Siarad am Ryw
SEXtember yw ymgyrch flynyddol iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd rhywiol yn ystod mis Medi.
SEXtember 2022 – Ewch am brawf.
Gall HIV effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys chi. Gadewch i ni gael profion.
Cael rhyw? Ewch am brawf.
Gallai unrhyw un ddal HIV gan bartner rhywiol sydd â’r feirws HIV. Gall profi rheolaidd helpu i’ch amddiffyn chi a’ch partner, a helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
Mae profion yn rhad ac am ddim, yn hawdd ac yn gyfrinachol. Gallwch archebu pecyn profi gartref, neu fynd i un o’n clinigau iechyd rhyw neu’ch meddygfa.
Trefnwch eich prawf nawr
Gellir trin HIV, a gellir ei reoli’n ddiogel gyda meddyginiaeth. Mae llawer o bobl yn byw bywydau hir ac iach o gael triniaeth effeithiol, heb drosglwyddo’r feirws.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu, beichiogrwydd, STIs a rhyw gan INFO
01978 295600 – infoshop@wrexham.gov.uk