SEXtember

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae hi’n ‘Sextember’, ac thema eleni yw ‘rhad, hawdd, trefnus, diogel’ ac mae’r cyfan yn ymwneud â chondomau.

Pam condomau?

Condomau (a dulliau rhwystro eraill) yw’r unig fath o atal cenhedlu sy’n amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac yn atal beichiogrwydd digroeso.

Gallant fod yn bwysig iawn os:

•            ydych chi’n cael rhyw gyda phartner newydd

•            ydych chi’n ansicr ynghylch statws eich partner o ran heintiau a drosglwyddir yn rhywiol

•            rydych chi eisiau amddiffyniad ychwanegol i leihau’r risg o drosglwyddo neu ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol

Dim ond un o nifer o wahanol fathau o atal cenhedlu sydd ar gael am ddim yng Nghymru yw condomau, felly mae’n siŵr bod un sy’n addas i chi ac i’ch ffordd o fyw.

Mae’r Siop INFO yn cynnig condomau am ddim tan eich pen-blwydd yn 26 oed!! Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda’n gwasanaeth, gallwch gasglu condomau am ddim heb unrhyw drafferth na barn.

Gall Gweithwyr Ieuenctid hyfforddedig yn INFO gynnig gwybodaeth am iechyd rhywiol, a chymorth gyda pherthnasoedd, dulliau atal cenhedlu ac iechyd rhywiol, yn ogystal ag unrhyw beth arall sydd ar eich meddwl.

Gallwch alw heibio, holi wrth y ddesg, cael sgwrs fer, cymryd rhai condomau a bwrw ymlaen â’ch diwrnod.

Os ydych chi yn Wrecsam ac eisiau condomau, cyngor neu arweiniad am ddim, dewch i weld y tîm yn yr INFO Shop; gallwch ddod o hyd i ni ar Stryd y Lampint, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae ein drysau ar agor o 11:30am.

Welwn ni chi cyn bo hir!

Related
News


Deprecated: Function WP_Query was called with an argument that is deprecated since version 3.1.0! caller_get_posts is deprecated. Use ignore_sticky_posts instead. in /var/www/vhosts/youngwrexham.co.uk/httpsdocs/wp-includes/functions.php on line 6170
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham