Gwasanaethau Sy’n Agored Dros Y Nadolig

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Nid wyt ti dy hun dros y Nadolig!

Mae’r cyfnod Nadolig yn gallu bod yn llawer o hwyl llawn llawenydd, chwerthin ac anrhegion. Ond i lawer o bobl ifanc, mae’r Nadolig yn gallu golygu ffraeo, unigedd a phoeni.

Os oes gen ti rywbeth ar dy feddwl hoffet ti ei rannu dros y Nadolig, mae yna gefnogaeth ar gael o hyd! Dyma restr o rhai o’r gwasanaethau sydd yn gallu cynnig cefnogaeth yn ystod y gwyliau.

Samariaid

Beth bynnag sydd yn digwydd, gall y Samariaid wynebu hyn gyda thi. Mae’r Samariaid yn agored 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Gellir ffonio’r Samariaid am ddim ar 116 123. Neu, os nad wyt ti’n hoff o siarad ar y ffôn, gellir e-bostio’r Samariaid a chael ymateb o fewn 24 awr. Y cyfeiriad e-bost ydy: jo@samaritans.org

Mae ganddynt linell iaith Gymraeg hefyd ar 0808 164 0123 (7yh – 11yh bob dydd).

Childline

0800 1111

Llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc yn y DU. Mae galwadau am ddim ac ni fydd y rhif yn ymddangos ar eich bil ffôn. 

CALM

0800 58 58 58

Mae Thecalmzone.net yn llinell gymorth ar gyfer dynion sy’n teimlo’n isel neu ddim yn siŵr lle i droi am reswm penodol, ac sydd angen siarad neu gael gwybodaeth a chefnogaeth. Maent ar agor rhwng 5pm a hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Meic

Meic yw’r llinell gymorth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gellir ffonio, tecstio, neu sgwrsio ar-lein rhwng 8 a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos – hyd yn oed ar ddydd Nadolig. Os wyt ti dan straen neu’n poeni am ble i gael cymorth yn y dyddiau yn arwain at y Nadolig, neu’n ofni’r diwrnod ei hun, gall Meic dy helpu i gael drwyddo.

Mae Meic yn darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ddwyieithog yn gyfrinachol ac am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed, 16 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.

Llinell Testun Crisis

Mae Llinell Testun Crisis yma ar gyfer unrhyw argyfwng. Bydd Cynghorydd Argyfwng wedi’i hyfforddi yn derbyn y neges testun ac yn ymateb, i gyd o’n llwyfan ar-lein diogel. Bydd y Cynghorydd Argyfwng gwirfoddol yn dy helpu i symud o gyfnod poeth i gyfnod oer.

Tecstia HOME i 85258 o’r DU i dderbyn cefnogaeth 24/7 am ddim ar flaen dy fysedd.

Shout

Mae Shout yn wasanaeth neges testun 24/7 cyfrinachol sydd yn cynnig cefnogaeth os wyt ti mewn argyfwng ac angen cymorth yn syth. Mae llinell neges testun Shout ar gael bob tro os wyt ti’n stryglo ac angen siarad.

Tecstia SHOUT i 85258 i gael mynediad i linell neges testun Shout.

GIG 111 Cymru

Mae GIG 111 yn cynnig cymorth a chyngor meddygol sydd ddim yn argyfwng i bobl sydd yn byw yng Nghymru. Mae’n agored 24 awr y dydd, 265 diwrnod y flwyddyn. Mae rhif cyswllt y gwasanaeth yn newid yn ddibynnol ar ble yng Nghymru rwyt ti’n byw.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham