6:30-08:45pm, Dydd Sadwrn 12-3pm. Am ddiweddariadau reholaidd ac unrhyw newidiadau i’r rhaglen – www.youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/


