Wrth drefnu’r digwyddiad codi arian eleni, penderfynodd pobl ifanc Bwlchgwyn wneud rhywbeth er budd Neuadd y Pentref. I wneud hynny fe benderfynon nhw fynd ar daith gerdded noddedig ar lwybr hyfryd Penllyn – Nant-y-ffrith. Dyluniodd Meg, Paige ac Amy ffurflenni noddi a roddwyd i bob cerddwr ifanc. Bu David Marsh yn garedig wrth gynllunio’r llwybr a chefnogi’r bobl ifanc ar hyd y daith.
Ar 17 Gorffennaf cyfarfu pawb yn Neuadd y Pentref i baratoi ar gyfer y daith, a daeth tyrfa dda o 23 ynghyd. Roedd yno 23 o bobl ifanc o’r ddarpariaeth, teuluoedd, gwirfoddolwyr, gweithwyr ieuenctid a Baxter y ci. Er gwaethaf y glaw ar ddechrau’r daith ni ddigalonnodd neb, ac i ffwrdd â nhw ar eu hantur.
Arweinydd y daith oedd Michael, un o bobl ifanc y ddarpariaeth, ac fe gafodd hwyl dda iawn arni. Fe lwyddodd y garfan i gyrraedd copa Penllyn, ac erbyn hynny roedd hi wedi rhoi’r gorau i fwrw glaw. Mwynhaodd pawb y golygfeydd godidog a bu’r bobl ifanc yn cael tynnu’u lluniau gyda’i gilydd. Ar y ffordd yn ôl bu David Marsh yn sôn am hanes diddorol Neuadd Nant-y-ffrith.
Cyrhaeddodd pawb yn ôl yn ddiogel i gael lluniaeth a thystysgrifau yn Neuadd y Pentref.
Yn awr bydd y bobl ifanc yn gweithio gyda Chymdeithas Neuadd Bentref Bwlchgwyn i weld pa adnoddau y gellir eu prynu â’r arian a godwyd, a fydd er budd y Neuadd a’r gymuned gyfan.
Hoffai Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam ddiolch i’r holl bobl ifanc am eu hymdrech ac i’r gwirfoddolwyr, teuluoedd a Gweithwyr Ieuenctid a helpodd i gynnal y daith gerdded.