CWRS AM DDIM! Sut i warchod eich plant rhag cyffuriau!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Rydym yn cynnal cwrs Seibiant i Rieni – ‘Sut i warchod eich plant rhag cyffuriau’.

Bydd hwn yn cynnwys 6 x sesiwn wyneb yn wyneb  ar foreau Mawrth rhwng 09:30 a 11:30am:

18 Ebrill 2023,  25 Ebrill 2023,  2 Mai 2023,  9 Mai 2023,  16 Mai 2023  a  23 Mai 2023.

Bydd y rhain yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Buddug, Stryt yr Allt, Wrecsam, LL11 1SN.

***Am ddim***

Mae’r cwrs hwn yn addas i rieni plant sy’n 8 oed neu’n hŷn.

Rhaid i chi gael ffurflen atgyfeirio wedi’i llenwi os ydych chi’n dymuno cymryd rhan (gweler ynghlwm). Derbynnir hunan-atgyfeiriadau hefyd. Sylwch mai cwrs i’r rhieni yn unig yw hwn ac yn anffodus, ni allwn ddarparu cyfleusterau gwarchod. Rhaid i bawb sy’n dymuno cymryd rhan allu ymrwymo i bob un o’r 6 sesiwn.

Y dyddiad cau ar gyfer atgyfeiriadau yw dydd Gwener 7 Ebrill 2023.

Gan roi pwyslais ar atal, mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i:

– Roi trosolwg realistig i rieni o’r defnydd o gyffuriau mewn cymdeithas a’r niwed cysylltiedig

– Rhoi dealltwriaeth i rieni o ffactorau amddiffynnol a’r rhan y maen nhw’n ei chwarae wrth helpu llywio ein plant oddi wrth ddefnyddio cyffuriau

– Helpu rhieni i sefydlu strategaethau a fydd yn cryfhau eu dylanwad mewn meysydd fel eu lles eu hunain, cyfathrebu ac ymateb i faterion fel defnyddio alcohol

– Addysgu a grymuso rhieni drwy roi sgiliau a strategaethau iddyn nhw a fydd yn cael dylanwad ar ddewisiadau eu plant mewn perthynas â defnyddio cyffuriau

– Rhoi ymdeimlad o gymorth yn y gymuned i’r rhieni.

Y Sesiynau

Sesiwn 1 – Rhianta drwy atal

Sesiwn 2 – Datblygu sylfaen gadarn

Sesiwn 3 – Creu uniondeb cymeriad a chyfrifoldeb

Sesiwn 4 – Cyfathrebu a chymryd rhan

Sesiwn 5 – Creu ‘rhwydwaith diogel’ a thawelwch meddwl

Sesiwn 6 – Cydnabyddiaeth a chadarnhad

Os oes gennych chi ddiddordeb, neu os gwyddoch chi am rywun sydd â diddordeb yn y cwrs hwn, llenwch y ffurflen atgyfeirio sydd ynghlwm a’i hanfon dros e-bost i inspire@wrexham.gov.uk neu in2change@wrexham.gov.uk.

Mae croeso i rieni eu hatgyfeirio eu hunain os hoffen nhw.

Cysylltwch ag: Amy Williams ar 07876 651953 neu Carly Wilson ar 07557497265 i gael rhagor o wybodaeth.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham