WYTHNOS BROFI HIV CYMRU 18 – 24 Tachwedd 2024

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Wythnos Profi HIV Cymru yn ymgyrch flynyddol sy’n annog pobl Cymru i gael prawf HIV.

Beth yw HIV?

Mae HIV (firws imiwnoddiffygiant dynol) yn firws sy’n niweidio celloedd yn eich system imiwnedd ac yn gwanio eich gallu i frwydro yn erbyn heintiau a chlefydau bob dydd.

Pan fydd ein system imiwnedd wedi cael ei niweidio’n ddifrifol gan y firws HIV, AIDS (syndrom diffygiant imiwnedd caffaeledig) yw’r enw a ddefnyddir i ddisgrifio nifer o heintiau a salwch sy’n gallu bygwth bywyd sy’n digwydd oherwydd y difrod a achosir gan HIV.

Er na ellir trosglwyddo AIDS o un person o’r llall, mae’n bosib i HIV gael ei drosglwyddo.

Pam bod profion HIV mor bwysig?

Gall unrhyw un gael HIV. Y ffordd fwyaf cyffredin o gael HIV yn y DU yw drwy gael rhyw drwy’r rhefr neu’r wain heb gondom.

Y prawf yw’r unig ffordd o wybod eich bod wedi cael HIV. Gyda thriniaeth, gall pobl fyw bywyd hir ac iach, ac atal trosglwyddo’r firws i rywun arall. Heb gael y prawf, ni allwch gael triniaeth. 

Y cynharaf yn y byd y byddwch yn dechrau’r driniaeth, byddwch yn llai tebygol o fynd yn ddifrifol wael. Mae cael diagnosis hwyr yn gallu achosi difrod parhaol i’ch iechyd. 

Sut i gael prawf HIV

Yn y Siop Wybodaeth, mae gennym opsiynau i chi gael prawf ar gyfer y firws HIV.

  • Mae ein clinig Iechyd Rhywiol yn cynnig profion HIV – 

Ar gael dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 15:00pm a 17:30pm. Does dim angen apwyntiad gan mai clinig galw heibio ydyn ni. 

  • Codi pecyn profi gartref – 

Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod ein horiau agor i siarad â gweithiwr ieuenctid a chael pecyn profi gartref. 

Neu gallwch ffonio eich clinig iechyd rhywiol lleol am brawf neu archebu pecyn profi gartref ar-lein am ddim ynWales STI Testing Kit | Test and Post (shwales.online).

Yn y Siop Wybodaeth gallwch gael rhagor o wybodaeth am HIV drwy holi un o’n gweithwyr ieuenctid neu gael taflenni gwybodaeth.  

Drwy annog pobl i gael y prawf,

gallwn helpu i atal HIV.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham