Digwyddiad Recriwtio Gwaith Ieuenctid!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Yn Eisiau

Ydych chi yn weithiwr ieuenctid cymwys; ydych chi eisiau bod yn weithiwr ieuenctid neu’n meddwl am wirfoddoli? Os felly, dewch draw am goffi ac i’n gweld ni yn ein Digwyddiad Recriwtio Gwaith Ieuenctid ☕😃

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio yng Nghanolfan Pobl Ifanc Victoria Wrecsam ddydd Mercher 28 Mehefin 2023:

  • Mae’r sesiwn bore/cinio rhwng 10am – 2pm
  • Mae sesiwn yr hwyr rhwng 5pm – 7pm

Bydd hyn yn gyfle i gyfarfod gweithwyr ieuenctid o’r prosiectau amrywiol o fewn y gwasanaeth a darganfod mwy am yr holl waith cyffrous a gaiff ei wneud gyda’r bobl ifanc yn Wrecsam.

P’run ai a ydych wedi ymgeisio’n flaenorol neu â diddordeb mewn ymgeisio dewch draw i sgwrsio gyda ni fel y gallwn ni i gyd ddeall y daith.

Anfonwch neges destun at Andrea Jackson i nodi pa sesiwn rydych yn ei ffafrio – 07800 689104

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham