
Mae 17 Mai yn Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, mae hefyd yn cael ei alw’n “IDAHOBIT” – mae’n ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaethu, trais ac erledigaeth barhaus o bobl LHDTC+ ar draws y byd.
Mae’r dyddiad hwn yn nodi’r diwrnod y penderfynwyd dileu cyfunrywiol fel math o salwch meddwl gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 1990. Er gwaethaf hyn, mae pobl yn parhau i wynebu casineb, beirniadaeth a thrais.
Rydym yn sefyll gyda’n Cymuned LHDTC+. Os ydych angen siarad gyda gweithiwr ieuenctid dewch i’r Siop Wybodaeth neu cysylltwch â ni i gael cefnogaeth.
infoshop@wrexham.gov.uk
01978 295600