Bywydau Ifanc Wrecsam – Y gig gorau i mi fynd iddo erioed!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

 

Bywydau Ifanc Wrecsam

Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno â myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.  Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn arddangos eu herthyglau, sy’n cynnwys ‘Bywyd adolygwr pêl-droed’, ‘Barn am Brexit ar gyfer pobl ifanc’, ‘Taith i’r lleuad’, ‘Sut i adeiladu cyfrifiadur’, ‘Fy hoff albwm’, ‘Fy hoff gig’, ‘Pethau y buaswn yn newid yn Wrecsam’, ‘Pethau dw i’n eu hoffi am Wrecsam’.

Mae’r prosiect yn gyfle i chi siarad am lawer o bethau (dim byd anweddus) a gallwch wneud hynny drwy gyfrwng fideo, erthygl neu animeiddiad.   Os hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect ‘Bywydau Wrecsam Ifanc’ yna cysylltwch â ni.

 

 

Dw i wedi bod i sawl gig hyd yma, ond heb os y gig gorau i mi fynd iddo oedd gig Bring Me the Horizon ym Manceinion ym mis Tachwedd 2016.

 

Es i gyda fy chwaer a’i ffrind ac fe wnaethon ni benderfynu mynd i’r arena yn gynnar iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cael lle reit ym mhen blaen yr arena. Fe wnaethon ni gyrraedd tua 10am ac aros. Fe wnaethon ni gyfarfod rhai pobl neis iawn ac aethon ni i brynu blancedi gan ei fod yn andros o oer ym mis Tachwedd. Fe wnaethon nhw ddechrau gadael pobl i mewn am 5pm ac fe wnaethon ni ruthro i geisio cyrraedd y ffensys.

 

Fe wnaethon ni lwyddo i gyrraedd y blaen ac roedden ni’n gobeithio na fydden ni’n cael ein gwasgu gan y miloedd o bobl eraill yn y dyrfa. Roeddwn yn 14 oed ar y pryd ac roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn y dyrfa yn bobl fawr a chryf oedd o leiaf 30 oed, felly roedd y siawns o gael fy ngwasgu yn eithaf uchel. Yn ffodus iawn, wnes i ddim cael fy ngwasgu yn rhy wael.

 

Un peth arall wnaeth olygu mai hwn oedd y gig gorau i mi fynd iddo erioed oedd y band oedd yn chwarae gyntaf, sef Don Broco. Dyma’r tro cyntaf i mi glywed y band ac rwyf wedi gwrando llawer ar eu cerddoriaeth ers hynny. Roedd y band yn llawn egni a’r dorf wrth eu bodd. Roedden nhw wedi gosod y sylfaen ar gyfer Bring Me the Horizon.

 

Roedd yr effeithiau ar y llwyfan pan ddaeth Bring Me the Horizon ymlaen yn anhygoel https://www.youtube.com/watch?v=s8lVlryQLic ac wrth i bob aelod o’r band ddod allan roedd y dorf yn gwneud mwy a mwy o sŵn.

 

Roedd yr holl set yn anhygoel ac fe wnaethon nhw chwarae rhai o’u hen ganeuon gan gynnwys rhai o’m ffefrynnau.

Yn ystod y gyngerdd, dywedodd y canwr Oli wrth bawb i neidio a hyd yn oed ar un pwynt ar un o’r caneuon olaf fe wnaeth annog y gynulleidfa i syrffio ar draws y dorf. Ceisiodd y swyddogion diogelwch yn y blaen gael pawb i lawr mor gyflym â phosibl, fodd bynnag, ar un pwynt fe wnaeth un boi roi cic i mi yn fy mhen wrth iddo gael ei lusgo i ffwrdd o’r dorf. Roedd yn brifo ond wnaeth hynny ddim fy atal rhag neidio i weddill y gân. Dyma gysylltiad i’r cyngerdd pan aeth y dorf ati i syrffio – https://www.youtube.com/watch?v=DgQFi6x8kd4.

 

Roedd yr holl gyngerdd yn wallgof, roedd y gerddoriaeth yn anhygoel o uchel yn enwedig gan fy mod i yn y blaen ac roedd awyrgylch yr holl bobl o’m cwmpas yn neidio ac yn pendoncian i’r caneuon yn gwneud y cyfan yn well byth. Hyd yn oed pan gefais fy ngwasgu roedd yn brofiad anhygoel ac o’i gymharu â’r cyngherddau eraill rwyf wedi bod iddyn nhw, roedd yn llawer mwy bywiog.

 

Yn y cyngherddau eraill rwyf wedi bod iddyn nhw, rwyf wedi bod yn yr eisteddle a doedden nhw ddim mor agos atoch â’r cyngerdd hwn, fel yr adeg pan es i weld P!nk neu roedd yn gyngerdd mwy dof fel yr adeg pan es i weld EDEN yn 2017 a 2018 pan oedd y caneuon yn llawer mwy araf ac roedd yr holl brofiad yn fwy hamddenol.

 

Felly, oherwydd hyn i gyd, gig Bring Me the Horizon yw’r gig gorau erioed i mi fod i’w weld.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham