Mae ein sesiynau Galw Heibio yn ystod yr Haf wedi bod yn rhedeg drwy gydol gwyliau’r haf, ac mae gennym ychydig o ddyddiadau ar ôl ym mis Awst.
Os ydych chi eisoes ar ein rhestr aros, neu os oes rhywbeth yr hoffech siarad amdano gyda chwnselydd, gallwch alw heibio am sgwrs anffurfiol. Does dim angen trefnu apwyntiad – galwch heibio i’n gweld.
📍 Siop INFO, Stryd Lambpit, Wrecsam
🕐 1pm–3pm
Dyddiadau:
• Dydd Mercher 12 Awst – Heddiw!
• Dydd Llun 17 Awst
• Dydd Mercher 19 Awst
• Dydd Llun 24 Awst
• Dydd Mercher 26 Awst
Gallwch ddod ar eich pen eich hun, neu gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo. Bydd gennym amser i wrando a siarad pethau drwodd gyda chi, yn gyfrinachol. 🩵
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cyn galw heibio, cysylltwch â’r tîm:
01978 295630
outside_in@wrexham.gov.uk


