Derbyn Taliad i Rannu Dy Farn a Phrofiadau ar Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ydy hyn yn swnio fel ti?
● Rwy’n chwilio am gyflogaeth a hyfforddiant ar hyn o bryd, ond mae rhwystrau ac
mae’n anodd darganfod rhywbeth.
● Rwyf ymwneud â Twf Swyddi Cymru+ ar hyn o bryd.
● Oherwydd amgylchiadau personol, nid wyf yn teimlo fel y gallaf weithio. Hoffwn i
petai mwy o gyfleoedd wedi’u teilwro at fy anghenion i.
● Rwy’n gweithio, mewn addysg neu hyfforddiant, ond rwyf wedi wynebu rhwystrau yn
y gorffennol ac yn awyddus i helpu pobl ifanc eraill i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Y cyfle
Rydym yn chwilio am bobl ifanc 16-24 oed sydd yn byw yng Nghymru i fod yn rhan o Grŵp
Ymchwil Ymgynghorol.
Nid oes angen profiad blaenorol, ond rydym yn chwilio am ymrwymiad a pharodrwydd i
ddysgu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein eithaf rheolaidd. Bydd y panel yn cyfarfod
tua 6-8 gwaith dros y 18 mis nesaf. Rydym yn gobeithio cyfarfod am y tro cyntaf ar ddiwedd
mis Chwefror 2023.


I sicrhau bod yr ymchwil yn gallu helpu cymaint o bobl ifanc â phosib, hoffem recriwtio grŵp
o bobl ifanc sydd â phrofiadau bywyd amrywiol. Hoffem glywed yn benodol gan bobl sydd yn
teimlo fel eu bod wedi wynebu rhwystrau wrth chwilio am gyflogaeth neu hyfforddiant.
Beth wyt ti’n ei gael o hyn?
Mae bod yn rhan o grŵp ymchwil ymgynghorol yn ffordd wych i roi hwb i dy hyder, i gyfarfod
pobl newydd, ac i gynyddu’r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Byddi di’n derbyn y Cyflog Byw Cenedlaethol (£9.18 yr awr ar hyn o bryd) neu swm cyfatebol
mewn taleb o dy ddewis – pa bynnag un sydd orau gen ti!


Y tu allan i’r sesiynau yma, byddi di’n cael cefnogaeth i:
● Helpu ti i gael profiad gwaith mewn meysydd fel marchnata, siarad yn
gyhoeddus, fideo graffeg a chyfryngau cymdeithasol.
● Meddwl am dy sgiliau allweddol i roi ar dy CV
● Cysylltu ti gyda chyfleoedd eraill
Bydd y fentoriaeth yma am ddim i’r rhai sydd yn rhan o’r grŵp ymchwil ymgynghorol.
Beth fydd y gofynion arnat ti?
Yn ystod y broses ymchwil, byddant yn gofyn i ti gymryd rhan mewn amrywiaeth o
weithgareddau i helpu gyda’r ymchwil. Efallai bod hyn yn cymryd rhan mewn grŵp ffocws i
rannu adborth a phrofiadau, neu fod yn gwsmer cudd i weld sut brofiad yw cael mynediad i
gefnogaeth Twf Swyddi Cymru+.
Cefndir
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn fenter gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc sydd ddim
mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i gael mynediad i gyfleoedd fel y gallant symud
ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Mae’n rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol sydd â’r bwriad o helpu pob person ifanc 16-18
cymwys gyda chynnig o gyflogaeth, hyfforddiant, gwaith gwirfoddol neu hunangyflogaeth.
I sicrhau bod y rhaglen yn llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi’r gwerthuswr
annibynnol Wavehill. Eu tasg nhw ydy i werthuso’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ i weld yr hyn
sydd wedi bod yn llwyddiannus a’r hyn gellir ei wella.
Fel person ifanc, rwyt ti’n gallu cefnogi’r rhaglen wrth rannu dy brofiadau o gael mynediad i
addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, a’r ymdrechion sydd wedi bod ar hyd y ffordd.
Mynegi diddordeb
Os oes gen ti ddiddordeb yn y cyfle yma, mynega dy ddiddordeb wrth lenwi’r ffurflen yma.
Ceisiadau yn cau am 9yb ar 10fed Chwefror 2023. Wedi i ti ddatgan diddordeb, byddem yn
cysylltu i roi gwybod y canlyniad.
Os wyt ti’n cael dy ddewis i fod yn rhan o’r grŵp ymchwil ymgynghorol byddem yn trefnu
sgwrs anffurfiol am y rôl. Bydd y sgyrsiau anffurfiol yma yn digwydd yn ystod yr wythnos
sydd yn cychwyn ar y 13eg o Chwefror; bydd gweithgareddau yn cychwyn yr wythnos
ganlynol.


Cefnogaeth i gymryd rhan
Os wyt ti angen cefnogaeth gyda mynediad i dechnoleg fel cysylltiad i’r we neu ddyfeisiau,
yna noda hynny ar y ffurflen mynegi diddordeb. Ni fydd hyn yn cael unrhyw ddylanwad ar y
broses o ddewis pobl am y cyfle, ond bydd yn helpu ni i sicrhau ein bod yn gallu trefnu’r
ddarpariaeth gorau i ti.


Am wybodaeth bellach, cysyllta â sarah@promo.cymru

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham