Sut alla i #Dorri’rDuedd?
Mae pobl ar draws y byd yn rhannu neges Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cefnogi’r ymgyrch. Os ydych chi’n ymuno peidiwch ag anghofio defnyddio #Torri’rDuedd a #IWD2022
“Rwy’n meddwl bod pob dynes yn ein diwylliant yn ffeminydd. Efallai y byddent yn gwrthod ei fynegi, ond os cymerir unrhyw ddynes yn ôl 40 mlynedd a dweud, ‘ai dyma’r byd rydych eisiau byw ynddo?’, byddent yn dweud, ‘na’.”
– Helen Mirren (actores)
“Mae ffeministiaeth yn fudiad sy’n eirioli dros gydraddoldeb rhywiol. Nod ffeministiaeth yw i bawb gael eu trin yn gyfartal, dylai pawb allu cael mynediad at yr un cyfleoedd a chael rôl gyfartal o fewn cymdeithas.”
– Lowri (Second Voice Advocacy Co-ordinator)
“Peidiwch byth â meddwl nad ydych chi’n werthfawr ac yn bwerus ac yn haeddu pob cyfle yn y byd i ddilyn a chyflawni eich breuddwydion eich hun”.
– Natalie (Info & Advice Youth Worker, Info Shop)
“Credwch yng nghrym merched cymaint ag y byddech yn credu yng ngrym unrhyw un arall”
– Jackie(Info & Advice Youth Worker)
“Rwyf eisiau i bob merch a dynes wybod y gall eu lleisiau newid y byd. Peidiwch â bod ofn lleisio pan fyddwch angen i bethau newid, mae pobl eraill yn teimlo’r un fath”
– Katie (YHPS/Info & Advice Youth Worker)