Siarad Cymraeg
Does gen i ddim syniad a yw hyn yn ddefnyddiol ond dyma ychydig o hanes fy mhrofiad i o addysg Gymraeg.
Lewis Armstrong
Fel siaradwr Cymraeg, dechreuodd fy mhrofiad gyda’r iaith pan wnes i ddechrau dysgu’r iaith Gymraeg yn yr ysgol gynradd. Fe wnes i barhau â’m haddysg Gymraeg drwy fynd i ysgol uwchradd Gymraeg. Yn anffodus, ysgol fach oedd fy ysgol gynradd a doedd hi ddim yn flaengar iawn o’i chymharu ag ysgolion cynradd Cymraeg eraill felly roeddwn yn fwy cryf wrth ddarllen ac ysgrifennu’r Gymraeg yn hytrach na siarad yr iaith. Gan mai dim ond ychydig o’m ffrindiau oedd yn mynd i’r un ysgol â mi, roeddwn yn ffodus fy mod yn gallu siarad iaith nad oedden nhw’n ei deall ac roedd hyn yn werthfawr iawn gan fy mod yn gallu cyfathrebu gyda fy ffrindiau Cymraeg a doedd gan fy ffrindiau eraill, oedd ddim yn deall Cymraeg, ddim syniad beth roedden ni’n ei ddweud.
Mae hyn yn fanteisiol iawn mewn sawl ffordd, yn enwedig wrth chwarae gemau yn erbyn pobl ddi-Gymraeg gan ein bod yn gallu galw allan yn Gymraeg a does gan y tîm arall ddim syniad sut i wrthymosod. Er bod fy sgiliau Cymraeg wedi gwella’n araf, mae’r technegau gwahanol sydd eu hangen wrth ysgrifennu’r Gymraeg yn gofyn am lawer o reolau, yn dibynnu ar sut mae rhywbeth yn cael ei ysgrifennu. Weithiau, bydd y llythyren gyntaf yn newid i rywbeth arall yn y Gymraeg, a’r enw ar hyn yw “treiglo”. Er bod yn rhaid cofio rhai rheolau, ac roedd yn anodd cofio sut i sillafu rhai geiriau weithiau, yn y diwedd fe wnes i wneud cynnydd da ac roedd gennyf sgiliau Cymraeg eithaf da.
Fe wnes i ddatblygu’r sgiliau y cyfeiriwyd atyn nhw uchod yn yr ysgol uwchradd yn unig, gan nad oedd fy ysgol gynradd mor dda ac yn yr ysgol uwchradd roeddwn bob amser cam y tu ôl i bawb arall gyda fy sgiliau Cymraeg, nes ar ôl tua blwyddyn dechreuais deimlo fod fy sgiliau Cymraeg yn well nag erioed. Mae fy ngeirfa ychydig yn fwy cyfyngedig nag y byddwn yn dymuno iddi fod a gobeithio gallaf wella ar hyn oherwydd dydw i ddim eisiau colli’r Gymraeg, gan mai dyma iaith ein gwlad ac mae’n rhywbeth sydd wedi bod gennyf ers fy mhlentyndod. Er fy mod yn teimlo bod fy sgiliau Cymraeg wedi gwella, rwyf yn cael trafferth oherwydd problemau personol, dim byd mawr ond rwy’n ei chael yn anodd ysgrifennu pethau yn ramadegol gywir fel sillafu a strwythur brawddegau, mae’n bosibl eich bod yn gallu gweld rhai camgymeriadau rwyf wedi’u gwneud yma ac oherwydd fy mod wedi cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, rydw i’n teimlo bod fy Saesneg wedi dioddef rhywfaint gan nad oedd gwersi Saesneg yn yr ysgol gynradd o’r hyn dwi’n ei gofio, a’r unig ddosbarthiadau Saesneg i mi eu cael erioed oedd yn yr ysgol uwchradd, sef blwyddyn 7, pan oeddwn yn 12 oed, ac nid yw hyn yn dda iawn. Yn fy marn i, mae’r ffaith nad yw fy sgiliau Saesneg yn dda iawn yn rhannol oherwydd fy mod wedi bod i ysgol wael, ond fe wnaeth hyn effeithio ar fy ngallu i ddysgu Cymraeg hefyd. Rydw i wedi dechrau yn y coleg yn ddiweddar, ac mae symud o addysg Gymraeg i addysg Saesneg yn od. Rydw i’n methu’r addysg Gymraeg gan ei bod yn hwyl ac yn ddifyr ac roedden ni’n dysgu mwy o eiriau ac yn gwella ein sgiliau drwy addysg Gymraeg. Hoffwn petai ein system addysg wedi bod yn well pan oeddwn yn yr ysgol felly byddai fy sgiliau llafar Cymraeg yn well (dwi’n cael trafferth siarad Cymraeg yn bennaf gan fyd mod yn cael trafferth i siarad ac ynganu geiriau yn Saesneg neu Gymraeg) ond mae problemau’r system addysg yn stori ar gyfer diwrnod arall. Drwy gydol fy mywyd, mae pobl wedi dweud wrtha i ddegau o weithiau pa mor ddefnyddiol yw gallu siarad mwy nag un iaith. Rydw i’n deall y pwyntiau ac yn cytuno’n gryf, ond yr unig beth negyddol am yr iaith Gymraeg yw’r ffaith ei bod yn marw, a does bron iawn neb yn ei siarad y dyddiau hyn, ac mae hyn yn beth trist. Mewn ffordd, mae’r ffaith fy mod yn siarad Cymraeg yn fy ngwneud yn fwy arbennig gan nad oes llawer o bobl yn gyfarwydd â’r iaith ond mae’n beth gwael hefyd gan fod llawer o gasineb yn erbyn yr iaith ac mae pawb yn osgoi dysgu’r iaith os ydyn nhw’n cael y dewis. A bod yn onest, byddwn ni’n argymell bod unrhyw un sy’n cael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn gwneud hynny gan fod arnom angen mwy o siaradwyr Cymraeg, ac mae’n un o’r ieithoedd hawsaf i’w dysgu yn fy marn i ac yn un o’r gorau drwy’r ysgol. Rydw i wedi dysgu llwyth o ganeuon Cymraeg a gwrando ar ganeuon gwych, yn enwedig y rhai mae’r corau yn eu canu. Mae’r iaith Gymraeg yn fanteisiol iawn heddiw gan ei bod yn agor drysau i swyddi posibl ac yn rhoi mantais i chi dros bobl eraill mewn cyfweliadau ac mae hanes Cymru a’r iaith yn anhygoel. Rydw i bob amser wrth fy modd pan fyddaf yn clywed pobl yn siarad Cymraeg ac yn fy marn i dylai pawb geisio dysgu mwy am yr iaith a dysgu’r iaith.