SEXtember

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Siarad am Ryw

SEXtember yw ymgyrch flynyddol iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd rhywiol yn ystod mis Medi. 

SEXtember 2022 – Ewch am brawf.

Gall HIV effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys chi. Gadewch i ni gael profion.

Cael rhyw? Ewch am brawf.

Gallai unrhyw un ddal HIV gan bartner rhywiol sydd â’r feirws HIV. Gall profi rheolaidd helpu i’ch amddiffyn chi a’ch partner, a helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.  

Mae profion yn rhad ac am ddim, yn hawdd ac yn gyfrinachol. Gallwch archebu pecyn profi gartref, neu fynd i un o’n clinigau iechyd rhyw neu’ch meddygfa. 

Trefnwch eich prawf nawr

Gellir trin HIV, a gellir ei reoli’n ddiogel gyda meddyginiaeth. Mae llawer o bobl yn byw bywydau hir ac iach o gael triniaeth effeithiol, heb drosglwyddo’r feirws.  

Gellir cael mwy o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu, beichiogrwydd, STIs a rhyw gan INFO

01978 295600 – infoshop@wrexham.gov.uk

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham