
Hoffech chi gael dweud eich dweud am faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc?? Beth am i chi ddod draw i’n cyfarfod blasu i weld beth rydym ni’n ei wneud?
Mae Senedd yr Ifanc wedi penderfynu gwneud eu cyfarfod misol yn un agored i bobl ifanc gael dod i weld beth rydym ni’n ei wneud, neu i gyfarfod pobl ifanc eraill sy’n aelodau o’r Senedd i gael sgwrs am eu gwaith/prosiectau.
Beth am i chi alw draw….
Dyddiad – 27 Ionawr 2020
Amser – cyfarfod a chyfarch am 4.30pm
Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 5pm tan 8pm
Lleoliad – Siambrau’r Cyngor, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY
Hoffech chi fod yn rhan o Senedd yr Ifanc a helpu hyrwyddo’r gwaith mae’n ei wneud?
I GADW LLE neu i gael mwy o wybodaeth
CYSYLLTWCH Â’R Tîm Cyfranogiad:
youngvoices@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 317961 / 07800688979