Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yn grŵp o dros 50 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 25 oed sy’n byw ledled Cymru a Lloegr. Ei nod yw cynorthwyo gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i gyflawni gwelliannau i’r system cyfiawnder teuluol fel ei fod yn darparu’r canlyniad gorau i blant sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder teuluol.
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yn helpu i sicrhau bod y gwaith yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn cynnwys y plentyn drwy alluogi pobl ifanc i gael llais uniongyrchol, gan gymryd rhan yn yr holl gyfarfodydd, gweithio’n agos gyda grwpiau pobl ifanc a rhanddeiliaid eraill ym maes cyfiawnder teuluol.
Mewn cydweithrediad â Cafcass (y Weinyddiaeth Gyfiawnder) a Cafcass Cymru (Llywodraeth Cymru) mae’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc wedi cytuno i recriwtio nifer digynsail o aelodau Cymru i’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc, bydd 10 swydd bwrdd yn agored i bobl ifanc o Gymru, rhwng 7 a 25 oed â phrofiad o’r system cyfiawnder teuluol neu ddiddordeb ynddi.
Os cânt eu penodi bydd aelodau’r bwrdd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o waith yn gysylltiedig â chyfiawnder teuluol ledled Cymru a Lloegr gan gynnwys cyflwyniadau, arolygiadau, hyfforddi a gweithdai, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain. Mae Aelodau’n cael eu talu am eu hamser yn ogystal â chael sgiliau a phrofiadau bywyd gwerthfawr. Mae’r poster a atodir a gwefan y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yn esbonio hyn yn fanylach.
Yn gyffredinol, ni ddylai ymgeiswyr fod ag achos llys teulu byw neu achos cymhleth iawn sydd newydd ddod i ben. Fodd bynnag, byddai’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yn fwy na pharod i drafod pob unigolyn yn seiliedig ar ei amgylchiadau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Chwefror 2018. Os oes gan eich cydweithwyr rywun mewn golwg a fyddai’n cael budd o’r profiad o fod yn rhan o’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc anogwch hwy i gysylltu â’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc drwy’r cyfeiriad e-bost isod i gael pecyn cais cyn gynted â phosibl fjypb@cafcass.gsi.gov.uk