In2change – Yfed Yn ymwybodol!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r Nadolig yn amser gwych o’r flwyddyn i dreulio amser gyda ffrindiau ac aelodau o’r teulu.  Boed hynny gartref, yn y dafarn neu mewn bwyty.

Mae hi hefyd yn hawdd gorwneud pethau a defnyddio’r esgus “O, mae’n ’Ddolig” ac o bosibl cymryd risgiau o ran ein hiechyd a’n lles, na fyddem fel arfer yn eu cymryd ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.

Er y dylem gael amser da dros y Nadolig, mae’n bwysig ein bod yn gofalu am ein hunain a’r bobl rydym yn gofalu amdanynt hefyd. Dylid cymryd camau a fydd yn caniatáu i ni fwynhau ein hunain mewn modd iach a diogel.

Ceir awgrymiadau isod ar gyfer Nadolig hwyliog a diogel wrth fynd allan.

Twelve tips to make the most of Christmas | Drinkaware

Mae In2Change yn brosiect cyffuriau ac alcohol cyfrinachol ac am ddim sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 25 ar sail wirfoddol.

I gael cymorth i atgyfeirio i In2change, anfonwch e-bost atom ni ar in2change@wrexham.gov.uk neu ffoniwch ni’n uniongyrchol ar 01978 295629

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham