Ydych chi’n barod i “Rocio’r Rhuban” ar gyfer Diwrnod AIDS y Byd?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Beth yw HIV?

Mae HIV (feirws imiwnoddiffygiant dynol) yn feirws sy’n ymosod ar y system imiwnedd. Os na chaiff ei drin, bydd system imiwnedd unigolyn yn dirywio’n llwyr yn y pen draw.

AIDS (syndrom diffyg imiwnedd caffaeledig) yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyfres o salwch a heintiau mae pobl yn eu cael yn ystod cam olaf haint HIV, unwaith y bydd y system imiwnedd wedi’i niweidio’n llwyr.

Ynglŷn â’n hymgyrch eleni

Mae’r Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol wedi ymrwymo i atal achosion newydd o HIV, amddiffyn hawliau pobl sy’n byw â HIV, ac ymladd dros y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig â HIV. Mae pobl sy’n byw â HIV wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac mae hynny’n cynnwys ymgyrch Diwrnod AIDS y Byd eleni. Rydym yn dathlu’r grŵp amrywiol o bobl sy’n ffurfio’r gymuned hon ac yn dathlu’r cynghreiriaid HIV sy’n sefyll ochr yn ochr â hwy i ymladd dros hawliau HIV.

Eleni, rydym yn gofyn i chi ddweud wrthym pam y byddwch yn #Rocio’rRhuban gyda’n cymuned ac yn gweithredu fel cynghreiriad HIV eleni. 

Mae Diwrnod AIDS y Byd yr amser perffaith i ni godi’r ymwybyddiaeth sydd wir ei angen am HIV.

Gallwch gasglu rhuban am ddim o’r Siop Wybodaeth! Gwisgwch ef i ddangos eich cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda HIV!

#rocio’rrhuban

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham