Diweddariad Pwysig: Newidiadau i Oriau Agor Clinig Iechyd Rhywiol Siop Info
Mae gennym rai newyddion trist i’w rhannu ynglŷn â gwasanaethau Clinig Iechyd Rhywiol y Siop Info. Mae GIG Cymru wedi gwneud y penderfyniad anodd i leihau nifer y dyddiau y gall y Siop Info weithredu ei Chlinig Iechyd Rhywiol. Yn anffodus, maen nhw wedi dewis torri’r diwrnod clinig ar ddydd Llun.

Beth Mae Hyn yn ei Feddwl? O ddydd Llun 2 Mehefin 2025 ymlaen, ni fydd Clinig Iechyd Rhywiol y Siop Info ar gael mwyach ar ddydd Llun. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaethau hyn i bobl ifanc yn ein cymuned, ac rydym yn drist iawn am y newid hwn. Nodwch fod y penderfyniad hwn y tu allan i’n rheolaeth, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gennych chi fynediad at y cymorth sydd ei angen arnoch.
Dal Yma i Chi ar Ddydd Llun: Er nad fydd y nyrsys a’r gwasanaeth clinig llawn ar gael ar ddydd Llun, bydd y Siop Info yn dal i gynnig Gwasanaeth Galw Heibio Iechyd Rhywiol o 11:30yb ymlaen. Gallwch chi barhau i gael mynediad at:
- Condoms am ddim
- Profi STI ar gyfer Clamydia a Gonorea yn Siop INFO
- Profi beichiogrwydd a chyngor ar gyfer beichiogrwydd heb ei gynllunio
- Casglu pecyn “profi a phostio” sgrinio STI llawn i’w wneud gartref
- Gwybodaeth a chyngor
Bydd ein staff gwaith ieuenctid ar gael i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad yn ystod y cyfnod hwn.
Clinig ar Ddydd Mercher a Dydd Gwener: Bydd cynnydd bach yn oriau’r clinig ar y dyddiau hyn, felly gallwch alw heibio rhwng 2:30yp a 5:30yp. Gobeithiwn y bydd 2 nyrs ar ddyletswydd.
Cefnogaeth Amgen a Sut i Wneud Apwyntiad: Gallwch hefyd gael mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol trwy linell apwyntiadau Maelor drwy ffonio 03000 847662. Mae’r llinell apwyntiadau ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9yb tan 1yp. Os nad ydych yn cael ateb ar unwaith, eu cyngor yw i chi gadw ati, gan y gall y llinell fod yn brysur.
Rydym yn Deall ei bod yn Anodd: Rydym yn gwybod y bydd hyn yn effeithio ar lawer ohonoch, ac rydym eisiau mynegi ein tristwch bod staff y Siop Info yn gweld y newid hwn yn digwydd. Rydym bob amser wedi bod yn falch o gynnig cefnogaeth, ac mae’n drasiedi ein bod yn colli un o’n dyddiau clinig prysuraf. Cofiwch ein bod yma i chi, a byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â GIG Cymru i sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol yn y ffordd orau bosibl o dan yr amgylchiadau newydd hyn.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth ac yn eich diweddaru’n rheolaidd!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.
Cysylltwch â Siop Info: 01978 295600 / infoshop@wrexham.gov.uk
Gwasanaeth Galw Heibio Iechyd Rhywiol an – glinigol yn Siop INFO: Pob Dydd Llun o 11:30yb
Llinell Apwyntiadau Maelor: 03000 847662 (Ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:00 – 13:00)