Bydd Diwrnod y Cadoediad yn cael ei gofio Dydd Gwener 11 Tachwedd ar Sgwâr y Frenhines a bydd y seiren ymosodiad awyr yn cael ei chanu ar gyfer hyn am 11am.
Mae’r seiren yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n bosibl ei chlywed mor bell â 2.5 milltir o ganol y ddinas
.
Bydd dau funud o dawelwch yn cael ei gynnal ar Sgwâr y Frenhines ddydd Gwener 11 Tachwedd 11am.
Am 10.59am, bydd biwglwr yn senio’r Post Olaf.
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd.