ADTRAC
Mae’r prosiect hwn yn amlygu effaith gadarnhaol prosiect Dwyrain ADTRAC ar bobl ifanc yr Wrecsam a Sir y Fflint.
ADTRAC
Bydd ADTRAC yn dy helpu I gael gwaith, addysg neu hyfforddiant. Caiff y gwasanaeth yma ei gynnig ledled Gogledd Cymru gan dimau lleol a fydd yn llunio rhaglen bwrpasol I dy gefnogi ac I ennyn dy ddiddordeb.
Rydyn ni’n cynnig
- Cefnogaeth lawn un-I-un.
 - Cynlluniau gweithredu personol I ti eu dilyn.
 - Help I fagu hyder ac I oresgyn pethau sy’n dy rwystro rhag symud ymlaen.
 - Help ym maes lles, yn cynnwys cyfle I fantaisio ar ddarpariaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr I rai sydd ag anghenion iwechyd meddwl ysgafn/cymedrol.
 - Cyfle I gael hyfforddiant a fydd yn fodd I ti gyrraedd dy nod.
 - Cefnogaeth a fydd yn dy baratoi I weithio ac yn cynnwys amryw o gyfleoedd I gyrraedd dy nod.
 
Bydd y timau’n dy helpu I ddod I ddeall pethau’n well ac yn dy roi ar ben y ffordd yr wyt am ei chymryd, er mwyn I ti allu magu hyder yn dy allu a dy sgiliau.
Gallwn dy helpu os wyt ti;
- Rhwng 16 a 24 oed, ddim yn derbyn addysg na -waith.
 - Yn byw yng Ngogledd Cymru (ond ddim mewn ardal Cymunedau’n Gyntef).
 - Yn wynebu problemau sy’n dy rwystro rhag mynd ymlaen I gael addysg, swydd new hyfforddiant.
 
Cysylltwch
(01978) 295515
adtrac@wrecsam.gov.uk
                            
            

