Mae casineb yn brifo

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Sut i roi gwybod am drosedd gasineb

Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb yn eich erbyn, gallwch hysbysu’r Heddlu neu’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (sy’n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr). Gallwch hefyd roi gwybod am y troseddau hyn os ydych yn gweld nhw’n digwydd i rywun arall.

Bydd yr Heddlu neu Cymorth i Ddioddefwyr yn gallu cynnig cymorth i chi ymdopi â’r hyn sydd wedi digwydd i chi a’ch helpu i benderfynu ar y camau nesaf. 

Yr Heddlu

Mewn argyfwng, ffoniwch 999

Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101

Cymorth i Ddioddefwyr

Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle’r Heddlu. Maen nhw’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru. 

Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim ac ar unrhyw adeg ar 0300 3031 982.

Ewch i’r wefan lle y gallwch roi gwybod am drosedd gasineb a chael rhagor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham