Rydw i’n gwau. Ie dyna chi. Rydw i’n gwau.
Na, does gen i ddim gwallt gwyn.
O, a dydw i ddim yn Nain i neb.
Mae’n rhywbeth rydw i wirioneddol yn ei fwynhau. Byddaf yn gwneud pêl o wlân yn rhywbeth arbennig, rhywbeth y gallaf ei wisgo, rhywbeth unigryw. Nid oes gan unrhyw un arall yr un fath. – Pa mor cŵl ydi hynny?
Mae rhai pobl yn mwynhau chwarae gemau cyfrifiadurol ar-lein, eraill ar ‘snap chat’…wel gallaf wau a gwylio teledu ar yr un pryd.
Rydw i hefyd yn ymlacio, a dyna rywbeth mae pob un ohonom ei angen yn ein bywydau – ymlacio ychydig. Rhywbeth i gymryd ein meddyliau oddi ar y diwrnod rydym wedi ei gael, problemau sy’n eich poeni, neu’r ffaith nad oes dim i’w wylio ar y teledu.
Rydw i wedi gwau sanau, hetiau, menig a theis ond mae gen i uchelgais i wau rhywbeth mwy, gwell, ac i mi fy hun – felly dyma yw’r hyn rydw i’n bwriadu ….
Unwaith y byddaf wedi gorffen (ac efallai y bydd yn cymryd cryn amser i mi) mi ddangosaf lun o’r hyn rydw i wedi ei lunio a gweld os allaf eich darbwyllo chi ei fod o’n beth da i fod ychydig yn anarferol!